
Ailgylchu eitemau trydanol
Oes gennych chi eitemau trydanol dieisiau? Dewch â nhw aton ni!
Yn ôl pob tebyg, byddwch chi'n ailgylchu llawer o'ch gwastraff cartref. Ond beth am hen eitemau trydanol? Os ydyn nhw wedi torri neu os nad ydych eu hangen bellach, ydych chi'n eu gadael i hel llwch yn rhywle neu'n eu taflu?
Nid oes llawer o bobl yn sylweddoli y gellir ailddefnyddio, trwsio neu ailgylchu sawl dyfais o'r fath.
Ydy'ch gliniadur wedi blino? Ydy'ch tostiwr yn rhacs? Ydy'ch dril wedi torri?
Byddwn ni'n derbyn pob gliniadur a chyfrifiadur, pob dyfais ar gyfer y gegin neu'r ardd a phob hen gonsol gêm electronig os nad oes eu heisiau arnoch bellach fel y gallwn eu hailddefnyddio, eu trwsio neu eu hailgylchu.
Pam rydych am i mi roi hen eitemau trydanol i Gyngor Abertawe?
- Ar ôl eu derbyn, byddwn yn asesu pob eitem yn ofalus i weld a yw'n gweithio. Os yw'n bosib, gallwn ni ei hailwerthu Siopa Ailddenfyddio - Trysorau'r Tip neu yn ein canolfan ailgylchu yn Llansamlet. Bydd yr holl arian yna'n mynd tuag at brosiectau addysgol a gynhelir gan y tîm ailgylchu.
- Os na allwn werthu neu drwsio unrhyw eitemau, byddwn yn tynnu'r cydrannau unigol i'w hailddefnyddio.
- Os na allwn drwsio, ailddefnyddio neu werthu'r eitem rydych wedi'i rhoi i ni, yna byddwn yn ei hailgylchu i greu mwy o eitemau newydd sbon.
Gallwch roi'r eitemau bach trydanol canlynol i ni eu hailddefnyddio, eu trwsio neu eu hailgylchu:
Dyfeisiau electronig |
|
Offer trydanol |
|
Offer gofal personal (trydanol) |
|
Offer garddio ac adeiladu (trydanol) |
|