Toglo gwelededd dewislen symudol

Trwyddedau cynorthwywyr gofal

Gellir cyflwyno'r math hwn o drwydded i sefydliadau neu gwmnïau sy'n darparu gofal er mwyn i'w staff allu parcio mewn cilfannau parcio preswylwyr pan fyddant yn ymweld â chleientiaid i ddarparu gofal.

Yn yr achos hwn, cynorthwy-ydd gofal yw rhywun sy'n gofalu am les corfforol preswylydd drwy wneud tasgau megis gofal personol, coginio a glanhau ar eu cyfer, mewn sefyllfaoedd lle mae'n rhaid iddynt fod yng nghartref y preswylydd.

Mae'n rhaid i reolwr yn y cwmni/sefydliad sy'n cyflogi'r gofalwr lenwi'r ffurflen gais. Codir tâl o £25.00 am bob hawlen.

Mae'r hawlen yn ddilys mewn cilfachau parcio preswylwyr neu mewn cilfachau llwytho cyfyngedig lle caniateir hawlenni. NI ellir ei defnyddio i barcio mewn unrhyw fannau eraill â chyfyngiadau aros, nac ym Mharth Cerddwyr Canol y Ddinas nac mewn Meysydd Parcio Talu ac Arddangos. Gellir ond defnyddio'r hawlen pan fydd y deiliad yn ymweld â chleient yn ei gartref ei hun ac nid, er enghraifft, er mwyn parcio cerbyd ger swyddfa'r gofalwr. Bydd camddefnyddio hawlen cynorthwy-ydd gofal yn arwain at ei thynnu'n ôl.

Ni chyflwynir hawlenni ar gyfer cerbydau sydd dros yr uchafswm pwysau gros, sef o 3,500 kg, neu gerbydau sy'n fwy na 2.35m o uchder a 5.35m o hyd (oddeutu maint fan Transit). Ni ellir trosglwyddo'r drwydded ac mae'n parhau i fod yn eiddo Dinas a Sir Abertawe. Os bydd hawlen yn cael ei cholli neu ei dinistrio, codir tâl o £25 am un newydd.

Sut i gyflwyno cais

Gwneud cais ar-lein ar gyfer hawlen cynorthwy-ydd gofal Gwneud cais ar-lein ar gyfer hawlen cynorthwy-ydd gofal

Gallwch wneud cais ar gyfer hyd at dri chynorthwy-ydd gofal drwy enwi'r ffurflen hon a gallwch dalu ar yr un pryd.Mae'n rhaid i reolwr yn y cwmni/sefydliad sy'n cyflogi'r gofalwr lenwi'r ffurflen gais.

Bydd angen i chi ddarparu copi wedi'i sganio o lythyr oddi wrth eich cwmni/sefydliad yn cadarnhau'r aelodau staff a enwir sy'n gweithio i chi fel gofalwyr. Dylai'r llythyr fod ar bapur â phennawd. Byddwch yn gallu lanlwytho copi o'r llythyr hwn i'r ffurflen gais. 

Ffïoedd

Rhaid i chi gyflwyno'ch ffi gyda'r cais.

Pryd byddwch yn derbyn eich hawlen?

Ar ôl i chi wneud eich cais, bydd eich hawlen fel arfer yn cael ei phostio atoch o fewn 5 niwrnod gwaith ar yr amod bod pob rhan o'r ffurflen wedi'i llenwi a bod yr holl dystiolaeth ategol wedi'i chynnwys. Rhowch amser i'r gwasanaeth post ddosbarthu'r hawlen i chi cyn cysylltu â ni.

Os nad ydych wedi darparu'r holl dystiolaeth angenrheidiol, caiff eich cais am hawlen ei wrthod.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â chais am hawlen cynorthwy-ydd gofal, ffoniwch Cyswllt Abertawe ar 01792 637366. 

Close Dewis iaith