Toglo gwelededd dewislen symudol

Arhoswch yn ddiogel yn y dŵr yr haf hwn

Anogir ymwelwyr a phreswylwyr i aros yn ddiogel ger ein harfordiroedd a'n hafonydd yr haf hwn.

world drowning prevention day

Gan fod gwyliau'r haf bellach wedi dechrau i blant, mae Cyngor Abertawe'n annog teuluoedd i fod yn ofalus wrth y dŵr.

Mae boddi'n un o'r prif achosion marwolaeth ymhlith pobl ifanc ac ymunodd tîm Diogelwch Dŵr Abertawe â gwasanaethau brys lleol eraill ddoe i dynnu sylw at Ddiwrnod Atal Boddi'r Byd, ymdrech fyd-eang i gynyddu ymwybyddiaeth o'r mater a'r hyn y gall pobl ei wneud i ofalu amdanynt eu hunain ger ac yn agos at y dŵr.

Dywedodd Robert Francis-Davies fod Cyngor Abertawe'n gweithio'n agos gyda'r RNLI a fydd yn darparu achubwyr bywydau ar draethau yn Caswell, Langland/Rotherslade, Bae y Tri Chlogwyn a Phorth Einon/Horton yr haf hwn. Ond dywedodd fod yn rhaid i bawb chwarae eu rhan i aros yn ddiogel.

Mae gan ddyfrffyrdd fel yr afon Tawe ac ardaloedd y marina yng nghanol y ddinas gymhorthion achub sydd i'w gweld yn amlwg mewn ardaloedd prysur.

Ond dywedodd y Cynghorydd Robert Francis-Davies, Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, fod angen i deuluoedd ac oedolion ifanc - yn enwedig y rheini sydd wedi bod yn yfed - aros yn ddiogel.

"Diwrnod Atal Boddi'r Byd oedd y digwyddiad cyntaf o'i fath i dynnu sylw at y mater. Ychydig ohonom all ddychmygu trawma colli anwylyd o ganlyniad i foddi. Rydym yn gobeithio drwy oleuo Neuadd y Ddinas yn las nos Lun, y bydd pobl yn cymryd sylw ac yn cymryd camau i ddarganfod mwy am aros yn ddiogel a fydd yn helpu i atal damweiniau neu farwolaethau yn y dŵr.

"Rydym yn annog pobl sy'n ystyried mynd ar daith i'r traeth i ymweld ag un lle mae achubwr bywyd ar gael. Dylai unrhyw un sy'n mynd i'r dŵr barchu'r dŵr ar bob adeg a nofio rhwng y baneri coch a melyn. Os ydych chi'n bwriadu mynd i'r dŵr, peidiwch ag yfed."

Ychwanegodd, "Mae achubwyr bywyd yr RNLI wedi'u hyfforddi'n llawn ym mhob agwedd ar ddiogelwch traeth felly dylai unrhyw un sydd ag ymholiad holi achubwr bywyd, a fydd yn fwy na pharod i gynnig cymorth neu gyngor."

Meddai Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, "Mae'r traethau rydym yn eu rheoli ymysg y mwyaf hardd yn y DU ac yn denu miloedd o ymwelwyr drwy gydol y flwyddyn.

"Yn ystod yr haf, mae miloedd o bobl yn ymweld â'n traethau, yn enwedig yr haf hwn diolch i'r cyfnod estynedig o dywydd twym a heulwen.

"Dyna pam rydym wedi gweithio mewn partneriaeth agos ag achubwyr bywyd arbenigol yr RNLI ers blynyddoedd i sicrhau bod ein traethau'n cael eu goruchwylio ar yr adeg prysuraf."

I gael rhagor o wybodaeth ynghylch pryd y mae'r RNLI yn gweithredu ar draethau Abertawe a Gŵyr yr haf hwn, ewch i: www.abertawe.gov.uk/diogelwchdwrarytraeth

Os ydych chi'n rhiant a hoffech chi gael cyngor yr RNLI ynghylch aros yn ddiogel ger dŵr yr haf hwn, ewch i: www.rnli.org/safety

Os ydych yn sylwi bod cymorth achub bywyd ar goll, dywedwch wrth yr heddlu neu cysylltwch â'r Tîm Diogelwch Dŵr drwy ffonio 01792 635162 neu e-bostiwch diogelwch.dŵr@abertawe.gov.uk

 

Close Dewis iaith