Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Ysgol Gatholig yr Esgob Vaughan - trefniadau derbyn 2024 / 2025

Dylid anfon ceisiadau trwy system ar-lein yr Awdurdod Lleol erbyn y dyddiad a nodir gan yr Awdurdod Lleol.

Mae croeso i chi gysylltu â swyddogion derbyn yr ysgol os oes angen cymorth arnoch i wneud eich cais. Eu rhif cyswllt yw 01792 772006 est. 227.

Dyma bolisi Derbyn Llywodraethwyr Ysgol Gatholig yr Esgob Vaughan (yr ysgol):

Ethos Gatholig sydd i'r ysgol. Sefydlwyd yr ysgol gan yr Eglwys Gatholig i ddarparu addysg i blant o deuluoedd Catholig. Gweinyddir yr ysgol gan ei chorff llywodraethu fel rhan o'r Eglwys Gatholig yn unol â'i gweithred ymddiriedolaeth a'i hofferyn llywodraethu, ac mae bob amser yn ceisio tystiolaethu i Iesu Grist. Gofynnwn i rieni neu ofalwyr sy'n ymgeisio am le i barchu'r ethos hwn a'i bwysigrwydd i gymuned yr ysgol. Nid yw hyn yn effeithio ar hawl rhieni nad ydynt yn dilyn crefydd yr ysgol hon o ran gwneud cais am le yn yr ysgol a chael eu hystyried am le.

Indeed, the school warmly welcomes applications from all members of the community.

Nifer Derbyn yr ysgol ar gyfer y flwyddyn ysgol 2022/2023 yw 217.

Os bydd nifer y ceisiadau'n fwy na'r rhif derbyn, bydd y llywodraethwyr yn rhoi blaenoriaeth i geisiadau'n unol â'r meini prawf a restrir isod, cyhyd â bod y llywodraethwyr yn ymwybodol o'r cais hwnnw cyn iddynt benderfynu ar dderbyniadau.

Ym mhob categori, bydd y llywodraethwyr yn rhoi blaenoriaeth i'r plant hynny sy'n byw agosaf at yr ysgol. Pennir hyn yn unol â system bresennol yr awdurdod lleol i fesur pellter (gweler Nodyn 5).

  1. Plant sy'n derbyn gofal neu sydd wedi derbyn gofal gan awdurdod lleol (plant mewn gofal) neu y darperir llety iddynt drwy awdurdod lleol (e.e. plant â rhieni maeth) (Adran 22 Deddf Plant 1989).
  2. Plant â Datganiad o Anghenion Addysgol Arbennig sydd wedi enwi Ysgol Gatholig Esgob Vaughan.
  3. Plant sydd wedi'u bedyddio'n Gatholig y bydd ganddynt frawd neu chwaer sy'n mynychu'r ysgol pan fyddant yn ymuno (gweler Nodiadau 1 a 2 isod).
  4. Plant sydd wedi'u bedyddio'n Gatholigion sy'n mynychu ysgol gynradd Gatholig (gweler Nodyn 1 a 3 isod).
  5. Plant eraill sydd wedi'u bedyddio'n Gatholigion (gweler Nodyn 1 isod).
  6. Plant sydd wedi'u bedyddio yn yr Eglwys Uniongred Gristnogol (gweler Nodyn 4 isod).
  7. Plant eraill y bydd ganddynt frawd neu chwaer sy'n mynychu'r ysgol pan fyddant yn ymuno (gweler Nodyn 2 isod).
  8. Plant eraill sy'n mynychu ysgol gynradd Gatholig (gweler Nodyn 3 isod).
  9. Plant o enwadau Cristnogol eraill neu blant o ffydd neu grefyddau eraill sydd am gael addysg o fewn cyd-destun Cristnogol (gweler y Nodyn 5).
  10. Plant eraill sydd am gael addysg o fewn cyd-destun Cristnogol (gweler Nodyn 6).

Nodyn 1

Ym mhob categori, er mwyn i blentyn gael ei ystyried yn blentyn sydd wedi'i fedyddio'n Gatholig, bydd rhaid darparu tystiolaeth o Fedydd Catholig neu dderbyniad i'r eglwys i'r ysgol erbyn diwrnod olaf tymor y Nadolig, 2018. Am ddiffiniad cynhwysfawr o blentyn sydd wedi'i fedyddio'n Gatholig, a'r dystiolaeth a gaiff ei hystyried, gweler Atodiad 1.

Dylai rhieni sy'n gwneud cais am blentyn sydd wedi'i fedyddio'n Gatholig hefyd gwblhau ffurflen gwybodaeth ategol (FfGA) a'i dychwelyd i'r ysgol erbyn diwrnod olaf tymor y Nadolig, 2108. Gall peidio â chwblhau'r FfGA yn llawn effeithio ar y categori y rhoddir enw eich plentyn ynddo.

Nodyn 2

Ar gyfer yr holl blant, diffinnir "brawd neu chwaer" fel plentyn naturiol neu blentyn sydd wedi'i fabwysiadu'n gyfreithlon gan y naill riant neu'r llall sy'n byw yn yr un cyfeiriad (h.y. mae hyn yn cynnwys llysfrodyr, llyschwiorydd a phlant sydd wedi'u mabwysiadu neu eu maethu gan y teulu).

Mewn unrhyw sefyllfa pan fydd un lle ar gael ac mae'r plant cymwys nesaf ar gyfer y lle hwnnw'n efeilliaid/tripledi, bydd y llywodraethwyr yn derbyn y ddau/tri phlentyn. Ystyrir y bydd brawd neu chwaer yn "mynychu'r ysgol" os ydynt yn mynychu'r ysgol ym mlynyddoedd 7 i 13, ar 1 Ionawr 2020.

Notdyn 3

Mae plant sy'n mynychu ysgol gynradd Gatholig yn golygu:

  • y rhai sy'n mynychu'n hysgolion cynradd partner yn Abertawe;
    • Ysgol Gynradd Gatholig Dewi Sant;
    • Ysgol Gynradd Gatholig Illtyd Sant;
    • Ysgol Gadeiriol San Joseff;
    • Ysgol Gynradd Gatholig San Joseff, Clydach; a
  • phlant sy'n mynychu ysgolion cynradd Catholig mewn awdurdodau lleol eraill.

Nodyn 4

Mae gan Gristnogion Uniongred (Groegaidd, Rwsiaidd, Indiaidd) gysylltiad agosach â'r eglwys Gatholig drwy eu Hysgrythur a'u traddodiad nag enwadau Cristnogol eraill, felly eu categori uwch. Caiff hyn ei wirio drwy weld Tystysgrif Bedydd y plentyn a/neu lythyr gan y clerigwyr priodol.

Er mwyn i blentyn gael ei ystyried yn y categori hwn, bydd angen i rieni ddarparu'r dystiolaeth i'r ysgol erbyn diwrnod olaf tymor y Nadolig 2019.

Dylai rhieni hefyd gwblhau ffurflen gwybodaeth ategol (FfGA) a'i dychwelyd i'r ysgol erbyn diwrnod olaf tymor y Nadolig 2019. Gall peidio â chwblhau'r FfGA yn llawn effeithio ar y categori y rhoddir enw eich plentyn ynddo.

Nodyn 5

Bydd "ffydd neu grefyddau eraill" yn cynnwys yr holl grefyddau, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i Fwdhaeth, Hindŵaeth, Iddewiaeth a Siciaeth.

Er mwyn i blentyn gael ei ystyried yn y categori hwn, bydd angen i rieni ddarparu tystiolaeth arall o fedydd neu dystiolaeth ysgrifenedig gan offeiriad, gweinidog, neu arweinydd ffydd neu grefyddol. Bydd angen ei chyflwyno i'r ysgol erbyn diwrnod olaf tymor y Nadolig 2019.

Dylai rhieni hefyd gwblhau ffurflen gwybodaeth ategol (FfGA) a'i dychwelyd i'r ysgol erbyn diwrnod olaf tymor y Nadolig 2019. Gall peidio â chwblhau'r FfGA yn llawn effeithio ar y categori y rhoddir enw eich plentyn ynddo.

Nodyn 6

Ym mhob categori, bydd y llywodraethwyr yn rhoi blaenoriaeth i'r plant hynny sy'n byw agosaf at yr ysgol. Caiff hyn ei bennu yn unol â system bresennol yr awdurdod lleol i fesur pellter.

Ar hyn o bryd, caiff lleoedd eu dyrannu yn ôl pellter, gyda'r rhai sy'n byw agosaf (y llwybr cerdded byrraf sydd ar gael) yn cael blaenoriaeth. Cymerir y mesuriadau o'r tu allan i fynedfa'r eiddo (tŷ neu fflat) i fynedfa swyddogol agosaf yr ysgol. Unig fynedfa swyddogol Ysgol yr Esgob Vaughan yw'r prif gatiau ar Heol Mynydd Garnlwyd. Defnyddir rhaglen gyfrifiadur GIS yr Awdurdod Lleol i fesur y pellter. Ystyrir mai cyfeiriad cartref disgybl yw preswylfa barhaol y plentyn. Rhaid mai'r cyfeiriad hwn yw unig neu brif breswylfa'r plentyn yn ystod y rhan fwyaf o'r wythnos ysgol.

Mae'n bosib y bydd angen tystiolaeth ddogfennol. Lle mae'r cyfrifoldeb magu plant wedi'i rannu'n gyfartal rhwng y fam a'r tad, rhaid i rieni nodi pa gyfeiriad y dylid ei ddefnyddio at ddiben dyrannu lle ysgol a gallai fod angen cyflwyno prawf.


Dalgylch

Mae'r ysgol yn derbyn disgyblion o bob rhan o Ddinas a Sir Abertawe, awdurdodau cyfagos a disgyblion sy'n symud i'r ardal o fannau ymhellach i ffwrdd.

Amserlent

Bydd yr ysgol yn dilyn Amserlen dderbyniadau'r awdurdod lleol

Rhestr aros

Os na all y llywodraethwyr gynnig lle i blentyn, neu derbynnir cais am le i blentyn ar ôl dyddiad cau'r awdurdod lleol, cedwir enw'r plentyn hwnnw ar restr aros tan 30 Medi 2020. Os nad ydych am i enw'ch plentyn gael ei roi ar y rhestr aros, dywedwch wrth yr ysgol, yn ysgrifenedig, cyn gynted â phosib.

Os daw mwy o leoedd ar gael yn ystod blwyddyn academaidd 2020/2021, bydd Pwyllgor Derbyniadau'r llywodraethwyr yn cael cyfarfod ychwanegol a dyrennir lleoedd i blant ar y rhestr aros (ar adeg y cyfarfod hwnnw) ar sail y meini prawf gorymgeisio a restrwyd yn gynharach. Yn unol â Chôd Derbyn i Ysgolion Llywodraeth Cymru (t24; para 3.28) ni ellir rhoi blaenoriaeth i blant yn seiliedig ar y dyddiad yr ychwanegwyd y cais at y rhestr aros. Dyrennir lleoedd ar sail y meini prawf gorymgeisio cyhoeddedig a amlinellwyd yn gynharach.

Apeliadau

Gall rhieni sy'n dymuno apelio yn erbyn penderfyniad y llywodraethwyr i wrthod lle i'w plentyn yn yr ysgol wneud cais ysgrifenedig i'r canlynol: Y Clerc i'r Llywodraethwyr, Ysgol Gatholig yr Esgob Vaughan, Heol Mynydd Garnlwyd, Treforys, Abertawe SA6 7QG.

Clywir pob apêl gan Banel Apeliadau annibynnol.

Ail geisiadau

Os nad oes newidiadau sylweddol neu o bwys yn amgylchiadau cais rhieni dros eu plentyn neu'r ysgol, ni fydd y llywodraethwyr yn ystyried ail gais yn yr un flwyddyn academaidd.

Ceisiadau ar wahan i'r nifer derbyn arferol i flwyddyn 7

Dylid cyflwyno'r ceisiadau hyn yn uniongyrchol i Ysgol Gatholig yr Esgob Vaughan. Bydd Pwyllgor Derbyniadau'r llywodraethwyr yn ystyried y ceisiadau hyn yn eu cyfarfod nesaf. Os oes lleoedd ar gael, cânt eu dyrannu ar sail y meini prawf gorymgeisio cyhoeddedig a amlinellwyd yn gynharach. 

Protocol mynediad teg y flwyddyn

Mae'r Corff Llywodraethu wedi mabwysiadu protocol mynediad teg yr awdurdod lleol er mwyn derbyn plant a waharddwyd neu anodd eu lleoli.

Mae plant sy'n destun gorchymyn gan Awdurdod Lleol i dderbyn neu sy'n cael eu dyrannu i ysgol yn unol â Phrotocol Mynediad Teg yn cael eu blaenoriaethu dros y rhai ar restr aros.

Polisi derbyniadau Ôl-16

Oherwydd yr angen i weithio ar y cyd â darparwyr eraill, ceir Polisi Derbyn ar wahân ar gyfer myfyrwyr ôl-16. Mae copïau ar gael ar gais gan yr ysgol.

Taliadau

Ni chodir tâl am dderbyn plentyn i'r ysgol hon.


ATODIAD

Diffiniad o 'Fedyddio'n Gatholig'

Mae rhywun sydd "wedi'i fedyddio'n Gatholig" yn rhywun sydd:

  • Wedi cael ei fedyddio i gymundeb llawn (Cf. Catechism of the Catholic Church, 837) gyda'r Eglwys Gatholig drwy Ddefodau Bedydd un o ddefodau amrywiol eglwysi mewn cymuned ag Esgobaeth Rhufain (h.y. y Ddefod Ladinaidd, y Ddefod Fysantaidd, Goptaidd, Syriaidd etc, cf. Catecism yr Eglwys Gatholig, 1203). Gellir cael tystiolaeth ysgrifenedig* o'r bedydd hwn trwy archwilio Cofrestri Bedydd yr eglwys y gweinyddwyd y bedydd ynddi (cf. Côd y Gyfraith Eglwysig, 877 ac 878).

Neu

  • Wedi'i fedyddio'n ddilys mewn cymuned eglwysig wahanedig ac wedi hynny ei dderbyn i gymundeb llawn â'r Eglwys Gatholig trwy Ddefod Derbyn Cristnogion a Fedyddiwyd i Gymundeb Llawn â'r Eglwys Gatholig. Gellir cael tystiolaeth ysgrifenedig o'u bedydd a'u derbyn i gymundeb llawn â'r Eglwys Gatholig trwy archwilio'r Gofrestr Dderbyniadau, neu mewn rhai achosion, is-adran o Gofrestri Bedydd yr eglwys y gweinyddwyd y Ddefod Derbyn ynddi (Cf. Defod Dderbyn Gristnogol, 399).

Tystiolaeth ysgrifenedig o fedydd

Bydd cyrff llywodraethu ysgolion Catholig yn gofyn am dystiolaeth ysgrifenedig ar ffurf Tystysgrif Bedydd neu Dystysgrif Derbyn cyn iddynt ystyried cynnwys ceisiadau am leoedd ysgol mewn categorïau "Catholigion Bedyddiedig". Bydd Tystysgrif Bedydd neu Dderbyn yn cynnwys: yr enw llawn, dyddiad geni, dyddiad bedydd neu dderbyn ac enw(au)'r rhiant (rhieni). Rhaid i'r dystysgrif hefyd ddangos ei bod wedi'i chopïo o'r cofnodion a gedwir gan leoliad y bedydd neu'r derbyn.

Hwyrach y bydd y rhai sy'n cael anhawster dod o hyd i dystiolaeth ysgrifenedig o'u bedydd, a hynny am reswm dilys, yn cael eu hystyried fel Catholig bedyddiedig, ond dim ond ar ôl iddynt gael ei gyfeirio at eu Hoffeiriad Plwyf a fydd, wedi ymgynghori â'r Ficer Cyffredinol, yn penderfynu sut i ddatrys mater y bedydd a sut i gynhyrchu tystiolaeth ysgrifenedig yn unol â chyfraith yr Eglwys.

Mae'n bosib y bydd y rhai sy'n ystyried bod ganddynt reswm dilys dros fethu â chael tystiolaeth ysgrifenedig yn cynnwys y rhai sy'n methu â chysylltu â lleoliad y bedydd oherwydd erledigaeth neu ofn neu fod yr eglwys a'r cofnodion gwreiddiol wedi'u dinistrio, neu fod y lleoliad lle gweinyddwyd y bedydd yn ddilys ond nid yn eglwys y plwyf lle cedwir cofnodion.

Mae'n bosib y bydd llywodraethwyr yn gofyn am dystiolaeth gefnogi ychwanegol os nad yw'r dogfennau ysgrifenedig yn egluro'r ffaith y cafodd yr unigolyn ei fedyddio neu ei dderbyn i'r Eglwys Gatholig (h.y. os nad yw enw a chyfeiriad yr eglwys ar y dystysgrif neu os nad yw enw'r eglwys yn dynodi ei bod yn eglwys Gatholig.)