Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - Awst

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Ymchwilio i Lifogydd

Fel yr Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol (ALlLlA) ar gyfer Dinas a Sir Abertawe, un o'n cyfrifoldebau newydd yw dyletswydd i ymchwilio i lifogydd sy'n digwydd yn y sir fel yr ystyriwn ei bod yn angenrheidiol.

Mae Adran 19 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 yn amlinellu'r canlynol:

1) Wrth ddod i wybod am lifogydd yn ei ardal, mae'n rhaid i awdurdod llifogydd lleol arweiniol, i'r graddau y mae'n ystyried ei bod hi'n angenrheidiol neu briodol, ymchwilio i:

(a) ba awdurdodau rheoli perygl sydd â'r swyddogaethau rheoli llifogydd perthnasol, ac
(b) a yw pob un o'r awdurdodau rheoli perygl hynny wedi arfer y swyddogaethau hynny, neu'n bwriadu eu harfer, mewn ymateb i'r llifogydd.

2) Lle bydd awdurdod yn cynnal ymchwiliad dan is-adran (1), rhaid iddo:

(a) gyhoeddi canlyniadau ei ymchwiliad, a
(b) hysbysu unrhyw awdurdodau rheoli perygl.

Penderfynir ar yr angen i ymchwilio i lifogydd penodol fesul achos, gan ystyried ffactorau megis nifer yr eiddo yr effeithiwyd arnynt a ffynhonnell debygol y llifogydd.

Bydd canlyniadau unrhyw ymchwiliadau i lifogydd a gynhelir gennym yn cael eu cyhoeddi ar y dudalen.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 14 Hydref 2022