Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Trwyddedu perfformio plant

Gofynion trwyddedau perfformio i blant a ffurflenni cais ar gyfer plant sy'n byw yn Abertawe.

Oherwydd prinder staff posib rydym yn gofyn i bobl gysylltu drwy e-bost yn hytrach na thros y ffôn. Dylid anfon unrhyw ymholiadau ynghylch trwydderdau perfformio i blant i: childperformancelicence@abertawe.gov.uk.
Caiff pob e-bost a dderbynnir ei ateb cyn gynted â phosib.

 

Y gofyniad i drwyddedu:

Mae'r ddeddfwriaeth yn gofyn i bob awdurdod lleol gyflwyno trwyddedau perfformio i blant sy'n cymryd rhan yn y categoriau canlynol:

  • Darllediad byw neu berfformiad wedi'i recordio, fel rhaglen deledu neu radio neu ffilm;
  • Perfformiad theatr lle codir tal;
  • Unrhyw berfformiad ar safle trwyddedig;
  • Modelu a chwaraeon plant lle telir y plentyn neu unrhyw berson arall (ar wahan i dreuliau arferol).

Y person sy'n gyfrifol am gynhyrchu perfformiad lle mae plentyn yn cymryd rhan yw'r person a ddylai wneud y cais am y drwydded.

Rhaid cyflwyno cais i Ddinas a Sir Abertawe, a fydd yn prosesu'r cais.

Rhaid i ffurflenni cais, sydd wedi'u cwblahau'n llawn gyda'r holl ddogfennaeth berthnasol wedi'i hatodi, gyrraedd y Ganolfan Ddinesig o leiaf 21 diwrnod gwaith cyn y perfformiad.

Ffurflen gais am drwydded (Word doc) [62KB]

Ni fydd angen trwydded ar rai perfformiadau.  Os nad ydych yn siwr a oes angen trwydded perfformiad plant arnoch, ffoniwch Trwyddedu perfformio plant am gyngor.

Pryd NAD oes angen trwydded ar blentyn i berfformio?

  • Os yw'r plentyn yn perfformio am 4 diwrnod yn unig mewn unrhyw gyfnod o 6 mis, ac os nad oes angen amser o'r ysgol arno i ymgymryd a'r perfformiad;
  • Os yw plentyn yn cymryd rhan mewn perfformiad ysgol llawn amser (hynny yw, ysgol addysgol, nid ysgol ddawns);
  • Perfformiadau a gyflwynir gan 'gorff o bobl';
  • Unrhyw weithgaredd nad yw'r awdurdod lleol yn ei hystyried yn berfformiad, fel cyfweld a phlant neu eu ffilmio pan fyddant yn cymryd rhan mewn gweithgaredd arferol nad yw wedi'i threfnu'n arbennig at ddiben gwersi ysgol neu chwarae yn y parc;
  • Os cyfarwyddir y weithgaredd mewn unrhyw ffordd y gellir ei hadloygu a'i throi'n berfformiad.

 

Caiff ceisiadau am drwyddedau perfformio plant ar gyfer unrhyw blentyn sy'n byw yn Abertawe eu prosesu yn y Yr Uned Ysgolion a Llywodraethwyr.

Os nad oes angen trwydded berfformio plant, rydym yn gofyn o hyd i drefnydd y perfformiad/sioe gofrestru pob plentyn sy'n cymryd rhan.  Mae hyn yn caniatau i ni gadw cofrestr o holl blant Abertawe sy'n cymryd rhan mewn perfformiad.  Hyd yn oed os nad oes angen trwydded ar blentyn, mae'r rhan fwyaf o'r rheolau a'r rheoliadau yn dal yn berthnasol.

Beth yw rôl gwarchodwr?

Arweiniad yn unol â dogfen 'cadw perfformwyr ifanc yn ddiogel' 2015 Llywodraeth Cymru.

Canllawiau gwarchodwyr ar gyfer rhieni sy'n gwarchod eu plentyn eu hunain

Gwybodaeth i rieni sy'n gwarchod eu plant pan fyddant wedi'u trwyddedu ar gyfer perfformiadau.

Canllawiau Cymru ar gyfer cymeradwyaeth corff o bersonau (BOPA)

O dan Adran 37(3)(b) o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 1963, nid oes angen trwydded ar gyfer perfformiad a roddir o dan drefniadau a wneir gan 'gorff o bersonau' a gymeradwywyd gan yr awdurdod lleol lle mae'r perfformiad yn digwydd, neu o dan rai amgylchiadau eithriadol, gan Lywodraeth Cymru neu'r Ysgrifennydd Gwladol.

Trwyddedu perfformio plant: manylion cyswllt

Manylion cyswllt.
Enw
Trwyddedu Perfformio Plant
Close Dewis iaith