Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Hysbysiad o geisiadau am eiddo newydd ac amrywiadau

Mae ceisiadau newydd am drwyddedau mangre ac amrywiadau i drwyddedau presennol o dan Ddeddf Trwyddedu 2003 wedi'u rhestru isod. Bydd yr hysbysiadau hyn yn aros yma am y cyfnod cyflwyno sylwadau o 28 niwrnod.

Rhaid cyflwyno unrhyw sylwadau'n ysgrifenedig, gan nodi'n glir ar ba sail y cyflwynir y sylw, sy'n berthnasol i'r amcanion trwyddedu.

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch mewn perthynas â chais neu os ydych chi'n dymuno cyflwyno sylwadau, e-bostiwch Trwyddedu.IyA@abertawe.gov.uk

 

Dylid e-bostio sylwadau i Trwyddedu.IyA@abertawe.gov.uk neu eu hanfon i: Dinas a Sir Abertawe, Is-adran Drwyddedu, Cyfarwyddiaeth Lleoedd, Canolfan Ddinesig, Oystermouth Road, Abertawe SA1 3SN. 

Dylai pob sylw mewn perthynas â chais newydd/amrywiad/adolygiad gael ei gyflwyno ar-lein neu drwy e-bost i leihau'r risg na fydd yr awdurdod yn ei dderbyn na'i ystyried, lle bynnag y bo hynny'n bosib.

Bydd eich sylw ysgrifenedig yn cael ei ddarparu i'r ymgeisydd ac mae'n bosib y caiff ei ystyried hefyd mewn gwrandawiad cyhoeddus sy'n golygu y gall unrhyw un fod yn bresennol i wrando ar y cais. Bydd swyddogion a/neu'r pwyllgor yn ystyried unrhyw ddogfennaeth neu wybodaeth arall a ddarperir gennych sy'n berthnasol i'r cais yn y gwrandawiad.

Ceisiadau cyfredol

Close Dewis iaith