Mynd i fyw mewn tŷ cyngor
Ar ôl i chi dderbyn eich eiddo a llofnodi'r cytundeb tenantiaeth, byddwch yn barod i fynd i fyw yn yr eiddo ac ymgartrefu yn eich cartref newydd.
- Gwybodaeth am ddogfennau y byddwch yn eu cael, rhent, cardiau adnabod, atgyweiriadau, cyfrifoldebau a chysylltiadau defnyddiol
- Gwybodaeth am gyflenwadau nwy, trydan a dŵr
- Byw mewn fflat - amodau tenantiaeth ychwanegol, balconïau, gerddi cymunedol, fflatiau uchel, systemau mynediad llais i denantiaid mewn fflatiau
- Dod o hyd i gelfi ar gyfer eich cartref
Gwybodaeth am ddogfennau y byddwch yn eu cael, rhent, cardiau adnabod, atgyweiriadau, cyfrifoldebau a chysylltiadau defnyddiol
- Gwiriwch gardiau adnabod bob tro. Bydd gan bob gweithiwr y cyngor gerdyn adnabod â llun y gallwch ofyn i'w weld, neu ffoniwch eich swyddfa ardal leol i wirio
- Bydd eich Swyddog Cymdogaeth yn ymweld â chi 6 wythnos ar ôl i chi symud i'r eiddo i wirio a ydych wedi ymgartrefu, a bydd hefyd yn arolygu'ch eiddo o bryd i'w gilydd
- Pan fyddwch yn mynd i fyw yn yr eiddo, byddwch yn derbyn:
- llyfryn tenantiaeth
- Tystysgrif Perfformiad Ynni (EPC)
- tystysgrif diogelwch nwy
- gwybodaeth am asbestos
- Gwybodaeth am rent
- Yswiriant cynnwys
- Gwybodaeth am atgyweiriadau
- Nodyn atgoffa am y cytundeb tenantiaeth
- Cysylltiadau defnyddiol
Gwybodaeth am gyflenwadau nwy, trydan a dŵr
Nwy/trydan
Mae'r nwy wedi'i ddatgysylltu a bydd eich Swyddog Cymdogaeth yn eich cynghori a yw'r trydan hefyd wedi'i ddatgysylltu:
- Darllenwch y mesuryddion nwy a thrydan cyn gynted ag y byddwch yn mynd i fyw yn yr eiddo
- Mae mesuryddion nwy a thrydan gwahanol - mae'n rhaid talu ymlaen llaw ar gyfer rhai ohonynt (drwy ychwanegu credyd) ac mae eraill yn cael eu bilio'n fisol:
- cerdyn talu ymlaen llaw ar gyfer nwy (talu ymlaen llaw)
- mesurydd nwy deallus (talu ymlaen llaw neu fil misol)
- mesurydd nwy chwarterol (bil misol)
- mesurydd trydanol ag allwedd (talu ymlaen llaw)
- mesurydd trydan deallus (talu ymlaen llaw neu fil misol)
- mesurydd trydan chwarterol (bil misol)
- Mae mesuryddion nwy a thrydan gwahanol - mae'n rhaid talu ymlaen llaw ar gyfer rhai ohonynt (drwy ychwanegu credyd) ac mae eraill yn cael eu bilio'n fisol:
- Ffoniwch eich cyflenwyr nwy a thrydan dewisol i ddweud eich bod yn denant newydd. Byddant yn creu cyfrif ar eich cyfer.
- Os oes gennych gerdyn talu ymlaen llaw ar gyfer nwy neu fesurydd trydan ag allwedd, bydd angen i chi roi credyd arnynt:
- dylai'r cerdyn nwy/allwedd trydan fod yn yr eiddo
- os na, gofynnwch i'ch cyflenwyr nwy/trydan anfon un atoch - bydd hyn yn cymryd tua 3 diwrnod felly gwnewch hyn cyn gynted â phosib
- ar ôl i chi ddefnyddio'ch cerdyn neu allwedd, dylai fod credyd yn ymddangos ar y mesurydd ond NI FYDD UNRHYW nwy na/neu drydan gennych o hyd
- Os oes angen i chi ailgysylltu'r trydan, ffoniwch Ganolfan Alwadau'r tîm Atgyweiriadau Tai ar 01792 635100 a dywedwch wrthynt eich bod yn denant newydd. Byddant yn trefnu i ymweld â chi i ailgysylltu'r trydan a gwneud unrhyw wiriadau diogelwch
- I ailgysylltu'r nwy, ffoniwch y Tîm Gwasanaethau Nwy ar 01792 511011 neu 01792 511032 - byddant yn trefnu i ymweld â chi i ailgysylltu'r nwy a gwneud unrhyw wiriadau diogelwch.
Gweithwyr y cyngor a chwmnïau cyfleustodau'n UNIG sydd wedi'u hawdurdodi i ailgysylltu'r cyflenwadau nwy a thrydan.
I gael help i greu eich cyfrifon newydd neu roi credyd ar eich mesuryddion, ffoniwch 01792 525154 neu 01792 525159.
Dŵr
Bydd y cyflenwad dŵr ymlaen. Chi sy'n gyfrifol am dalu'r taliadau dŵr. Yn ôl y gyfraith mae'n rhaid i ni roi gwybod i Dŵr Cymru eich bod wedi mynd i fyw yn yr eiddo. Darllenwch y mesurydd dŵr os oes gennych un a rhowch wybod i Dŵr Cymru.
Byw mewn fflat - amodau tenantiaeth ychwanegol, balconïau, gerddi cymunedol, fflatiau uchel, systemau mynediad llais i denantiaid mewn fflatiau
Parchu'r cymdogion yn eich bloc
Gofynnwn i chi wneud y canlynol:
- Cadw sain stereos, radios a setiau teledu ar lefel resymol
- Defnyddio ardaloedd casglu sbwriel yn gywir a'u cadw nhw'n daclus
- Cael gwared ar eitemau swmpus yn gywir - mae gennym wasanaeth casglu 'gwastraff swmpus'
- Gofyn am ganiatâd i gadw anifail anwes os ydych mewn bloc o fflatiau isel â mynedfa a rennir
Ni ddylech:
- Hongian dillad wedi'u golchi â llaw ar falconïau neu staeriau a rennir
- Dod ag unrhyw feic modur, moped neu beiriannau gyda motor petrol i mewn i'r adeilad
- Gwneud unrhyw waith DIY swnllyd yn gynnar neu'n hwyr yn ystod y dydd neu'r nos
- Caniatáu i bethau gael eu taflu neu eu gollwng o ffenestri a balconïau
Ardaloedd cymunedol, er enghraifft pennau grisiau
- Rhaid i chi gadw'r ardal y tu allan i ddrws mynediad eich fflat yn lân, yn glir ac yn daclus
- Rhaid i chi a'ch cymdogion hefyd gadw unrhyw ardaloedd cymunedol yn lân, yn glir ac yn daclus
- Peidiwch â storio unrhyw eitemau yn yr ardaloedd cymunedol
- Os bydd yn rhaid i ni lanhau ardal oherwydd esgeulustod, efallai y byddwn yn adennill y gost o wneud hynny oddi wrth y preswylwyr dan sylw
Gerddi cymunedol
- Mae gerddi cymunedol ar gael i holl breswylwyr y bloc eu defnyddio a'u rhannu
- Rhaid i chi beidio â thrin yr ardal, ei neilltuo â ffens neu gyfyngu ar fynediad heb ein caniatâd ysgrifenedig
- Rhaid i chi gadw anifeiliaid anwes dan reolaeth mewn gardd gymunedol - a glanhau ar eu hôl
Balconïau
- Gwnewch yn siŵr nad oes unrhyw beth ar y balconi a allai ddisgyn neu gael ei daflu ar bobl danodd
- Gwiriwch gyda'r Swyddfa Dai Ardal cyn gosod erial teledu neu ddysgl lloeren etc. ar y balconi
- Peidiwch â chynnal unrhyw farbeciws ar eich balconi - maen nhw'n risg tân
- Rhowch wybod am unrhyw ddiffygion ar unwaith
Rhai pwyntiau ychwanegol ar gyfer blociau fflatiau uchel:
- Cadwch y cynteddau yn eich fflat yn glir, yn enwedig o eitemau hylosg a allai fynd ar dân yn hawdd ac unrhyw fath o gyfarpar gwresogi fflam noeth, gan gynnwys gwresogyddion paraffîn a symudol
- Defnyddiwch dyllau sbwriel yn ofalus - rhowch wybod i'r Swyddfa Dai Ardal am unrhyw broblemau
- Ni ddylech:
- Gadw neu ganiatáu unrhyw anifeiliaid yn yr adeilad (ac eithrio cŵn tywys)
- Mynd â silindrau nwy propan a phetrolewm hylifedig i mewn i'r adeilad
- Caniatáu i blant (dan 16 oed) fyw yn eich cartref am fwy na 50% o'r amser
- Os yw plentyn yn cael ei eni neu'n dod i fyw gyda chi yn ystod eich tenantiaeth, rhowch wybod i ni a gallwn eich cynghori ar eich opsiynau ailgartrefu
Systemau mynediad drws (mynediad llais)
Mae systemau mynediad drws yn rheoli mynediad i adeiladau â mynedfeydd a rennir
I sicrhau diogelwch:
- Sicrhewch fod y drws yn cael ei gloi y tu ôl i chi
- Peidiwch â gadael i ymwelwyr gael mynediad oni bai eich bod yn siŵr eu bod yn ymweld â chi neu breswylydd arall
- Ceisiwch beidio â chaniatáu i'r rheini nad ydynt yn breswylwyr eich dilyn i mewn i'r bloc hyd yn oed os ydynt yn ymddangos yn ddilys
- Peidiwch byth â gadael drws y fynedfa ar agor na'i gadw ar agor
- Rhowch wybod i Ganolfan Alwadau'r tîm atgyweiriadau tai am unrhyw ddiffygion
Cyngor ar ddiogelwch tân i denantiaid y cyngor
Dod o hyd i gelfi ar gyfer eich cartref
Efallai eich bod wedi dewis tenantiaeth wedi'i dodrefnu lle rydych yn talu pris wythnosol i rentu celfi gennym. Fodd bynnag, mae'r lleoedd canlynol i gyd yn cynnig celfi a nwyddau cartref ail law cost isel i chi eu prynu: