Toglo gwelededd dewislen symudol

Sut i fod yn aelod o GGLlPBA

Gwahoddir ceisiadau gan unigolion sy'n dymuno cynrychioli'r sector pysgota a dyframaethu y mae'n bosib yr hoffent fod yn rhan o'r GGLlP a dod â'u harbenigedd mewn pwnc penodol i'r grŵp.

Fel aelod gwirfoddol o'r GGLlP, byddwch yn:

  • datblygu dealltwriaeth fanwl o Strategaeth Datblygu Lleol Pysgodfeydd Bae Abertawe 2017-2020 ac yn gweithio gyda hyrwyddwr GGLlPBA i'w hadolygu a'i diweddaru, gan sicrhau ei bod yn berthnasol.
  • cymryd ymagwedd ragweithiol tuag at glustnodi cyllid ar gyfer blaenoriaethau y cytunwyd arnynt yn y strategaeth.
  • gweithio gydag aelodau eraill o GGLlPBA i benderfynu ar y cynllun gwaith lleol a pha brosiectau neu weithgareddau i fuddsoddi ynddynt.
  • gallu mynd i gyfarfodydd rheolaidd i gefnogi'r gweithgareddau uchod.

Beth gall y GGLlP ei wneud i chi?

  • cynnwys rhanddeiliaid yn effeithiol
  • cynllunio a darparu prosiectau blaengar a chymryd rhan yn holl brosiectau'r GGLlP
  • grymuso cymunedau i fynd i'r afael â materion arfordirol sy'n effeithio arnynt
  • darparu deunydd addysgol i ysgolion, busnesau a chymunedau
  • galluogi cyfleoedd rhwydweithio trwy gynadleddau a digwyddiadau
  • gweithio'n effeithiol ar faterion/gyfleoedd ar gyfer yr arfordir gan ddefnyddio gwybodaeth ac arbenigedd ein haelodau i gyflwyno canlyniadau
  • hwyluso datrys gwrthdaro ar faterion arfordirol
  • derbyn yr wybodaeth arfordirol a morol ddiweddaraf
  • bod yn fwy gwybodus am benderfyniadau ar y polisi
  • cwrdd â phobl eraill yn y sectorau arforol mewn lleoliad diduedd
  • rhannu gwybodaeth ac arferion da
  • caiff eich syniadau eu clywed a'u trafod yn drylwyr yn ystod ein cyfarfodydd
  • cydweithio
  • derbyn cyfleoedd i ddylanwadu ar bolisi Ewropeaidd a'r DU.

Sut rydw i'n gwneud cais i fod yn aelod o GGLlPBA?

Yr hyn sydd angen i chi ei wneud yw cwblhau Ffurflen Mynegi Diddordeb a'i dychwelyd i GGLlP Bae Abertawe.

Close Dewis iaith