Toglo gwelededd dewislen symudol

Hysbysiadau digwyddiad dros dro (TEN)

Gellir defnyddio TEN i awdurdodi gweithgaredd trwyddedadwy ar raddfa fach am ddigwyddiad unigryw.

Trwyddedu dros Galan Gaeaf, Noson Tân Gwyllt, Beaujolais, Nadolig a Blwyddyn Newydd 2023-2024

Gellir defnyddio TEN i awdurdodi digwyddiad y tu allan i delerau trwydded mangre bresennol neu awdurdodi digwyddiad pan nad oes trwydded mangre bresennol. I fod yn gymwys am TEN ni ddylai mwy na 499 o bobl fod yn rhan ar unrhyw adeg. Dylai hefyd fodloni'r pedwar amcan trwyddedu. Gall yr Heddlu a Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd y cyngor atal cynnal y digwyddiad neu addasu'r gorchymyn i fodloni'r amcanion hyn.

Dylech gyflwyno cais am TEN o leiaf 10 niwrnod gwaith cyn dechrau'r digwyddiad. Os ydych yn cyflwyno cais rhwng 9 a 5 niwrnod cyn y digwyddiad, bydd hwn yn cael ei ystyried yn TEN Hwyr. Os byddwn yn derbyn eich cais llai na 5 niwrnod cyn y digwyddiad, ni fydd eich cais yn ddilys ac ni fydd hawl gennych i gynnal y digwyddiad.

Nid yw Hysbysiad o Ddigwyddiad Dros Dro yn rhyddhau defnyddiwr y fangre o unrhyw ofynion, o dan gyfraith gynllunio, ar gyfer caniatâd cynllunio priodol lle bo angen hynny.

In partnership with EUGO logo
Sut mae gwneud cais

Gwneud cais am hysbysiad o ddigwyddiad dros dro Gwneud cais am hysbysiad o ddigwyddiad dros dro

Rhaid cwblhau'r ffurflen gais yn llawn. Bydd angen i chi dalu'r ffi cyflwyno cais pan fyddwch yn cyflwyno'ch ffurflen. 

Bydd copi llawn o'r cais hefyd yn cael ei anfon at Brif Swyddog yr Heddlu ac i'r Gwasanaeth Tai a Diogelu'r Cyhoedd yn y cyngor.

Ffïoedd

Ffioedd ar gyfer Deddf Trwyddedu 2003 Ffioedd ar gyfer Deddf Trwyddedu 2003

Rhaid i chi gyflwyno'ch ffi gyda'r cais. 

Os byddwch yn gwneud cais drwy'r post, dylech wneud pob siec yn daladwy i 'Dinas a Sir Abertawe' a'i hanfon ynghyd â'r ffurflen.

 

Caniatâd dealledig

Mae gennym gyfnod cwblhau targed, sef 7 niwrnod ar gyfer yr hysbysiad hwn. Rydym yn ceisio cydnabod eich cais a dechrau ei brosesu o fewn y cyfnod hwn. Os nad ydych wedi clywed gennym ar ôl y cyfnod hwn, cewch weithredu fel pe bai'ch cais wedi'i ganiatáu.

Sylwer bod y cyfnod targed hwn ond yn dechrau ar ôl cael cais cyflawn, gan gynnwys dogfennau ategol a thâl.

 

Os oes gennych unrhyw broblemau â'ch cais neu os hoffech gael mwy o wybodaeth, ffoniwch ni ar 01792 635600 neu e-bostiwch trwyddedu.iya@abertawe.gov.uk. Gall unrhyw ymgeisydd y gwrthodir tystysgrif iddo neu sy'n dymuno apelio yn erbyn amod sy'n gysylltiedig â'i dystysgrif apelio i'w Lys Ynadon lleol o fewn 21 diwrnod o apelio'r penderfyniad, ond heb fod yn hwyrach na 5 niwrnod gwaith cyn y digwyddiad cynlluniedig.

 

Mae gennym gofrestr gyhoeddus sy'n nodi'r holl fangreoedd sydd wedi'u trwyddedu gennym o dan Ddeddf Trwyddedu 2003. I weld y gofrestr, cysylltwch â'r Tîm Trwyddedu i drefnu amser. Mae'r gofrestr ar gael i'w gweld yn ystod oriau swyddfa yn unig.

Gwneud cais am hysbysiad o ddigwyddiad dros dro

Defnyddiwch y ffurflen hon i gyflwyno cais am Hysbysiad o Ddigwyddiad Dros Dro pan rydych yn trefnu digwyddiad ar gyfer llai na 500 o bobl.

Nodiadau arweiniol ar gyfer cyflwyno hysbysiad o ddigwyddiad dros dro

Yn y nodiadau hyn, caiff rhywun sy'n rhoi hysbysiad digwyddiad dros dro yr enw "defnyddiwr safle".
Close Dewis iaith