Trwydded barcio ar gyfer ymwelwyr ar eu gwyliau
Gall ymwelwyr sy'n byw y tu allan i Abertawe fel arfer ac a fydd yn aros yn yr ardal am o leiaf 3 diwrnod ddefnyddio un o'r trwyddedau parcio hyn i barcio mewn cilfannau parcio preswylwyr pan fyddant yma.
Mae dau fath o drwydded ymwelwyr: un i bobl sy'n rhentu eiddo ar gyfer gwyliau masnachol ac un arall ar gyfer unrhyw un sy'n ymweld â ffrindiau neu berthnasau.
Trwydded ar gyfer Ymwelwyr ar eu Gwyliau - tai masnachol
- Gall perchennog neu asiant yr eiddo neu'r ymwelydd ei hun gyflwyno cais am y drwydded.
- Gellir cyflwyno cais am drwydded ar gyfer ymwelwyr ar eu gwyliau ar gyfer pob cyfnod gosod.
- Un drwydded yn unig y gellir ei chlustnodi ar gyfer cyfeiriad ar un adeg, ond nid oes cyfyngiad ar nifer y math hwn o drwydded y gellir ei gyflwyno'n olynol.
- Codir tâl o £25.00 yr wythnos am bob trwydded (nid oes unrhyw ostyngiad yn y pris os ydych yn aros am lai nac wythnos).
Trwydded ar gyfer Ymwelwyr ar eu Gwyliau - tai preifat
- Mae'n rhaid i'r cais hwn am drwydded gael ei lenwi gan y preswylydd o Abertawe sy'n gwneud cais ar ran yr unigolyn sy'n ymweld ag ef/hi a fydd yn defnyddio'r drwydded.
- Mae'n rhaid i'r ymwelwyr fyw y tu allan i ardal Abertawe fel arfer a dylent aros yn Abertawe am o leiaf 3 diwrnod.
- Un drwydded ymwelwyr y gellir ei chyflwyno ar un adeg. Mae pob un yn para am bythefnos ac mae'n ddilys ar y stryd a enwir yn unig.
- Er mai un drwydded ddomestig ar gyfer ymwelwyr ar eu gwyliau y gellir ei chlustnodi i un cyfeiriad ar un adeg, gellir ei chyflwyno yn ogystal â thrwyddedau preswylwyr.
Uchafswm o bedair trwydded am bob eiddo a ganiateir dros gyfnod o 12 mis.
Pryd byddwch yn derbyn eich trwydded?
Ar ôl i chi gyflwyno'ch cais, fel arfer bydd y drwydded yn cael ei hanfon atoch drwy'r post o fewn 5 niwrnod gwaith ar yr amod bod y ffurflen wedi'i chwblhau'n llawn ac y darperir yr holl dystiolaeth gefnogol. Dylech ganiatáu amser i'r gwasanaeth post ddanfon y drwydded atoch.
Os nad ydych wedi darparu'r holl dystiolaeth angenrheidiol, gwrthodir eich cais am drwydded.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â gwneud cais am drwydded barcio, ffoniwch Cyswllt Abertawe ar 01792 637366.