Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Wifi, cyfrifiaduron ac argraffu yn y llyfrgell

Mae pob un o'n llyfrgelloedd yn cynnig mynediad at wifi, cyfrifiaduron a gwasanaethau argraffu i aelodau llyfrgell.

Cadwch le ar gyfrifiadur yn eich llyfrgell leol (Yn agor ffenestr newydd)

Ddim yn aelod eto? Gwnewch gais i ymuno nawr.

Wifi

Mae Wi-Fi i'w gael am ddim ym mhob llyfrgell.

Mae'n rhaid cael cyfeiriad e-bost i gofrestru i ddefnyddio Wi-Fi llyfrgell, a does dim angen i chi fod yn aelod o'r llyfrgell. Unwaith y caiff eich cofrestriad ei gymeradwyo gan aelod o staff yn y llyfrgell, byddwch yn gallu cysylltu â'r Wi-Fi wrth ymweld ag unrhyw lyfrgell yn Abertawe am 3 mis. Bydd angen i chi ddadgofrestru ar ôl yr amser hwn. 

Rheolir mynediad at wifi y llyfrgell yn ddiogel drwy'r rhwydwaith llyfrgelloedd cyhoeddus.

Polisi defnydd derbyniol

Drwy gofrestru neu fewngofnodi i rwydwaith neu Wi-Fi y llyfrgell, mae cwsmeriaid yn cytuno i amodau'r polisi defnydd derbyniol: Polisi defnydd derbyniol y gwasanaethau gigidol

Argraffu, sganio a chopïo

Mae pob llyfrgell yn cynnig cyfleusterau argraffu a chopïo.

Mae'r mathau o wasanaethau sydd ar gael ym mhob llyfrgell yn amrywio ac mae manylion ar gael ar dudalennau llyfrgelloedd unigol: Llyfrgelloedd yn Abertawe

Manylion taliadau argraffu: Taliadau llyfrgell

Argraffu neu sganio o un o gyfrifiaduron y llyfrgell

Bydd angen eich aelodaeth o'r llyfrgell i fewngofnodi ar un o'r cyfrifiaduron personol mynediad cyhoeddus er mwyn argraffu neu sganio. I osgoi cael eich siomi ar adegau prysur, gallwch gadw lle wrth gyfrifiadur cyn i chi gyrraedd y llyfrgell: Cadwch le ar gyfrifiadur yn eich llyfrgell leol (Yn agor ffenestr newydd)

Argraffu diwifr o'ch dyfais eich hun (drwy Princh)

Gallwch argraffu o'ch dyfais eich hun yn y llyfrgell heb fod angen aelodaeth llyfrgell arnoch. Gellir gwneud hyn drwy nodi neu sganio'r côd argraffydd sy'n cael ei arddangos ym mhob llyfrgell ar wedudalen neu ap y gellir ei lawrlwytho am ddim. Mae ffyrdd amrywiol o dalu am eich printiau drwy'r wefan neu'r ap neu yn y llyfrgell.