Toglo gwelededd dewislen symudol

Us Girls

Gwersylloedd a sesiynau Us Girls arobryn i ferched rhwng 8 a 14 oed.

Us Girls (IS)

Us Girls (IS)
Bydd gwersylloedd Us Girls yn rhoi'r cyfle i chi roi cynnig ar amrywiaeth o wahanol chwaraeon a gweithgareddau mewn amgylchedd hwyliog, cyfeillgar ac anfarnol ar draws tair canolfan hamdden yn Abertawe; Canolfan Hamdden Pen-lan, Canolfan Hamdden Penyrheol a Chanolfan Hamdden Hengoed yn ystod gwyliau'r ysgol. Mae'r chwaraeon a gweithgareddau sydd ar gynnig yn ein gwersylloedd yn cynnwys gymnasteg, rygbi, hunanamddiffyn, nofio, dawnsio, mynyddfyrddio a mwy; mae rhywbeth i bawb!

Mae gweithdai hefyd yn gyffredin yn y gwersylloedd a bydd cyfle yno i chi drafod eich barn a'ch pryderon ynghylch gwahanol bynciau fel cyfryngau cymdeithasol, hyder a hunan-barch, iechyd emosiynol, modelau rôl a mwy. Efallai yr hoffech ddod yn wirfoddolwr Us Girls neu'n arweinydd ifanc ac os felly, byddwn yn eich cefnogi ac yn rhoi'r holl bethau angenrheidiol i chi gyflawni'r rôl hon yn hyderus.

Os hoffech ddod i wersyll Us Girls, cwrdd â ffrindiau newydd, dysgu sgiliau newydd a rhoi cynnig ar ein gweithgareddau newydd, cadwch lygad ar ein Chwaraeon ac Iechyd Abertawe Facebook a Chwaraeon ac Iechyd Abertawe Twitter am fanylion ein gwersylloedd Us Girls sydd ar ddod a gwybodaeth am sut i gadw lle.

Close Dewis iaith