Tocyn tymor meysydd parcio
Gwybodaeth am sut i brynu tocyn tymor ar gyfer maes parcio.
Sut i gyflwyno cais
I gyflwyno cais am docyn tymor ar gyfer meysydd parcio, bydd angen i chi lenwi'r ffurflen gais ar-lein. Faniau â charnau tro olwynion safonol a cheir yn unig caiff eu hystyried ar gyfer tocyn tymor (uchafswm o 3.3 metr o hyd). Ni chaiff faniau â charnau tro olwynion hir eu derbyn.
Sylwer: Os yw'r lleoedd yn y maes parcio rydych yn cyflwyno cais amdano yn llawn o ran nifer y tocynnau tymor sydd ar gael, efallai na fydd Gwasanaethau Parcio yn gallu gyflwyno'r tocyn tymor a bydd ad-daliad/ hysbysiad yn cael ei anfon atoch cyn gynted â phosib.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau'n ymwneud ag argaeledd a/neu gost hawlen barcio, e-bostiwch ymholiadtocyntymor@abertawe.gov.uk.
Ffïoedd
Byddwch yn gallu talu am eich tocyn tymor ar yr un pryd ag yr ydych yn cyflwyno'r cais gan ddefnyddio cerdyn debyd neu gredyd.
Meysydd Parcio Canol y Ddinas | Meysydd Parcio y tu allan i Ganol Dinas Abertawe | ||
---|---|---|---|
1 mis | £85 | 1 mis | £75 |
3 mis | £250 | 3 mis | £190 |
6 mis | £500 | 6 mis | £375 |
12 mis | £830 | 12 mis | £625 |
Hawlenni parcio corfforaethol
Mae gennym nifer cyfyngedig o hawlenni parcio corfforaethol sydd ar gael i fusnesau o fewn canol y ddinas. Mae'r gyfradd ostyngol ar gael dan yr amodau canlynol:
- lle prynir 10 neu fwy o hawlenni, neu
- mae'r busnes yn aelod o BID Abertawe
Maes parcio aml-lawr y Stryd Fawr | Y Strand, Stryd Paxton, Maes parcio aml-lawr Dewi Sant, Heol Trawler | |
---|---|---|
1 mis | £50 | £55 |
3 mis | £125 | £135 |
6 mis | £250 | £275 |
12 mis | £465 | £495 |
Os ydych wedi cael eich cymeradwyo i wneud cais am un o'r hawlenni hyn, gallwch wneud hynny drwy'r botwm cyflwynwch gais uchod. Dewiswch 'arall' yn y gwymplen maes parcio dewisol ac yna nodwch y ffi i'w thalu.
E-bostiwch unrhyw ymholiadau at seasonticketenquiry@swansea.gov.uk.
Tocynnau sy'n mynd ar goll neu sydd wedi'u difrodi
Os yw tocyn tymor yn cael ei brynu ac yn mynd ar goll neu'n cael ei ddifrodi oherwydd bod deiliad y cerdyn wedi'i gamddefnyddio, bydd angen talu ffi o £25.00 i gael un newydd. Mae hyn yn cynnwys cardiau tocyn maes parcio aml-lawr a chardiau tocyn Parcio a Theithio.
Mae'r tocyn tymor yn ad-daladwy, ond mewn achosion lle caiff y tocyn tymor ei ddychwelyd cyn y dyddiad dod i ben, bydd yr ad-daliad yn seiliedig ar y misoedd llawn sy'n weddill.
I gael mwy o wybodaeth, e-bostiwch meysydd.parcio@abertawe.gov.uk.