Tŷ Matthew
Ar agor dydd Llun a dydd Mawrth 11.30am - 1.45pm. Dydd Sul 7.00pm - 8.45pm.
Mae Matthew's House yn darparu prydau poeth mewn argyfwng i'r rheini sydd mewn perygl o golli'u cartrefi.
Ar agor ar ddydd Sul, dydd Llun a dydd Mawrth ar gyfer bwyd cartref poeth (cludfwyd ar gael ond dewch â'ch cynhwysydd eich hun):
- Dydd Llun a dydd Mawrth, 11.30am - 1.45pm
- Dydd Sul 7.00pm - 8.45pm
Ar ddydd Llun a dydd Mawrth mae cawodydd a chyfleusterau golchi dillad ar gael (atgyfeiriadau'n unig), ynghyd ag eiriolaeth gyfeillgar a chefnogaeth gan sefydliadau proffesiynol Cynnyrch hylendid ar gael ar ddydd Mawrth. Mae popeth yn rhad ac am ddim ar sail talu fel y dymunwch.
Mae gwasanaeth cludfwyd ar gael rhwng 11.30am ac 1.00pm:
- Ar ddydd Mercher yn Eglwys y Santes Fair, Sgwâr y Santes Fair
- Dydd Iau a dydd Gwener yn Zac's Place, George Street
- Dydd Sadwrn yn Eglwys y Ddinas, Dyfaty
Caffi sy'n atal gwastraff bwyd ac sy'n caniatáu i chi dalu'r hyn a fynnoch yw Matt's Cafe. Mae hyn yn golygu y byddwch yn cael eich trin yn gyfartal os na allwch fforddio talu a gallwch fwynhau pryd yno, waeth beth yw'ch sefyllfa - does dim rhaid rhoi cyfraniad ariannol.
- Enw
- Tŷ Matthew
- Cyfeiriad
-
- 82 High Street
- Abertawe
- SA1 1LW
- Gwe
- http://www.matthewshouse.org.uk
- E-bost
- friends@matthewshouse.org.uk
- Rhif ffôn
- 07708 115903