Toglo gwelededd dewislen symudol

Ymwelwyr Iechyd a Bydwreigiaeth

Mae Tim Iechyd Dechrau'n Deg yn cynnwys Ymwelwyr Iechyd, Bydwragedd, Therapyddion Iaith a Lleferydd ac mae Nyrsys Meithrinfeydd Cymunedol yn ei gefnogi hefyd.

Rydym yn rhan o Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ac yn gweithio'n agos gyda gwasanaethau craidd ar draws Abertawe. Mae'r Tîm Iechyd Dechrau'n Deg yn gweithio mewn partneriaeth â phartneriaid Dechrau'n Deg mewn addysg, yr awdurdod lleol a'r Canolfannau Cymorth Cynnar.

Mae Ymwelwyr Iechyd Dechrau'n Deg yn gallu gweithio'n agosach â'r boblogaeth Dechrau'n Deg i hybu iechyd, lles a darparu cyngor ynghylch blaenoriaethau iechyd cyhoeddus megis imiwneiddiadau. Mae ein hymwelwyr iechyd yn dilyn Rhaglen Plant Iach Cymru Dechrau'n Deg Cymru Gyfan a byddant yn cysylltu â chi a'ch teulu ar adegau allweddol yn ystod pedair blynedd gyntaf eich plentyn. Rydym yn darparu cysylltiadau mewn amrywiaeth o ffyrdd gan gynnwys ymgynghoriad rhithwir trwy ddefnyddio Attend Anywhere, wyneb yn wyneb yn eich cartref ac mewn clinig iechyd plant. Mae'r tîm hefyd yn cynnal gweithgareddau grŵp megis tylino babanod a grwpiau cefnogaeth ôl-enedigol.

Bydd y tîm iechyd yn darparu cyngor ac arweiniad ar wahanol agweddau o ofalu am eich baban/plentyn, gan gynnwys monitro twf a datblygiad. Gallwn ddarparu cyngor ar gysgu, imiwneiddiadau, trefn, diogelwch yn y cartref a materion eraill sy'n ymwneud â gofalu am eich plentyn. Mae Ymwelwyr Iechyd a Nyrsys Iechyd Cyhoeddus Arbenigol yn gallu cynghori a chefnogi gyda phynciau iechyd cyhoeddus fel smygu, bwyta'n dda, cadw'n heini ac yn iach a gwneud dewisiadau ffordd o fyw iach. Gall ymwelwyr iechyd gyfeirio pobl at asiantaethau cefnogol eraill yn ôl yr angen.

Close Dewis iaith