Toglo gwelededd dewislen symudol

Y Gwasanaeth Cyfarpar Cymunedol

Yn eich helpu gyda byw pob dydd yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot.

Rydym yn benthyca amrywiaeth o gyfarpar i oedolion a phlant i helpu gyda byw dyddiol. Mae enghreifftiau o'r pethau y gellir eu benthyca'n cynnwys: seddau toiled a chomodau, offer i godi uchder celfi, fframiau cerdded, teclynnau codi, gwely proffilio a matresi lleihau pwysau.

Rydym yn benthyca cyfarpar dim ond ar ôl i aelod o staff ysbyty neu gymunedol gynnal asesiad ac archebu'r cyfarpar cywir ar gyfer eich anghenion. Mae'r cyfarpar yn rhad ac am ddim a chaiff ei roi ar fenthyg i chi ei ddefnyddio am gyhyd ag y mae ei angen arnoch.

Gallwch ein ffonio i:

  • Siarad â ni am ddanfon neu osod Cyfarpar Cymunedol.
  • Dweud wrthym pan na fydd angen unrhyw gyfarpar arnoch mwyach fel y gallwn drefnu i'w gasglu gennych.
  • Dweud wrthym os oes gennych broblem gydag unrhyw gyfarpar fel y gallwn ymweld a datrys y broblem i chi (mae ein peirianwyr ar gael 7 niwrnod yr wythnos). Eich diogelwch chi yw'n blaenoriaeth bennaf ac rydym am wneud popeth y gallwn i sicrhau bod eich cyfarpar yn aros yn ddiogel.
  • Dweud wrthym os oes unrhyw beth yn newid, fel eich cyfeiriad neu fanylion cyswllt.

Sylwer: Os oes gennych gyfarpar codi, byddwn yn cysylltu â chi ynghylch ei drin.

Cysylltu â ni

Gallwch ein ffonio ar 01792 512240 neu anfon e-bost at: jes@swansea.gov.uk

Ein cyfeiriad yw: 78 Clase Road, Treforys, Abertawe SA6 8DZ

Am ragor o wybodaeth, cyngor a chefnogaeth am faterion Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn Abertawe, ffoniwch 01792 636519 neu ewch i Gofal cymdeithasol a lles.

Close Dewis iaith