Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Ardal Ganolog Abertawe: Adfywio'n Dinas er Lles a Bywyd Gwyllt

Diben y strategaeth hon, a gyhoeddwyd ar y cyd gan Gyngor Abertawe a Cyfoeth Naturiol Cymru, yw cyflwyno mwy o natur i Ardal Ganolog Abertawe.

Isadeiledd Gwyrdd - y cyfeirir ato'n aml fel IG - yw'r term a ddefnyddir i ddisgrifio'r holl fannau gwyrdd, pridd, llystyfiant a dŵr sy'n darparu'r gwasanaethau ecosystem sy'n gwneud lleoedd yn fwy anheddol. Mae hyn yn cynnwys, er enghraifft, coed ar y stryd, toeon a waliau gwyrdd, lleoedd chwarae naturiol, gerddi bywyd gwyllt/natur, coridorau ar gyfer peillwyr, tirlunio, draeniad a datrysiadau rheoli ansawdd aer. 

Gweledigaeth y Strategaeth:

Dinas gydag isadeiledd gwyrdd amlswyddogaethol o safon, sy'n darparu cydnerthedd, ffyniant, natur, iechyd, lles a hapusrwydd i ddinasyddion Abertawe a'r rheini sy'n ymweld â'r ddinas.

Y 5 egwyddor IG y byddwn yn eu rhoi ar waith er mwyn cyflawni'r weledigaeth hon:

1.    Amlswyddogaethol- sicrhau bod yr holl IG yng nghanol y ddinas yn darparu cynifer o fanteision â phosib. Er enghraifft, gall leihau llygredd a/neu lifogydd, cynnig lloches a/neu fwyd ar gyfer anifeiliaid brodorol (adar, pryfed a/neu famaliaid bach), darparu cysgod yn ystod dyddiau cynnes yr haf, a chreu lleoedd deniadol, dymunol a/neu dawel lle y gall pobl gwrdd, ymlacio a chwarae.

2.    Wedi'i addasu ar gyfer newid yn yr hinsawdd -amsugno dŵr er mwyn lleihau llifogydd, darparu rhywle i oeri yn yr haf a chynnal bywyd gwyllt. Mae IG hefyd yn helpu i liniaru effaith newid yn yr hinsawdd trwy ddal a chadw carbon.

3.    Iach - helpu'n hiechyd corfforol a meddyliol trwy amsugno llygredd, darparu awyr glân, dŵr glân, bwyd a lle i ymarfer, cymdeithasu a chwarae a lle i gael cyswllt â natur. 

4.    Bioamrywiaeth - cefnogi amrywiaeth eang o rywogaethau brodorol gan ddarparu lloches a bwyd a chreu coridorau gwyrdd ar draws canol y ddinas sy'n cysylltu â choridorau bywyd gwyllt strategol sydd eisoes yn bodoli.

5.    Clyfar a Chynaliadwy -darparu atebion, technegau a thechnolegau nad oes angen llawer o waith i'w cynnal a'u cadw ac sy'n lleihau llygredd a gwastraff ac sy'n defnyddio cymaint â phosib o ddeunyddiau wedi'u hailgylchu neu sy'n dod o ffynonellau cynaliadwy.  

Caiff llwyddiant ei fesur trwy nifer o ddangosyddion perfformiad a fydd yn gweithio tuag at dargedau i ddyblu IG (o 13% i 26%) erbyn 2030 a chynyddu gorchudd canopi coed i 20-25% erbyn 2044.

Lluniwyd y strategaeth i gefnogi'r Cynllun Datblygu Lleol a'r defnydd o Safon SDCau (Systemau Draenio Cynaliadwy) Statudol 2019. Mae hefyd yn cyflawni dyletswyddau'r cyngor o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 trwy Amcanion Lles y cyngor: Cynnal a gwella adnoddau naturiol a bioamrywiaeth Abertawe ac amcan Gweithio gyda Natur Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe.

Am wybodaeth bellach, e-bostiwch Penny Gruffydd yn penny.gruffydd@abertawe.gov.uk neu ffoniwch hi ar 01792 636583 neu 07976 898318.

Close Dewis iaith