Toglo gwelededd dewislen symudol

Defnyddio taliadau uniongyrchol i dalu am ofal cartref

Mae'r dudalen hon i bobl sy'n defnyddio, neu'n ystyried defnyddio, taliad uniongyrchol i dalu am wasanaethau gofal.

Os yw aesiad gan y Gwasanaethau Cymdeithasol wedi nodi bod angen gofal a chefnogaeth arnoch ond nid ydych yn defnyddio taliad uniongyrchol, ni fydd yr wybodaeth hon yn berthnasol i chi.

Mae adolygiad yn cael ei gynnal ar hyn o bryd o'n Gwasanathau Taliadau Uniongyrchol a hoffem glywed am eich barn a'ch profiadau. Pe baech yn ystyried cwblhau'r arolwg, mynd i: 'Yr hyn sy'n bwysig' am Daliadau Uniongyrchol - ddweud eich dweud

Beth yw asiantaeth gofal cartref?

Busnesau yw asiantaethau gofal cartref sy'n hyfforddi ac yn cyflogi staff i ddarparu gofal a chefnogaeth i bobl sy'n byw yn eu cartrefi eu hunain. Mae dyletswydd arnynt i sicrhau bod y staff maent yn eu darparu i ddiwallu'ch anghenion wedi cael y gwiriadau cyflogaeth angenrheidiol a'u bod wedi'u hyfforddi'n briodol i ddiwallu'ch anghenion a byddant yn monitro hyn yn rheolaidd.

Bydd yr asiantaeth yn trafod â chi, eich teulu neu'ch gofalwr am y ffordd orau o ddiwallu'ch anghenion ac yn ysgrifennu hyn mewn cynllun cefnogi.

Mae asiantaethau gofal cartref wedi'u cofrestru a'u rheoleiddio gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) (Yn agor ffenestr newydd).

Fodd bynnag, nid yw pob asiantaeth yr un peth ac maent yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau gofal cymdeithasol, ar gyfraddau gwahanol, felly mae'n rhaid i chi adnabod un a allai ddiwallu'ch anghenion.  Er enghraifft, mae rhai'n cynnig cefnogaeth dim ond ar gyfer mathau penodol o angen, mathau o gleientiaid neu mewn ardaloedd penodol o Abertawe.  Hefyd, mae asiantaethau gofal cartref wedi'u cofrestru y tu allan i Abertawe sy'n darparu gwasanaethau i bobl sy'n byw yn ardal Abertawe.

Pam byddwn i'n dewis asiantaeth gofal cartref?

Mae prynu gwasanaethau gan asiantaeth gofal cartref yn golygu nad oes rhaid i chi gyflogi'n uniongyrchol y bobl sy'n darparu'ch gofal ac nid oes gennych gyfrifoldebau cyflogwr (byddai cyfrifoldebau cyflogwr os byddech yn cyflogi'ch cynorthwy-ydd personol eich hunan). Yn lle hynny, mae gennych gontract gyda'r asiantaeth.

Mae llawer o asiantaethau sy'n darparu gwasanaethau gofal.  Drwy ddefnyddio taliad uniongyrchol, nid ydych yn gyfyngedig i nifer bach o wasanaethau gofal cartref a ddewisir gan y cyngor a gallwch brynu gofal gan unrhyw asiantaeth gofal cartref cofrestredig a fydd yn gweithio yn eich ardal.

Pam y byddai angen i mi ddefnyddio taliad uniongyrchol?

Mae taliadau uniongyrchol yn rhoi mwy o hyblygrwydd, dewis a rheolaeth i chi ynglŷn â phwy sy'n darparu eich gofal a phryd rydych yn ei dderbyn.

Mae'n bosib bod rhai pobl eisoes wedi bod yn prynu gofal yn breifat gan asiantaeth gofal cyn cael eu hasesu i fod yn gymwys i gael cefnogaeth gan y Gwasanaethau Cymdeithasol. Os ydych yn dymuno parhau gyda'r un asiantaeth, a chadw'r staff gofal rydych eisoes yn eu hadnabod, gellir rhoi Taliad Uniongyrchol i chi fel cyfraniad at eich costau. Gallai dilyniant gofal fod yn arbennig o fanteisiol i bobl sy'n byw gyda dementia neu gyflyrau eraill sy'n achosi colli'r cof.

Fodd bynnag, byddwch yn ymwybodol efallai na fydd y Taliad Uniongyrchol yn cynnwys cost lawn y gofal gan yr asiantaeth yr ydych yn ei dewis ac efallai bydd rhaid i chi dalu swm atodol eich hun. Os ydych yn hawlio Lwfans Gweini gallai'r taliad hwnnw dalu am y swm atodd yn gyfan. I gael mwy o wybodaeth am Lwfans Gweini, ewch i: gov.uk/attendance-allowance (Yn agor ffenestr newydd)