Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Y cyngor yn cyflwyno cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer dyfodol y ddinas

Mae cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer Abertawe wyrddach, ffyniannus a bywiog ar gyfer yr 21ain ganrif yn cael eu cyflwyno gan y cyngor.

arena from the air

Gan adeiladu ar lwyddiannau fel arena Abertawe, ysgolion newydd ac ardaloedd chwarae, yn ogystal â bargen newydd gwerth £750m ar gyfer canol y ddinas, disgwylir i'r ddinas gael ei thrawsnewid dros y blynyddoedd nesaf.

Ac wrth i Abertawe groesawu haf llawn chwaraeon rhyngwladol mawr, cerddoriaeth a digwyddiadau diwylliannol, maen nhw'n helpu i baratoi'r ffordd ar gyfer dyfodol optimistaidd a bywiog i'r ddinas.

Dywedodd Rob Stewart, Arweinydd y Cyngor, fod y cynlluniau sy'n cael eu paratoi ar gyfer y pum mlynedd nesaf yn cynnwys trawsnewid gerddi Sgwâr y Castell, adnewyddu'r Mwmbwls ac ehangder Bae Abertawe a chyflwyno atyniadau cyffrous newydd i ymwelwyr.

Addawodd hefyd na fydd unrhyw un o gymunedau'r ddinas yn cael ei gadael ar ôl diolch i filiynau ar filiynau o bunnoedd o fuddsoddiad mewn gwelliannau ffyrdd, glanhau strydoedd a chyfleusterau cymunedol ynghyd â chymorth i deuluoedd sy'n ei chael hi'n anodd a'r rheini sy'n ddigartref.

Meddai, "Mae Abertawe bob amser wedi bod yn ddinas llawn uchelgais. Nawr mae'n ddinas sy'n cyflawni blaenoriaethau ein pobl."

Ymysg yr uchafbwyntiau ar gyfer uchelgais y ddinas yn y dyfodol mae:

·       Cyflawni ar waith gwerth £750m i drawsnewid canol y ddinas, a ddechreuodd gyda'r arena

·       Agor parc antur awyr agored ar Fynydd Cilfái yn 2025 a fyddai'n cynnwys ceir cebl, gwifrau gwib a llwybrau ceir llusg

·       Gwneud cynnydd ar gynllun ynni adnewyddadwy Eden Las sy'n werth £1.7bn, y disgwylir iddo gynnwys morlyn llanw

·       Datblygu acwariwm newydd

·       Adeiladu cannoedd o eiddo cyngor ynni effeithlon eraill, uwchraddio cartrefi presennol i helpu i leihau biliau tanwydd

·       Gwestai newydd yng nghanol y ddinas a ger Stadiwm Swansea.com

·       Cyflwyno hwb cymunedol canol y ddinas a rôl newydd ar gyfer hen siop Debenhams

Gall cymunedau'r ddinas hefyd ddisgwyl y canlynol:

·       Cymorth parhaus i annog aelwydydd cymwys i hawlio'r taliad costau byw o £150 gan Lywodraeth Cymru

·       Hwb o £10m ar gyfer atgyweiriadau ffyrdd

·       Timau glanhau, codi sbwriel a thynnu chwyn ym mhob cymdogaeth

·       Timau atgyweirio ffyrdd PATCH newydd yn cael eu cyflwyno

·       Rhagor o bwyntiau gwefru cerbydau trydan

·       Buddsoddiad mewn miloedd yn rhagor o goed, ein parciau a bioamrywiaeth

·       Cenhedlaeth newydd o lwybrau cerdded a beicio

·       Uwchraddio ardaloedd chwarae a gwell cyfleusterau sglefrio

Dywedodd y Cyng. Stewart fod y fenter teithio am ddim ar fysus a'r gwaith uwchraddio a wnaed ar ardaloedd chwarae awyr agored yn helpu teuluoedd i gael deupen llinyn ynghyd yn ystod adeg lle mae pob ceiniog yn cyfri. Ar yr un pryd, roedd gwaith i adfywio canol y ddinas dan arweiniad y cyngor yn denu miliynau o bunnoedd o fuddsoddiad o'r sector preifat.

Meddai, "Bydd yr argyfwng costau byw a newid yn yr hinsawdd ymysg yr heriau mwyaf y bydd unrhyw un ohonom yn eu hwynebu dros y blynyddoedd nesaf.

"O fanciau bwyd i deithio am ddim ar fysus, o gartrefi gwell i ysgolion gwell, byddwn yn parhau i gefnogi teuluoedd a chymunedau sy'n ei chael hi'n anodd.

"Byddwn yn parhau i fuddsoddi mewn prosiectau mawr a blaenoriaethau cymunedol fel ysgolion, lles plant a lles oedolion. Mae'r buddsoddiad ar y cyd hwn yn caniatáu ar gyfer cydnerthedd ac yn hyrwyddo lles. Mae'n creu ac yn diogelu swyddi ac yn gwneud Abertawe'n lle gwell i fyw, gweithio a gwneud busnes ynddo.

"A thrwy fuddsoddi mewn ynni gwyrdd, tyfu ein mannau gwyrdd a chroesawu pobl newydd, buddsoddiad newydd a syniadau newydd, gallwn edrych ymlaen at adeiladu dyfodol gwell."

 

 

 

 

 

 

Close Dewis iaith