Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - Mai

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Termau ac amodau - llyfrgelloedd wifi

Os byddwch yn dewis parhau, rydych yn cytuno i gydymffurfio â'r telerau ac amodau defnyddio a chael eich rhwymo ganddynt.

Os ydych yn anghytuno ag unrhyw ran o'r telerau ac amodau hyn, peidiwch â pharhau.

Amodau a thelerau defnyddio WiFi Llyfrgelloedd Abertawe

1. Rydych yn cyrchu gwybodaeth neu ddeunyddiau ar wefannau ar eich menter eich hun ac nid yw'r llyfrgell yn atebol am hynny.

2. Rydych yn cytuno, drwy'r porth hwn, na fyddwch yn cyflawni unrhyw un o'r canlynol:

  • ceisio cael mynediad at ddyfeisiau neu adnoddau nad oes gennych unrhyw hawliau penodol, cyfreithiol iddynt
  • copïo, atgynhyrchu neu drosglwyddo unrhyw ffeiliau neu wybodaeth hawlfraint heblaw yn unol â gofynion a lwfansau deiliad yr hawlfraint
  • lansio ymosodiadau ar rwydweithiau o unrhyw fath, gan gynnwys sganio pyrth, ymosodiadau atal gwasanaeth/ymosodiadau atal gwasanaeth dosbarthedig, ymosodiadau ar becynnau, ymosodiadau ailchwarae neu chwistrellu, herwgipio neu ryng-gipio sesiwn neu unrhyw weithgaredd arall o'r fath gyda bwriad maleisus
  • trosglwyddo meddalwedd faleisus fel feirysau, ceffyl pen Troea a mwydod
  • gosod meddalwedd yn gudd neu wneud newidiadau i ffurfwedd unrhyw ddyfais neu raglen drwy osod cofnodwr trawiadau bysellau, ffolderi cofrestru neu raglen neu sgript weithredadwy neu weithredol arall. 

3. Rydych yn cytuno y byddwch yn defnyddio'r mynediad a ddarperir yma yn gyfrifol a chan roi ystyriaeth lawn i ddiogelwch, diogeledd a phreifatrwydd yr holl ddefnyddwyr, dyfeisiau ac adnoddau eraill.

4. Rydych yn cytuno y byddwch yn ymwybodol o sensitifrwydd diwylliannol pobl eraill wrth ddefnyddio'r porth hwn er mwyn peidio ag ysgogi ymateb neu dramgwydd, ac na fyddwch yn mynd ati'n fwriadol i gael mynediad at unrhyw ddeunydd pornograffig, graffigol dreisgar, cas neu ddeunydd sarhaus arall (fel y bernir gennym ni) waeth beth fo sensitifrwydd pobl eraill.

5. Rydych yn deall ein bod yn cadw'r hawl i gofnodi neu fonitro traffig i sicrhau y cydymffurfir â'r telerau hyn.

6. Rydych yn deall y gallai defnydd anawdurdodedig o adnoddau drwy'r porth hwn arwain at hawliad am iawndal a / neu fod yn drosedd.

7. Byddwch yn gallu defnyddio hyd at 2 ddyfais ar unrhyw adeg drwy eich cyfrinair mewngofnodi ar gyfer y WiFi.

8. Drwy gytuno i'r amodau a thelerau hyn rydych yn cytuno i gael eich rhwymo gan bolisi defnydd derbyniol y gwasanaethau gigidol.

9. Diogelu Data a chadw data personol - Mae Cyngor Abertawe'n parchu'ch hawl i breifatrwydd ac mae'n ymroddedig i'w hamddiffyn yn unol â'r Ddeddfwriaeth Diogelu Data. Cyngor Abertawe yw'r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu fel rhan o'ch aelodaeth Llyfrgelloedd Abertawe ac wrth ddefnyddio'i gwasanaethau digidol. Bydd Cyngor Abertawe'n dal, yn cynnal ac yn defnyddio'r data hwn yn unol â Pholisi Diogelu Data'r cyngor a thelerau Hysbysiad Preifatrwydd y cyngor: Hysbysiad preifatrwydd