Toglo gwelededd dewislen symudol

Addysg ddewisol yn y cartref - y cefndir cyfreithiol

Mae gan rieni hawl i addysgu eu plant gartref ar yr amod eu bod yn cyflawni gofynion Adran 7 Deddf Addysg 1996.

Mae gan rieni hawl i addysgu eu plant gartref ar yr amod eu bod yn cyflawni gofynion Adran 7 Deddf Addysg 1996, sy'n rhoi dyletswydd ar rieni pob plentyn o oedran ysgol gorfodol i beri iddo dderbyn addysg amser llawn effeithlon sy'n addas ar gyfer ei oedran, ei allu a'i ddawn, ac ar gyfer unrhyw anghenion addysgol arbennig sydd ganddo, naill ai drwy bresenoldeb rheolaidd yn yr ysgol neu fel arall.

Ni ddiffinnir 'addysg amser llawn effeithlon' ar gyfer plant sy'n derbyn addysg yn y cartref, er efallai y bydd rhieni am nodi bod Adran 2 (tud. 5) Arweiniad ar Godau Presenoldeb yn yr Ysgol 2010 yn datgan y dylai disgybl sy'n derbyn addysg yn yr ysgol gwblhau 190 o ddiwrnodau mewn blwyddyn academaidd er mwyn derbyn addysg amser llawn.

Mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i blentyn dderbyn addysg o ddechrau'r tymor sy'n dilyn ei ben-blwydd yn bump oed tan ddydd Gwener olaf mis Mehefin y flwyddyn academaidd pan fydd yn 16 oed.

Nid yw'r ALI yn gyfrifol am ddarparu ADdC neu dan unrhyw ymrwymiad statudol i'w chefnogi. Fodd bynnag, o dan Adran 436A Deddf Addysg 1996, mae gan yr ALI ddyletswydd i wneud trefniadau i nodi plant nad ydynt yn derbyn addysg addas.

Tynnu enw plentyn oddi ar y gofrestr derbyniadau ysgolion

Pan fydd plentyn wedi cofrestru mewn ysgol ac mae'r rhiant yn dymuno ei addysgu yn y cartref, mae'n rhaid i'r rhiant ysgrifennu i'r ysgol gan ofyn i dynnu enw ei blentyn oddi ar gofrestr yr ysgol.

Caiff enw llawn a chyfeiriad y plentyn eu hanfon i'r tîm ADdC gan yr ysgol o fewn 10 niwrnod ysgol o ddyddiad tynnu enw'r plentyn oddi ar y gofrestr. Bydd y tîm ADdC yn anfon llythyr o gydnabyddiaeth at y rhiant sy'n cadarnhau bod enw'r plentyn wedi'i dynnu oddi ar gofrestr yr ysgol o dan Reoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) (Cymru) 2010.

Os nad yw rhiant yn anfon y plenty i'r ysgol ac nid yw'n dadgofrestru'r plentyn yn gywir, yna gellid ei erlyn o dan Adran 444(1) (1A) Deddf Addysg 1996 a gellid hefyd ystyried y plentyn fel plentyn ar goll o'r system addysg (CME):  Child Missing from Education (CME).

I gadw cofnodion cywir, byddem yn ddiolchgar pe baech yn gallu rhoi gwybod i'r tîm ADdG am unrhyw newidiadau cyfeiriad drwy anfon llythyr, e-bostio neu ffonio. Cysylltwch â ni yn y cyfeiriad canlynol:

Elective Home Education Team Elective Home Education Team

(bydd hyn yn atal plentyn rhag cael ei ystyried fel 'ar goll').

Os yw'r rhiant yn dymuno i'w blentyn ailgofrestru yn y system addysg ar unrhyw adeg, gall ofyn am ffurflen derbyniadau drwy e-bostio: A&Tsupport@swansea.gov.uk.

Gweithio gydag addysgwyr cartref

Dymuna'r ALI a'r Tîm ADdC feithrin perthnasoedd effeithiol ag addysgwyr cartref er mwyn diogelu diddordeb addysgol a lles plant a phobl ifanc.

Ar gyfer rhieni sy'n addysgu yn y cartref neu sy'n ystyried addysgu yn y cartref, byddwn yn darparu enw cyswllt o'r ALI sy'n gyfarwydd â pholisi ac arfer addysg yn y cartref ac sydd a dealltwriaeth o'r ddeddfwriaeth berthnasol ac amrywiaeth o athronyddiaethau addysgol.

Close Dewis iaith