AoS - Ysgol Calon Lân
Ar y dudalen hon
Roedd gan Abertawe ddwy ysgol arbennig (Ysgol Pen-y-Bryn ac Ysgol Crug Glas), a oedd yn darparu addysg i uchafswm o 250 o ddisgyblion rhwng 3 a 19 oed. Dros y blynyddoedd diwethaf roedd y galw cynyddol am leoedd mewn ysgolion arbennig yn Abertawe wedi arwain at gynnydd yn nifer y lleoedd cynlluniedig a oedd ar gael yn Ysgol Pen-y-Bryn yng ngwanwyn 2021. Fodd bynnag, mae lleoedd mewn ysgolion arbennig yn Abertawe yn parhau i fod yn llawn a rhagwelir y bydd cynnydd pellach yn y galw am leoedd yn y dyfodol. Mae bellach angen ateb tymor hir a chynaliadwy - fel arall, ni fydd gan yr awdurdod lleol unrhyw ddewis arall heblaw am roi disgyblion mewn ysgolion annibynnol a rhai y tu allan i'r sir.
Ym mis Tachwedd 2021, cymeradwyodd Llywodraeth Cymru'r cynigion buddsoddi cyfalaf a nodir yn yr Achos Busnes Amlinellol Strategol i ddatblygu'r cynnig i uno'r ddwy ysgol arbennig bresennol ac adeiladu ar safle newydd, gan gynyddu nifer y lleoedd cynlluniedig. Mae hyn yn amodol ar achos busnes pellach yn cael ei gyflwyno, yn ogystal â'r broses gynllunio arferol.
Cynhaliodd Cyngor Abertawe'r broses ymgynghori statudol ar gyfer y cynnig. Cytunwyd ar y cynnig a chyhoeddwyd yr hysbysiad terfynol ar 1 Mai 2024. Mae manylion llawn yr Hysbysiad Statudol, ynghyd â'r Adroddiad Ymgynghori a dogfennau cysylltiedig eraill, i'w cael drwy'r ddolen ganlynol: Cynlluniau'r dyfodol ar gyfer ysgolion arbennig yn Abertawe.
Nodau ac amcanion
Mae amcanion buddsoddi'r prosiect yn cynnwys y canlynol:
- Darparu digon o leoedd i ddisgyblion 3 i 19 oed y mae angen darpariaeth ysgol arbennig arnynt.
- Darparu amgylchedd dysgu'r 21ain ganrif sy'n addas at y diben ar gyfer disgyblion y mae angen darpariaeth ysgol arbennig arnynt, yn unol â Bwletin Adeiladu 104 (BA104).
- Gostwng nifer y lleoliadau addysg newydd y tu allan i'r sir ac annibynnol ar gyfer disgyblion y mae angen darpariaeth ysgol arbennig arnynt i sero, gan y bydd y rhain y cael eu darparu gan yr ysgol newydd.
- Gostwng nifer y disgyblion ADY y mae angen darpariaeth breswyl arnynt i sero, oni bai fod eu statws gwasanaethau cymdeithasol yn dweud bod angen y ddparpariaeth hon.
- Cefnogi'r cyngor i ddiwallu anghenion Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018.
- Lleihau'r ôl-groniad o waith cynnal a chadw ac atebolrwyddau cynnal a chadw eraill yn y dyfodol.
Canlyniadu allweddol y prosiect yw:
- Darparu darpariaeth ddigonol a phriodol sy'n gyson â BA104, ar gyfer disgyblion ag ADY y mae angen lleoliad mewn ysgol arbenigol arnynt.
- Darpariaeth sy'n gwbl hygyrch.
- Mannau ac amgylchedd mewnol ac allanol sy'n addas at y diben, gyda chyfarpar ac adnoddau sy'n defnyddio'r dechnoleg briodol.
- Cyfleuster sero net o ran carbon.
Prif egwyddorion y prosiect hwn yw:
- Bod disgyblion yn cael eu lleoli'n briodol, yn unol â'u hanghenion.
- Y gall disgyblion barhau i dderbyn addysg o fewn yr awdurdod.
- Y gall mwy o deuluoedd aros gyda'i gilydd gan y bydd disgyblion yn cael eu haddysgu'n lleol.
- Hyblygrwydd i addasu i anghenion newidiol a chynnydd yn y galw.
- Cydraddoldeb y ddarpariaeth.
- Caiff amrywiaeth o anghenion cymhleth eu rheoli'n effeithiol gyda'r ystod lawn o arbenigedd sydd ar gael.
- Bydd ysgolion yn gweithredu fel un, gan rannu arfer gorau ac ethos ysgol gyfan.
- Cyfleoedd cyfartal ar gyfer gweithio amlasiantaeth, darpariaeth iechyd ac anfon gweithwyr iechyd proffesiynol i ysgolion eraill a'u derbyn i'r ysgol arbennig.
- Osgoi staff iechyd a staff eraill rhag colli amser gwerthfawr yn teithio rhwng ysgolion.
- Gostyngiad yn nifer y lleoliadau y tu allan i'r sir ac annibynnol, gan leihau nifer y tribiwnlysoedd.
- Mae'n ategu'r strategaeth ADY ehangach i ddarparu darpariaeth statudol ddigonol a hygyrch, sydd ar gael i blant a phobl ifanc yn Abertawe.
- Arbedion maint a'r defnydd mwyaf effeithiol o adnoddau.
- Y gyllideb ysgolion yn cael ei defnyddio'n fwy priodol ac effeithiol ar gyfer disgyblion; sy'n golygu bod arian yn cael ei wario ar eitemau sy'n ymwneud ag addysg yn hytrach nag eitemau sy'n ymwneud â'r adeilad.
- Defnydd cymunedol o ardaloedd (mewnol ac allanol).
- Gostyngiad yn yr atebolrwyddau cyfalaf yn y dyfodol sy'n ymwneud â chynnal a chadw adeiladau aneffeithlon.
- Gostyngiad yn yr ôl-groniad gwaith cynnal a chadw.
- Gostyngiad mewn allyriadau carbon.
Llinell amser y prosiect
Carreg filltir | |
---|---|
Achos Busnes Amlinello Strategol - cymeradwyaeth LlC | Tachwedd 2021 |
Cyfnod ymgynghori statudol | 9 Hydref - 24 Tachwedd 2023 |
Cyhoeddi hysbysiad statudol | 2 Chwefror 2024 |
Diwedd y cyfnod ar gyfer gwrthwynebu | 5 Mawrth 2024 |
Cymeradwyaeth y Cabinet parthed ymgynghoriad statudol | 18 Ebrill 2024 |
Cyhoeddi'r penderfyniad yn ffurfiol | 1 Mai 2024 |
Ffurfio'r ysgol | Medi 2025 |
Cyfnod tendro ar gyfer contractwr cam 1 | Ionawr - Mawrth 2025 |
Adroddiad i'r Cabinet yn gofyn am gymeradwyaeth i neilltuo arian i ddyfarnu contract cam 1: Agenda'r Cabinet ddydd Iau 15 Mai 2025, 10.00am, Abertawe | Mai 2025 |
Dyluniad cam 1 RIBA gyda chontrractwr | Mehefin 2025 |
Cyflwyno Achos Busnes Amlinellol i Lywodraeth Cymru | Ionawr 2026 |
Cymeradwyo cam 2 RIBA (dylunio'r cysyniad) | Yn gynnar yn y flwyddyn 2026 |
Targed o dderbyn caniatâd cynllunio a chymeradwyo cynlluniau draenio cynaliadwy | Gwanwyn 2026 |
Cymeradwyo cam 3 RIBA (Cydlynu Gofodol) | Haf 2026 |
Cyflwyno'r Achos Busnes llawn | Gaeaf 2026 |
Cymeradwyo cam 4 RIBA (Dylunio Technegol) | Gwanwyn 2027 |
Targed o ddechrau ar y safle | Gwanwyn 2027 |
Targed o feddiannu'r safle | Gwanwyn 2029 |