Toglo gwelededd dewislen symudol

Asesiad digonolrwydd gofal plant - crynodeb gweithredol

Mae Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant 2022 (ADGP) yn rhan o dyletswydd sydd ar awdurdodau lleol i asesu a oes cyfleoedd gofal plant digonol i gefnogi teuluoedd sy'n gweithio yn yr ardal.

Cwblhawyd yr asesiad yn bennaf rhwng 2021 a 2022, a chasglwyd data ychwanegol y tu allan i'r cyfnod hwnnw.

Er mai'r prif fwriad yw asesu a oes darpariaeth ddigonol o ofal plant ar gyfer anghenion rhieni sy'n gweithio, mae'n ystyried rhwystrau mynediad, datblygiad y gweithlu, safon a sut mae rhieni/gofalwyr yn cael mynediad at wybodaeth ynghylch y gofal sydd ar gael.

Y broses

Roedd yr asesiad yn cynnwys cyfuniad o ymchwil pen desg, arolygon rhanddeiliaid ac ymgysylltu â nhw, yn ogystal â chanfyddiadau ystod o arolygon ar-lein a ddatblygwyd gan yr awdurdod lleol a Llywodraeth Cymru.  

Cynhaliwyd yr asesiad rhwng Gorffennaf 2021 a Mehefin 2022, cyn ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru ym mis Medi 2022. Oherwydd hyd y cyfnod 'byw' roedd yn rhaid ystyried newidiadau a datblygiadau anochel yng nghanol yr asesu.

Mae'n arwyddocaol bod Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant 2022 wedi cael ei lunio ar adeg o newid ac ansicrwydd mawr. Mae Pandemig Covid-19, yn fwy na dim arall, wedi cael effaith aruthrol ar y canfyddiadau, y safbwyntiau a'r data. Ar ben hynny, roedd datblygiadau megis ymrwymiad i estyn y Cynnig Dechrau'n Deg i gynnwys plant dwy oed yn dod i'r amlwg ar adeg yr asesiad, ac roedd hynny'n golygu ei fod yn bosib iawn y gallai'r sefyllfa gyffredinol a nodwyd newid yn sylweddol yn y dyfodol agos.

O ganlyniad, rhaid trin llawer o'r canfyddiadau a'r argymhellion yn wyliadwrus, fel rhai sy'n adlewyrchu'r sefyllfa bresennol. Bydd y rhan fwyaf o gamau gweithredu a nodwyd yn cynnwys gofyniad i nodi addasrwydd yn ystod y flwyddyn sy'n dod.

Er gwaethaf hyn, mae'r gwaith ymchwil a dadansoddi a ffurfiwyd yn ystod yr asesiad yn darparu datganiad sefyllfa hollbwysig ar gyfer gofal plant ledled Abertawe, a fydd yn helpu i lywio cynllunio a pholisi.    

 

Canfyddiadau

Daeth y canfyddiadau mewn ffurf fesuradwy, h.y. 'oes yna ddigon o ddarpariaeth i ateb y galw?', ac ansoddol, h.y. a yw'n cyrraedd y safon ofynnol, oes modd cael mynediad iddi, a sut mae'r gweithlu'n teimlo?

Fe'u grwpiwyd ar sail y themâu a nodwyd yn yr Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant, megis cyflenwad, galw, rhwystrau i ofal plant, poblogaeth, etc. Argymhellir cyfeirio at yr Asesiad llawn i weld darlun cyffredinol o'r canfyddiadwy, ond dyma'r canfyddiadau mwyaf trawiadol:

At ei gilydd, ymddengys bod gofal plant digonol, ar sail presenoldeb, rhestrau aros, lleoedd gwag ac ymatebion ymgynghori. Fodd bynnag, mae pandemig Covid-19 wedi effeithio ar hyn, ac mae rhai rhwystrau'n parhau. Mae'r farn hon yn gyson ar draws ardaloedd a mathau o ofal plant.  

Rhoddwyd sylw i bob ardal yn Abertawe (ward) yn ôl y ddarpariaeth oedd ar gael ynddi, yn ogystal ag ystyried ardaloedd cymdogol lle teimlir ei bod yn rhesymol disgwyl i deuluoedd fedru teithio. Roedd diffyg canfyddedig mewn ardaloedd megis Gŵyr a Mawr, er bod hynny wedi cael ei ystyried yn flaenorol, ac nid adlewyrchir yr ychydig ddarpariaeth yn yr adborth gan deuluoedd sy'n byw yn yr ardaloedd hyn ei fod yn anodd cael gafael ar ofal plant. Bydd angen ystyried hyn ymhellach.   

Mae cost gofal plant yn rhwystr yn wir, dyma'r prif rwystr mynediad i deuluoedd, gan fod llawer yn teimlo nad yw'n opsiwn ymarferol. Nododd sawl ymateb fod costau cymharol yn erbyn incwm o gyflogaeth yn golygu na allen nhw barhau i weithio.

Mewn cymhariaeth, mae'r nifer sy'n manteisio ar ofal plant di-dreth yn isel, ac mae hynny'n gwneud y broblem yn waeth.

Mae Abertawe'n ardal lle ceir anghenion amrywiol - gyda gwahaniaeth amlwg rhwng y mwyaf a'r lleiaf cefnog, y rhai sydd â mynediad hwylus at ddarpariaeth a'r rhai mewn cymunedau gwledig sy'n gorfod teithio i gael gofal plant. Gall hyn olygu bod cynllunio ar gyfer gofal plant yn broblematig, yn ogystal ag effeithio ar gynaliadwyedd lleoliadau sy'n gweithredu mewn ardaloedd lle ceir angen.

Nid yw dymuniadau'r rhan fwyaf o deuluoedd cyn dechrau defnyddio gofal plant yn cael eu gwireddu - gan fod nifer llawer uwch yn bwriadu defnyddio gofal plant ffurfiol, yn aml yn ddwyieithog, nag sy'n manteisio ar hynny yn y diwedd. Mae'r data cymharol gan deuluoedd cyn bod angen gofal plant ar eu plentyn yn cyflwyno gwahaniaeth trawiadol. Mae angen ystyried hyn ymhellach.

Mae safon gofal plant ffurfiol yn uchel yn ôl y rhan fwyaf o'r rhai yr ymgynghorwyd â nhw. Roedd adborth rhieni/gofalwyr yn gyson eu bod yn fodlon ar y gwasanaeth roedden nhw'n ei dderbyn.

Mae cynaliadwyedd ariannol yn destun pryder i leoliadau, er gwaethaf cyllid ychwanegol sylweddol mewn ymateb i Covid. Nododd llawer o leoliadau eu bod yn ansicr a fydden nhw'n parhau i weithredu yn ystod yr 1 i 2 flynedd nesaf. Er bod trosiant darparwyr yn anochel, yn arbennig o ran gwarchodwyr plant, roedd y ffigur hwn yn drawiadol o uchel. Ar ben hynny, mae angen ystyried effaith y cyllid ychwanegol mewn ymateb i Covid, a beth fydd yr effaith pan ddaw hynny i ben.

Mae lleoliadau'n cael trafferth dod o hyd i staff, gyda llawer o swyddi'n aros yn wag am gryn amser, a'r sector yn teimlo nad yw'n cael ei werthfawrogi'n ddigonol, yn ogystal â chredu bod y proffesiwn yn haeddu cyflog uwch i gyfiawnhau'r lefel o gyfrifoldeb sydd dan sylw. Mae wedi bod yn gyfnod anodd i bawb, ond mae'r sector wedi cyflawni rôl allweddol trwy gefnogi plant, er mai cyflog cymharol isel a enillir yn gyfnewid am hynny.  

Bydd y bwriad i ehangu Dechrau'n Deg yn cael cryn effaith er bod yr union drefniadau heb eu cadarnhau ar hyn o bryd. Bydd angen i hyn fod yn ffocws penodol yn ystod y misoedd sy'n dod.

 

Argymhellion

Ceir cyfres gynhwysfawr o argymhellion a chamau gweithredu cysylltiedig yn yr adroddiad llawn, ond mae'r prif argymhellion yn cynnwys:

Cynyddu'r nifer sy'n manteisio ar ofal plant di-dreth, trwy ymgysylltiad, ymwybyddiaeth a chefnogaeth i leoliadau.

Cefnogi'r rhai sydd â'r angen mwyaf, megis y rhai ar incwm is, neu sydd â rhwystrau ar ffurf anghenion penodol sy'n eu hatal rhag cael mynediad i ofal plant, er enghraifft anghenion dysgu ychwanegol (gan nodi bod prosesau'n bodoli ar hyn o bryd i gynnig y gefnogaeth hon).

Gwneud gwaith ymchwil ychwanegol sy'n tyrchu'n ddyfnach i'r meysydd pryder canfyddedig, megis pam nad yw bwriadau o ran gofal plant bob amser yn cael eu gwireddu, neu ardaloedd lle gallai fod prinder gofal plant. Mae'r Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant wedi nodi llawer o fylchau posibl, ond byddwn yn gwybod i sicrwydd dim ond os edrychwn yn fanylach arnyn nhw.  

Cefnogi'r gweithlu gofal plant trwy fynediad i hyfforddiant, arweiniad a Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP). Mae'r sector gofal plant lleol yn cyflawni rôl hanfodol, ac mae angen iddo deimlo ei fod yn cael ei gefnogi i gynnal y rôl honno a'i datblygu.

Hyrwyddo gofal plant fel gyrfa, i sicrhau nad yw lleoliadau'n brin o staff, a bod gofal plant yn cael ei weld fel gyrfa safonol â chyflog cyfatebol. Mae lleoliadau'n cael trafferth recriwtio ac mae angen iddyn nhw deimlo bod ymgeiswyr o safon uchel ar gael.

Parhau i gefnogi cynaliadwyedd y sector, gan gynnwys arian grant a gwiriadau iechyd busnes a fydd yn caniatáu iddyn nhw a ninnau fesur i ba raddau maen nhw'n llwyddo ac a oes angen rhagor o gymorth.

Cynllunio ar gyfer datblygu'r Cynnig Dechrau'n Deg, trwy ystyried y goblygiadau tebygol, cynllunio gyda rhanddeiliaid allweddol a rhoi camau ar waith.

 

Sut cyflawnir hyn

Y ffordd orau o gyflawni'r argymhellion hyn fydd trwy sicrhau camau gweithredu clir, atebol, yn manylu ar gyfrifoldebau ac adnoddau. Mae angen perchnogi'r camau gweithredu hyn ac i bartneriaid mewnol ac allanol ymrwymo i weithio ar y cyd.

Ar ben hynny, dylai'r Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant a'i argymhellion roi arweiniad i'r holl gynllunio, polisi a chyllid fydd yn cefnogi ei weithrediad. Cyflawnir hynny trwy sicrhau bod camau gweithredu'r Asesiad yn adlewyrchu neu'n cael eu hadlewyrchu mewn cynlluniau eraill perthnasol, ac fel arall.

Mae'r Asesiad yn cynnwys cynllun gweithredu blynyddol sy'n manylu ar gynnydd tuag at gyflawni'r camau gweithredu a nodwyd. Yn achos pob cam gweithredu, pennir amserlen, gyda golwg ar gyflawni'r holl gamau gweithredu erbyn cyflwyno'r asesiad nesaf yn  2025.

Caiff y cynllun gweithredu hwn ei fonitro gan swyddogion penodol, y mae'n rhaid iddynt adrodd yn flynyddol i Lywodraeth Cymru ar y cynnydd a wnaed ac unrhyw ddiffygion o ran cyflawni gofal plant digonol.

Yn ei hanfod, mae'r Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant yn ddogfen sy'n esblygu, a bydd y broses asesu'n parhau yn ystod y pum mlynedd nesaf, gan gynnwys sicrhau yr ymgysylltir â phob rhanddeiliad, nid lleiaf rhieni/gofalwyr Abertawe, a'u bod yn parhau i gael cyfle i fwydo i mewn iddo.

Cynllun gweithredu

Mae'r cynllun gweithredu yn cyflwyno gofynion ar gyfer ymdrin â meysydd diffygiol a nodwyd yn yr asesiad.