Toglo gwelededd dewislen symudol

Swyddfa Dai Ardal y Gorllewin

Mae'n cynnwys holl ardaloedd tai Gorseinon, West Cross a Sgeti ac mae ganddi swyddfeydd yng Ngorseinon a Sgeti.

Ardaloedd eraill a gynhwysir yn y swyddfa hon: Pontarddulais, Tal y Bont, Pontlliw, Dwyrain Dulais, Pengelli, Penyrheol, Gorseinon Canol a Dwyrain Gorseinon, Pontybrenin, Tre-gŵyr, Casllwchwr Isaf, Casllwchwr Uchaf, Penllergaer, Waunarlwydd, Dyfnant, y Crwys, Sgeti, Trecastell, Rhosili, Reynoldston, Penclawdd, Penmaen/Parkmill, Cilâ Uchaf, Llandeilo Ferwallt/Murton, Gogledd-orllewin Gŵyr, West Cross a Boarspit.

Swyddfa Gorseinon
Swyddfa Sgeti
Cyfleusterau'r swyddfa dai
Swyddogion cymdogaeth yn Swyddfa Dai Ardal y Gorllewin

 

Swyddfa Gorseinon (yng Nghanolfan Llyfrgell Gorseinon)

15 West Street, Gorseinon, Abertawe SA4 4AA

E-bost: swyddfadai.ardalygorllewin@abertawe.gov.uk

Rhif ffôn: 01792 897700

Amserau agor swyddfa Gorseinon
Dydd Llun9.00am - 1.00pm (ffonau ar gael 8.30am - 4.30pm)
Dydd Mawrth1.00pm - 4.00pm (ffonau ar gael 8.30am - 4.30pm)
Dydd Mercher9.00am - 1.00pm (ffonau ar gael 8.30am - 4.30pm)
Dydd Iau1.00pm - 4.00pm (ffonau ar gael 8.30am - 4.30pm)
Dydd Gwener9.00am - 1.00pm (ffonau ar gael 8.30am - 4.00pm)

Cyrraedd y swyddfa

 

Swyddfa Sgeti

Bloc 1, 2 Llys Clyne, Sgeti, Abertawe SA2 8JD

E-bost: swyddfadai.ardalygorllewin@abertawe.gov.uk

Rhif ffôn: 01792 897700

Amserau agor swyddfa Sgeti
Dydd Llun9.00am - 4.00pm (ffonau ar gael 8.30am - 4.30pm)
Dydd Mawrth9.00am - 4.00pm (ffonau ar gael 8.30am - 4.30pm)
Dydd Mercher9.30am - 4.00pm (ffonau ar gael 8.30am - 4.30pm)
Dydd Iau9.30am - 4.00pm (ffonau ar gael 8.30am - 4.30pm)
Dydd Gwener9.00am - 3.30pm (ffonau ar gael 8.30am - 4.00pm)

Cyrraedd y swyddfa

 

Cyfleusterau'r swyddfa dai

Mae gan bob un o'n swyddfeydd tai:

  • rampiau a rheiliau i ddrysau'r fynedfa ynghyd â drysau sy'n agor yn awtomatig
  • dolenni clyw i helpu pobl â nam ar y clyw yn y derbynfeydd ac mewn cyfarfodydd
  • cymhorthion cynorthwyol sy'n cynnwys hambyrddau arffed, pinnau gafael mawr, chwyddwydrau, lampiau golau dydd, canllawiau ysgrifennu
  • ystafelloedd cyfweliad preifat y gellir eu defnyddio i drafod gwybodaeth gyfrinachol neu os ydych eisiau preifatrwydd i gael help gan aelod o staff i ddarllen drwy ffurflen gymhleth gyda chi a'i chwblhau
  • arwyddion cyffyrddol

Mae staff sy'n siarad Cymraeg ar gael i siarad â chi a gallwch gael gwyodaeth ysgrifenedig am dai yn Gymraeg os gofynnwch am hynny. Gallwn ddarparu cyfieithwyr proffesiynol os oes angen iaith arall arnoch. Gofynnwch i aelod o staff yn ein swyddfa dai am help a chymorth.

Os ydych chi'n ei chael hi'n anodd galw heibio un o'n swyddfeydd, gallwn drefnu ymweliadau cartref. Cysylltwch â ni i drefnu ymweliad.

Close Dewis iaith