Toglo gwelededd dewislen symudol

Welsh Moor a Chomin y Fforest

Mae'r cominau hyn yn fosaig o laswelltir llaith asid a rhostir sychach. Maent yn gominau tawel iawn ar y cyfan, ychydig yn ddiarffordd, wedi'u cuddio gan brysgwydd a choed.

Mae Welsh Moor yn eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol sydd hefyd yn ei reoli. Mae gwaith rheoli rhedyn wedi digwydd yn ddiweddar ar y safle i hybu mwy o amrywiaeth o rywogaethau planhigion rhostir i ailgydio. Bydd hyn yn fwy o werth i fywyd gwyllt a hefyd yn rhoi gwell cyfle i gominwyr bori eu da byw megis defaid a gwartheg sy'n pori yn yr ardal hon.

Tirfeddianwyr a ffermwyr yw cominwyr y mae ganddynt hawliau hanesyddol i ddefnyddio'r tir i bori, casglu tanwent ac yn y blaen.

Uchafbwyntiau

Mae britheg y gors (yn brin yn rhyngwladol) yn un o nodweddion y safle.

Dynodiadau

  • Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA)
  • Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA)
  • Tir mynediad agored

Cyfleusterau

  • Mae'r cyfleusterau agosaf yn Llanrhidian lle ceir tafarn a garej/siop
  • Tafarn y Dolphin
  • Bwyty Welcome to Town
  • Gorsaf betrol/siop

Gwybodaeth am fynediad

Cyfeirnod Grid SS520928
Map Explorer yr Arolwg Ordnans 164 Gŵyr

Llwybrau troed

Mae dau lwybr hawliau tramwy (llwybr ceffyl) yn arwain at Welsh Moor ac mae ffordd fach yn ei groesi.

Ceir

Ewch ar y B4271 o Llanrhidian i gyfeiriad Cilybion gan gymryd y cyntaf ar y chwith gydag arwydd Welsh Moor. Nid oes maes parcio ar y safle.

Bysus

Mae'r safle bws agosaf ger gorsaf betrol Heron's Way (Llanrhidian), tua milltir o'r safle.

Llwybrau ceffyl

Mae ffordd fach yn croesi'r safle ac mae mynediad llwybr ceffyl i'r ffordd hon gerllaw.

Close Dewis iaith