Toglo gwelededd dewislen symudol

Trwydded ymwelydd teuluol

Os ydych yn berthynas person y mae angen lefelau sylweddol o ofal a chefnogaeth arno oherwydd salwch neu oedran, gallwch wneud cais am drwydded i barcio yn y lleoedd parcio i breswylwyr yn ei stryd.

Cost: £120 y flwyddyn, yn daladwy ar adeg cyflwyno'r cais. Yn ddilys am flwyddyn o'r dyddiad cyflwyno.

  • Mae trwyddedau'n caniatáu parcio ar y stryd lle mae'r person sy'n derbyn gofal yn byw
  • Os bydd dwy drwydded parcio preswylydd eisoes wedi cael eu cyflwyno ar gyfer yr eiddo, nid oes modd defnyddio trwydded parcio ymwelydd teuluol
  • Dyrennir un drwydded parcio ymwelydd teuluol yn unig fesul aelwyd, ond mae'r drwydded yn gallu cynnwys hyd at ddau rif cofrestru cerbyd

Tystiolaeth sydd ei hangen i wneud cais am hawlen barcio ar gyfer ymwelydd teuluol

Bydd angen i chi lanlwytho UN o'r canlynol gyda'ch cais:

  1. Llythyr oddi wrth feddyg y person y mae angen cefnogaeth/gofal arno, sy'n cadarnhau'r angen am gefnogaeth a gofal sylweddol - gofynnwch i'r meddyg lenwi'r ffurflen ganlynol:  Hawlen Barcio i Ymwelydd Teuluol - Cadarnhad o gefnogaeth gan feddyg (Word doc) [64KB]
    NEU
  2. Fathodyn Glas, os yw'r person y mae angen gofal ychwanegol arno yn meddu ar un.

Os nad oes gennych gyfrif MiPermit eisoes, bydd angen i chi gofrestru am un cyn gwneud cais am hawlen drwy fynd i'r ddolen isod.

Gwneud cais am hawlen barcio ar gyfer ymwelydd teuluol (MiPermit) Gwneud cais am hawlen barcio ar gyfer ymwelydd teuluol (MiPermit)

Gwybodaeth ychwanegol

  • Gall gymryd hyd at bum niwrnod gwaith i wirio a phrosesu ceisiadau
  • Caiff cadarnhad ei anfon drwy e-bost unwaith i'r drwydded gael ei chyflwyno
  • Ni chaniateir i chi barcio yn y gilfach i breswylwyr y gwnaed cais amdani nes eich bod yn derbyn eich hawlen ddigidol
  • Nid yw trwydded parcio ymwelydd teuluol yn sicrhau cilfach i breswylwyr
  • Mae trwyddedau parcio ymwelydd teuluol yn ddigidol; ni chaiff trwydded bapur ei chyflwyno
  • Ni ellir ad-dalu'r drwydded, heblaw am mewn amgylchiadau penodol megis marwolaeth deiliad y drwydded neu'r person sy'n derbyn gofal neu gefnogaeth

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 01 Awst 2024