Ymchwil i dwristiaeth ac ystadegau
Ffeithiau a ffigurau ar dwristiaeth ym Mae Abertawe a chanfyddiadau ymchwil diweddaraf
FFEITHIAU A FFIGURAU ALLWEDDOL AM ABERTAWE
· Poblogaeth Abertawe yw 237,800 (2021), a rhagfynegir y bydd yn cynyddu i 256,000 erbyn 2030.Ei phoblogaeth oedran gweithio (16-64 oed) ar hyn o bryd yw 156,500.
· Mae 600,000 o bobl yn byw o fewn taith yrru 30 munud i Abertawe a 2 filiwn o fewn taith yrru awr.
· Mae Abertawe yn gartref i dros 29,000 o fyfyrwyr.
· Mae 148,000 o bobl mewn cyflogaeth yn Abertawe
· Mae 7,700 o fusnesau yn Abertawe.
· Mae dros 70% o Abertawe yn wledig ac mae ganddi arfordir 32 milltir o hyd a thros 50 o draethau.
· Lawrlwythwch Arweiniad Busnes Abertawe 2023 am ragor o ffeithiau a ffigurau.
AROLWG I YMWELWYR 2022
· Cafodd 1,000 o ymwelwyr eu cyfweld wyneb yn wyneb rhwng mis Ebrill a mis Medi 2022
· Mae tua hanner ein hymwelwyr yn dod o Gymru.
· Mae marchnadoedd allweddol eraill yn cynnwys de-orllewin Lloegr, canolbarth Lloegr, de-ddwyrain Lloegr a Llundain.
· Maent yn gynyddol debygol o aros dros nos (6 ym mhob 10) - yn aros 4.8 noson ar gyfartaledd
· Defnyddiwyd amrywiaeth eang o fathau o lety gan ymwelwr dros nos ond llety hunanddarpar oedd y mwyaf poblogaidd
· Roedd bron i dri chwarter ohonynt yn ailymweld
· Roedd y rhan fwyaf ohonynt dros 55 oed neu yn y grŵp oedran 35 i 54 oed.
· Roedd y rhan fwyaf ohonynt yn ymweld fel cwpl neu fel teulu o raddau cymdeithasol ABC1 uwch
· Mae'r gwariant cyfartalog wedi cynyddu ers 2019 (£45 ar gyfer ymwelwyr dros nos, £29 ar gyfer ymwelwyr dydd)
· Yr arfordir, y traethau, y golygfeydd a'r dirwedd yw'r rhesymau pennaf dros ymweld o hyd
· Roedd gweithgareddau hefyd yn bwysig i lawer, yn enwedig cerdded, chwaraeon dŵr a beicio
· Roedd 99% wedi 'mwynhau' eu hymweliad neu wedi ei 'fwynhau yn fawr'
· Byddai 96% yn argymell ymweliad
Lawrlwythwch ein Ffeithlun Arolwg Ymwelwyr isod:
Visitor Survey 2022 Infographic (PDF) [1MB]
AROLWG MASNACH DWRISTIAETH 2022
· Cynhaliwyd arolwg o 120 o fusnesau twristiaeth ym mis Tachwedd 2022
· Mae tri chwarter ohonynt yn teimlo eu bod yn wybodus yn sgîl yr wybodaeth a gawsant gan Dîm Twristiaeth Cyngor Abertawe
· Roedd 96% ohonynt yn credu mai asedau gorau Bae Abertawe yw ei arfordir/traethau a 75% ohonynt yn credu mai'r golygfeydd/dirwedd yw ei asedau gorau
· Dywedodd 67% ohonynt fod lefelau busnes yn 'dda' neu'n 'ragorol' yn 2022.
· Dywedodd hanner ohonynt y cafwyd perfformiad gwell nag yn 2021
· Dywedodd 82% ohonynt eu bod wedi adfer 'bron yn llwyr' neu 'yn llwyr' o effeithiau pandemig COVID-19 (88% ar gyfer llety)
· Mae gan 45% gynlluniau i ehangu (cynyddu maint, gwella ansawdd, arallgyfeirio)
· Mae 62% ohonynt yn teimlo'n gadarnhaol ynghylch rhagolygon busnes tymor hir
· Blaenoriaethau i wella: glendid strydoedd, argaeledd / glendid toiledau ac arwyddion ffordd
· Yr heriau mawr sydd i ddod: Polisïau Llywodraeth Cymru, costau byw, cyfyngiadau cynllunio, prinder staff, mynediad at gyllid a natur dymhorol
· Maent yn credu y gall y Tîm Twristiaeth helpu gyda chymorth marchnata, grantiau / cyllid, cyngor busnes a chysylltu ag adrannau eraill y cyngor.
Lawrlwythwch ein Ffeithlun Arolwg Masnach Dwristiaeth isod:
Tourism Trade Survey 2022 Infographic (PDF) [1MB]
ASTUDIAETH O'R GALW AM WESTAI YNG NGHANOL DINAS ABERTAWE 2022
· Ffocws ar ganol dinas Abertawe, SA1 a'r Gwaith Copr
· Mae gwaith mawr i drawsnewid canol y ddinas wedi creu galw cynyddol
· Ar y cyfan, does gan Abertawe ddim cyflenwad digonol ar hyn o bryd - agorodd y gwesty diwethaf yn 2013
· Mae gwestai Abertawe'n perfformio'n dda drwy gydol y flwyddyn - mae galw mawr am hamdden a busnes
· Graddfa deiliadaeth cyfartalog o 77.3%
· Cyfradd Ddyddiol Gyfartalog o £67
· Refeniw fesul ystafell sydd ar gael (RevPAR) £52 a £60 ar gyfer gwestai graddfa uwch a gwestai graddfa ganolig uwch
· Y 6 refeniw fesul ystafell sydd ar gael gorau yn y DU (cynnydd o 7.9% o 2019 i 2022)
· Mae Abertawe wedi cyrraedd y 10 uchaf ym Mynegai Marchnad Gwestai y DU Colliers ar gyfer 2023
· Mae angen 285 i 355 o ystafelloedd yn ychwanegol ar ganol y ddinas = sy'n gyfwerth â 3 gwesty erbyn 2026 (a mwy eto erbyn 2032)
· Cyfleoedd ar gyfer datblygiad graddfa ganolig, graddfa ganolig uwch a graddfa uwch
Lawrlwythwch ein Ffeithlun Astudiaeth Galw am Westai isod:
Swansea Hotel Demand Study infographic (PDF) [1MB]
FIGURAU TWRISTIAETH STEAM2019
· Gwariant: £477.22 miliwn (cynnydd o 2.2% ers 2018)
· 4.79 miliwn o ymwelwyr â'r ardal (gostyngiad o 0.2% ers 2018)
· Nifer y swyddi a gefnogir: 5,998 (cynnydd o 3.4% ers 2018)
Rydym yn defnyddio model STEAM (Scarborough Tourism Economic Activity Monitor) i fesur effaith economaidd leol twristiaeth ac i fonitro tueddiadau ym Mae Abertawe.
Mae 2019 yn cael ei derbyn yn gyffredinol fel y flwyddyn 'ystadegol lawn' olaf ac fe'i defnyddir o hyd fel cyfeirnod cyn y pandemig. Bydd ffigurau STEAM 2022 ar gael ym mis Gorffennaf.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, e-bostiwch Michelle.Grove@abertawe.gov.uk