Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Cael gwared ar eitemau eraill - arweiniad ailgylchu a gwastraff i fyfyrwyr

Gellir ailgylchu llawer o eitemau eraill mewn canolfannau ailgylchu yn Abertawe.

Mae hyn yn cynnwys dodrefn, nwyddau trydanol, nwyddau gwyn, dillad a mwy.

Canolfan Ailgylchu Clun, Heol Derwen Fawr, Sgeti yw'r lleoliad agosaf at gampysau'r brifysgol. 

Rhestr lawn o'r canolfannau ailgylchu a'r eitemau sy'n cael eu derbyn ym mhob un

Os nad ydych yn gallu cludo eitemau mawr i ganolfan ailgylchu, e.e. dodrefn neu nwyddau gwyn, gallwch drefnu am gasgliad gwastraff swmpus am ffi fach.

Peidiwch â rhoi eitemau mawr allan ar ymyl y ffordd i'w casglu gyda'ch sachau a'ch bagiau eraill a'ch biniau oni bai eich bod wedi trefnu casgliad neu byddwch yn derbyn Hysbysiad o Gosb Benodol.

Close Dewis iaith