Toglo gwelededd dewislen symudol

Washinghouse Brook (coetiroedd)

Mae'r nant yn rhedeg drwy'r coetir deniadol hwn o dderw a chyll yn bennaf sy'n gartref i adar megis y dylluan frech, y gnocell werdd, llwyd y gwrych, y fronfraith, y llinos werdd, yr eurbinc a choch y berllan.

Golchwyd 'Marmor y Mwmbwls' o 1811 yn y 'Llynnoedd Golchi' ger Tafarn y West Cross. 

Dynodiadau

  • Safle o Bwys Cadwraeth Natur (SBCN 230)

Cyfleusterau

  • Siopau a lluniaeth ar gael yn West Cross
  • Tafarn - West Cross Inn

Gwybodaeth am fynediad

Y Mwmbwls
Cyfeirnod Grid SS610895
Map Explorer yr AO 165 Abertawe

Cerdded

Mynediad i ben gorllewinol y safle oddi ar Heol Moorside, West Cross. Mynediad i ben dwyreiniol y safle oddi ar Lôn West Cross. Ceir taith gerdded bleserus drwy'r safle. Mae Ffordd y Mwmbwls (taith gerdded a ddatblygwyd gan Ymddiriedolaeth Datblygu'r Mwmbwls) yn mynd drwy'r coetir.

Ar y bws

Ceir bysus rheolaidd ar hyd Heol y Mwmbwls a thrwy stâd West Cross.

Ar gefn beic

Mae Llwybr Beicio Cenedlaethol 4 yn agos iawn i'r safle.

Close Dewis iaith