Toglo gwelededd dewislen symudol

Adnoddau ymchwilio i hanes lleol yn y llyfrgelloedd

Mae nifer o adnoddau ar gael i helpu defnyddwyr ymchwilio i'w hanes teulu a hanes lleol.

 

Casgliad astudiaethau lleol

Mae'r casgliad astudiaethau lleol ar lawr cyntaf Llyfrgell Ganolog. Mae gan y casgliad gasgliadau benthyca a chyfeirio cynhwysfawr o filoedd o lyfrau am Abertawe, Gŵyr a'r ardal o'i chwmpas a hefyd gasgliad cyfeirio mawr o lyfrau am Gymru yn gyffredinol. Mae ein casgliad yn cynnwys llyfrau, DVDs a CDs yn ymwneud â hanes, chwaraeon, diwydiant, hanes naturiol, barddoniaeth, cerddoriaeth, nofelau, chwedlau, celf, pensaernïaeth a llawer mwy.

Mae'r rhan fwyaf o'r llyfrau ar gael i'w pori. Defnyddiwch ein catalog ar-lein (Yn agor ffenestr newydd) i weld yr hyn sydd ar gael. Cofiwch y gellir anfon copïau sydd ar gael i'w benthyca i'ch llyfrgell leol.

Papurau newydd a microffilm

Mae Llyfrgell Ganolog yn cynnal casgliadau mawr o bapurau newydd, mewn print ac ar ficroffilm. Mae'r cynharaf yn dyddio yn ôl i argraffiad cyntaf The Cambrian ym 1804, papur Abertawe, a'r cyntaf i gael ei gyhoeddi yng Nghymru. Mae Mynegai'r Cambrian ar-lein yn darparu ffordd o chwilio am y papur hwn. Mae teitlau nodedig eraill yn cynnwys The South Wales Daily/Evening Post o 1893 i'r presennol, The Western Mail o 1869 i'r presennol a Seren Gomer (1814-1815).

Mae gennym chwe darllenwr/argraffwr microffilm y gellir cadw lle arnynt i gwsmeriaid yn y Llyfrgell Ganolog. Gall rhai o'r rhain arbed sganiau digidol ar gof bach. Argymhellir cadw lle ar ddarllenwr/argraffydd microffilm ymlaen llaw.

Mae Llyfrgell Ganolog hefyd yn cadw ffeiliau o fwy na 70,000 o doriadau o bapurau newydd ar amrywiaeth helaeth o bynciau lleol. Mae nifer o'r toriadau hyn bellach ar gael ar CDs cyfeirio y gellir cael mynediad iddynt yn yr ardal astudiaethau lleol.

Gall aelodau'r llyfrgell ddefnyddio adnoddau ar-lein drwy nifer o gronfeydd data hanesyddol a phapurau newyddion cyfredol.

Mae Papurau Newydd Cymru (Llyfrgell Genedlaethol Cymru) (Yn agor ffenestr newydd) yn cynnig fersiynau digidol o nifer o'r hen bapurau newyddion sydd yn ein casgliadau.

Arweiniad i bapurau newydd lleol a Chymraeg a microffilm yn Llyfrgell Ganolog

Mapiau a chynlluniau

Mae'r rhain ar gael ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus mewn cypyrddau mapiau yn yr adran astudiaethau lleol yn Llyfrgell Ganolog. Mae'r rhain yn cynnwys y cyfnod o. 1835 (map y degwm a chopïau dosbarthiad) hyd heddiw. Maent yn cynnwys argraffiadau cyfredol a blaenorol mapiau 1:1250 a 1:2500 yr Arolwg Ordnans, a'r gyfres 25" (o. 1878 a'r argraffiadau dilynol). Mae ein casgliadau mapiau yn cynnwys ffiniau Dinas a Sir Abertawe.

Hanes teulu, ffurflenni cyfrifiad a chofnodion geni, priodas a marwolaeth

Yn ogystal ag amrywiaeth eang o lyfrau hanes teulu i'w benthyg ac i gyfeirio atynt, mae Gwasanaeth Llyfrgelloedd Abertawe yn cynnwys mynediad am ddim i bob aelod i ddau o'r prif wefannau hanes teulu ac achyddiaeth, Ancestry a Find My Past, yn ein llyfrgelloedd. Mae cofnodion ffurflenni cyfrifiad a mynegai geni, priodas a marwolaeth y DU wedi'u cynnwys ar y gwefannau hyn, yn ogystal â nifer o gasgliadau cofnodion defnyddiol eraill.

Cofrestrau etholiadol a chyfeiriaduron masnach

Mae gan y Llyfrgell Astudiaethau Lleol gofnod anghyflawn o gofrestri o 1836 tan 1939, a set fwy cyflawn ar ôl yr Ail Ryfel Bydd hyd at 2002. Mae'r Cofrestri hyn yn cwmpasu ardaloedd Gorllewin Abertawe, Dwyrain Abertawe a Gŵyr.

Mae'r gofrestr etholiadol lawn yn ogystal â chasgliad mwy cynhwysfawr o hen gofrestrau ar gael gan Wasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg.

Gall cyfeiriaduron masnachol fod yn ddefnyddiol i olrhain aelodau'r teulu ac ar gyfer ymchwil hanes lleol ac mae gennym ddewis helaeth ar gyfer Abertawe a De Cymru. 

Mae gan Lyfrgell Ganolog argraffiadau o lyfrau ffôn Abertawe o 1904 hyd heddiw ac mae gennym hefyd gyfeiriaduron dosbarthol (Yellow Pages) o 1940 ymlaen ar gyfer yr ardal leol. Gweler ein catalog ar-lein (Yn agor ffenestr newydd) ar gyfer rhestr.

Arweiniad i gofrestrau etholiadol a chyfeiriaduron masnach yn Llyfrgell Ganolog

Mwy o help ac ymholiadau

Arweiniad i gofrestrau etholiadol a chyfeiriaduron masnach yn Llyfrgell Ganolog

Gwybodaeth am ddyddiadau, ardaloedd ac enwau cyhoeddiadau cofrestrau etholiadol a chyfeiriaduron masnach a gedwir yn y Llyfrgell Ganolog.

Arweiniad i bapurau newydd lleol a Chymraeg a microffilm yn Llyfrgell Ganolog

Gwybodaeth am archifo papurau newydd lleol a Chymraeg y gallwch eu cyrchu ar-lein ac yn bersonol yn y Llyfrgell Ganolog.
Close Dewis iaith