Toglo gwelededd dewislen symudol

Rhos Rhosili a Chlogwyni Rhosili

Mae bae ysgubol Rhosili ar ben pellaf Penrhyn Gŵyr. Gyda sgerbwd llongddrylliad ac ynys lanw Pen Pyrod Rhosili i'w gweld ar lanw isel, y ffordd orau i weld y cyfan yw dilyn llwybr sy'n dringo uwch ben y bae i Gomin Rhosili. Cewch olygfeydd ysblennydd a syfrdanol o'r fan honno.

Mae cylchoedd cerrig, carneddau a siambrau claddu cyn hanes ar y Comin hefyd. Mae Rhos a Chlogwyni Rhosili ymysg y tiroedd comin mwyaf ar benrhyn Gŵyr, ryw 354 hectar i gyd. Mae Rhos Rhosili'n cynnwys corbrysgwydd asid sych (cynefin blaenoriaeth y Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth) a Rhedyn yn bennaf. Mae'r safle'n cynnal bioamrywiaeth da o fflora a ffawna gan gynnwys nifer o rywogaethau a warchodir:

Mamaliaid: ysgyfarnog frown

Adar: ehedydd, brân goesgoch

Glöynnod byw: brith y gors

Gwyfynod mwy: gwalchwyfyn gwenynog

Gwas y neidr: mursen ddeheuol

Creaduriaid di-asgwrn-cefn eraill: morgrugyn du y gors, cacynen, pryf lladd

Mae nodweddion o ddiddordeb hanesyddol sylweddol hefyd ar y clogwyni a'r rhos. Mae olion gorsaf radar o'r Ail Ryfel Byd yn amlwg iawn ar ben y rhos i gyfeiriad y pen gogledd-orllewinol. O'r safle hwn roedd yr orsaf radar yn gallu anfon negeseuon cynnar i Abertawe am awyrennau'r gelyn a oedd yn agosáu. Ar y clogwyni i'r dde o'r llwybr sy'n arwain at Ben Pyrod, ceir twmpathau a ffosydd amlwg dan laswellt, sef olion Hen Wersyll y Castell, bryngaer o Oes yr Haearn.

Uchafbwyntiau

Dyma fan o harddwch naturiol syfrdanol sy'n cynnwys bywyd gwyllt toreithiog a llawer o ddiddordeb archeolegol.

Dynodiadau

  • Mae Rhos a Chlogwyni Rhosili yn dir mynediad agored y ddeddf CGHT
  • Mae Rhos Rhosili yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA)
  • Mae Rhos Rhosili yn Safle o Bwysigrwydd Cadwraeth Natur (SBCN)
  • Tir comin
  • Tir mynediad agored

Mae saith Heneb Gofrestredig (SAM) ar Ros a Chlogwyni Rhosili:

  • Carn gron ar Bessie's Meadow
  • Lloc ar Ros Rhosili
  • Twmpath cerrig llosg ar Ros Rhosili
  • Caer bentir Castell Lewes
  • Carneddau crynion Rhos Rhosili
  • Gwersyll yr Hen Gastell
  • Carneddau cellog Sweyne's Howe

Mae'r safleoedd hyn yn rhan o'r canlynol:

  • Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Gŵyr (AoHNE)
  • Tirwedd Gorllewin Gwyr sydd wedi'i chynnwys yn y Gofrestr o Dirweddau o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig yng Nghymru (CCGC/CADW: Henebion Hanesyddol Cymru/ICOMOS UK 1998, 53-56)

Cyfleusterau

  • Tafarn ym mhentref Rhosili
  • Bwyty/caffi ym mhentref Rhosili
  • Llogi offer syrffio ym mhentref Rhosili
  • Canolfan Ymwelwyr a Siop yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Rhosili
  • Toiledau cyhoeddus (ger Canolfan Ymwelwyr a Siop yr YG) yn Rhosili
  • Gwylwyr y Glannau (Gwylfa Gwylwyr y Glannau)
  • Bwthyn gwyliau yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol (y Rheithordy) yn Rhosili
  • Ty Bynciau Rhosili (Cymdeithas Hosteli Ieuenctid)

Gwybodaeth am fynediad

Map Explorer yr Arolwg Ordnans 164 Gŵyr

Nid yw'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn codi tâl am fynd ar eu tiroedd ar Benrhyn Gŵyr. Fodd bynnag, mae cyfraniadau gan ymwelwyr yn bwysig iawn ac yn cyfrannu at reolaeth barhaus ar y tir hwn y mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn ei warchod i'r cyhoedd i'w fwynhau.

Llwybrau troed

Mae llwybr sy'n addas i bawb o'r maes parcio yn Rhosili sy'n mynd rhan o'r ffordd tuag at Ben Pyrod. Mae sawl llwybr troed ar draws Rhos Rhosili ac ar hyd y clogwyni. Mae rhai'n serth ac yn anodd cerdded arnynt. Mae dwy daflen teithiau cerdded hunandywys ar gael ar gyfer yr ardal a gynhyrchir gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, sef 'Rhossili Down' a 'Worms Head, Mewslade a Fall Bay', ac ar gael o Ganolfan a Siop yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a siopau lleol.

Ceir

Maes parcio ym mhentref Rhosili - codir tâl ar adegau prysur.

Bysus

Mae gwasanaeth bysus rheolaidd o Abertawe i Rosili. Mae gwasanaeth bysus cyfyngedig o'r Mwmbwls i Rosili.

Llwybrau ceffyl

Mae sawl llwybr ceffyl yn croesi Rhos Rhosili ond dim ar hyd y clogwyni.

Close Dewis iaith