AoS - Prosiect Cyflwr Ysgol Gyfun Tregŵyr
Ar y dudalen hon
Mae'r prosiect hwn yn rhan o Raglen Amlinello Strategol Abertawe ac mae'n brosiect blaenoriaeth ar gyfer y Rhaglen AoS. Bydd y prosiect yn ceisio mynd i'r afael â'r materion cyflwr ac addasrwydd ar y safle. Mae safleoedd ysgolion uwchradd cyfrwng Saesneg yn gyffredinol briodol, fodd bynnag, mae gan nifer o safleoedd anghenion cyflwr ac addasrwydd o hyd sydd y tu hwnt i gwmpas rhaglen cynnal a chadw flynyddol y cyngor.
Mae'r cynnig yn ceisio mynd i'r afael â materion cyflwr, addasrwydd a hygyrchedd yr adeiladau categori C a C-, sy'n rhan o safle presennol yr ysgol. Bydd y cynnig yn uwchraddio cyfleusterau'r ysgol ond ni fydd yn cynyddu nifer y lleoedd i ddisgyblion, a bydd hefyd yn golygu cael gwared ar yr adeiladau dros dro israddol presennol.
Mae'r prif nodau ac amcanion fel a ganlyn:
- Mynd i'r afael â chyflwr adeiladau categori C/C- fel blaenoriaeth.
- Gwella hygyrchedd ar y safle i wella mynediad i'r cwricwlwm cyfan.
- Darparu adeiladau carbon sero net cynaliadwy a fforddiadwy gyda phwyslais ar fioamrywiaeth a lles.
- Gwella addasrwydd adeilad heb gynyddu nifer y lleodd.
- Lleihau'r gwaith cynnal a chadw sydd wedi cronni.
Buddion i'r gymuned
Mae'r cyngor yn ymrwymedig i gefnogi cwmnïau lleol a chreu swyddi i bobl leol. Yn ystod y gwaith arfaethedig, bydd y prif gontractwr yn defnyddio cyflenwyr lleol, lle bo modd, ar gyfer y deunyddiau a'r cynnyrch. Caiff contractwyr eu hannog i gyflogi gweithwyr lleol a chynnig profiad gwaith i bobl ifanc ddi-waith.
Cynnydd y prosiect
Cafodd y cynigion buddsoddi a nodir yn yr Achos Amlinellol Strategol / Achos Busnes Amlinello eu cymeradwyo gan Lywodraeth Cymru ym mis Ionawr 2025. Mae hyn wedi galluogi'r prosiect i symud ymlaen i dendr i benodi contractwr cam cyntaf.
Amserlen arwyddiol* y prosiect
- Tendr cam cyntaf - Haf 2025.
- Cyfnod dylunio cyn-adeiladu - Hydref 2026 - Gwanwyn 2027.
- Cyflwyno'r Achos Busnes Llawn i Lywodraeth Cymru - Gwanwyn 2027.
- Bwriedir dechrau gwaith ar y safle yn yr Hydref 2027.
- Cwblhau'r prosiect - Haf 2030.
*Yn amodol ar adolygiad.