Wi-fi, cyfrifiaduron ac argraffu yn y llyfrgell
Mae pob un o'n llyfrgelloedd yn cynnig mynediad at Wi-Fi, cyfrifiaduron a gwasanaethau argraffu i aelodau llyfrgell.
Ddim yn aelod eto? Gwnewch gais i ymuno nawr.
Wi-fi
Mae wi-fi am ddim yn yr holl lyfrgelloedd ac mae ar gael yn ystod oriau agor i aelodau Llyfrgelloedd Abertawe.
Bydd angen mewngofnodi ar eich dyfais i ddechrau (manylion ar gael yn y llyfrgell) ac yna'r cyfan sydd ei angen yw rhif eich cerdyn llyfrgell a'ch PIN.
Rheolir mynediad at wi-fi y llyfrgell yn ddiogel drwy'r rhwydwaith llyfrgelloedd cyhoeddus.
Argraffu, sganio a chopïo
Mae pob llyfrgell yn cynnig cyfleusterau argraffu a chopïo.
Mae'r mathau o wasanaethau sydd ar gael ym mhob llyfrgell yn amrywio ac mae manylion ar gael ar dudalennau llyfrgelloedd unigol: Llyfrgelloedd yn Abertawe
Manylion taliadau argraffu: Taliadau llyfrgell a thalu ar-lein
Bydd angen eich aelodaeth o'r llyfrgell i fewngofnodi ar un o'r cyfrifiaduron personol mynediad cyhoeddus er mwyn argraffu neu sganio.
Cadwch le ar gyfrifiadur yn eich llyfrgell leol
I osgoi cael eich siomi ar adegau prysur, gallwch gadw lle wrth gyfrifiadur cyn i chi gyrraedd y llyfrgell.
Polisi defnydd derbyniol
Y rhyngrwyd a'ch cyfrifoldebau chi
Nid yw Gwasanaeth Llyfrgelloedd a Gwybodaeth Abertawe yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am ansawdd, cywirdeb, dilysrwydd nac argaeledd yr wybodaeth y deuir o hyd iddi trwy'r rhyngrwyd. Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau cywirdeb unrhyw wybodaeth yr ydych yn dod o hyd iddi. Nid yw'r Gwasanaeth Llyfrgelloedd yn atebol am unrhyw golled, ddifrod neu anaf a ddioddefir, yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, o ganlyniad i ddefnyddio'r cyfarpar neu drwy ddefnyddio ei gyfleusterau Wi-Fi (lle bo'n berthnasol). Atgoffir defnyddwyr mai nhw sy'n gyfrifol wrth ddefnyddio'r cyfleusterau am amddiffyn yn erbyn bygythiadau firws ac y dylid diogelu cyfrifiaduron cartref, gliniaduron a dyfeisiau symudol yn ddigonol â'r feddalwedd diogelwch diweddaraf.
Amodau defnydd
Mae'r Gwasanaeth Llyfrgelloedd yn caniatáu i holl aelodau ei lyfrgelloedd ddefnyddio ei wasanaethau cyfrifiadurol am ddim. Gellir gwahardd aelodau ein llyfrgelloedd sydd heb dalu dirwyon na ffioedd rhag defnyddio'r cyfrifiaduron nes iddynt dalu'r rhain.
Defnyddiau gwaharddedig
- cael hyd i, arddangos neu ddosbarthu unrhyw ddeunydd y gellid ystyried ei fod yn anweddus, yn bornograffig, yn sarhaus, yn hiliol neu'n ddilornus.
- trafod busnes ar-lein (nid yw hyn yn cynnwys trafodion ariannol personol)
- dosbarthu hysbysebion heb wahoddiad.
- ceisio cael mynediad i gyfrifiaduron neu rwydweithiau eraill heb ganiatâd.
- addasu gosodiad y cyfrifiaduron neu'r meddalwedd a ddefnyddir arnynt.
- defnyddio ystafelloedd sgwrsio.
- unrhyw weithgaredd anghyfreithlon.