Toglo gwelededd dewislen symudol

Cynnig i uno ysgolion cynradd Blaen-y-maes a Phortmead - Adroddiad ymateb i'r ymgynghoriad

 

Ar y dudalen hon

Nid oes unrhyw benawdau ar y dudalen hon i lywio iddynt.

1. Cefndir

Yn ddiweddar, mae Cyngor Abertawe wedi ymgynghori ar gynnig i ddiddymu Ysgolion Cynradd Blaen-y-maes a Portmead o dan adran 43 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 ac i sefydlu ysgol gynradd newydd (ystod oedran 3-11) ar safleoedd presennol yr ysgolion gan ddefnyddio'r un adeiladau o dan adran 41 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013. 'Cyfuno' ysgolion yw hyn yn y bôn.

Mae cau'r ddwy ysgol yn gyfreithiol yn sicrhau bod yr ysgolion yn cael eu trin ar sail gyfartal.

Rhesymwaith dros newid

Mae'r cynnig hwn yn rhan o gynllun strategol ehangach ar gyfer ysgolion yn Abertawe yn gyffredinol ac ardal Penderi yn benodol.

Mae'r Cyngor wedi datblygu rhaglen eang o drefnu ysgolion a buddsoddiad ynddynt ysgolion, ar y cyd â Llywodraeth Cymru, o'r enw Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu. Nodau clir y rhaglen hon yw codi safonau cyflawniad a chyrhaeddiad i bob plentyn a pherson ifanc, gwella ansawdd yr amgylchedd dysgu a gwneud y defnydd gorau o adnoddau dynol, corfforol ac ariannol. Cafodd hyn gadarnhad a chymeradwyaeth mewn egwyddor gan Lywodraeth Cymru ym mis Awst 2024.

Bydd uno ysgolion cynradd Portmead a Blaen-y-maes ar safleoedd presennol yn galluogi datblygu ysgol newydd yn y dyfodol i ddarparu ar gyfer pob disgybl o'r cymunedau presennol ar un safle.

Y cynllun felly yw adeiladu ysgol newidd sbon ar gyfer yr ysgol gynradd gyfunol ar dir yn ardal Ysgol Gynradd bresennol Blaen-y-maes. Er nad yw'r adeilad ysgol newydd yn rhan o'r ymgynghoriad hwn, cyfuno'r ddwy ysgol yw'r cam cyntaf tuag at wireddu'r cynllun hwnnw.

Mae'r cynnig hwn yn elfen allweddol o adfywio'r ardal ac yn cyflwyno cyfle sylweddol nid yn unig i ddarparu cyfleusterau addysgol addas i'r diben yn yr ardal hon ond i wireddu manteision cymunedol ehangach a helpu i hwyluso'r gwaith o adfywio'r ardal hon trwy ddatblygu campws cymunedol. Nod y prosiect fydd parhau i adeiladu ar yr ymgysylltiad cymunedol sydd wedi digwydd yn yr ardal hon ac sydd eisoes wedi creu perthnasoedd cadarnhaol, gan weithio ar y cyd â Gwasanaethau Cymdeithasol, grwpiau cymunedol, Grŵp Pobl ac ysgolion a cholegau ledled Abertawe i hwyluso cyd-adeiladu'r prosiect a pherchnogaeth drwy ymgysylltu priodol a gweithredol.

2. Methodoleg

Cynhaliwyd yr ymgynghoriad â'r ymgyngoreion rhagnodedig yn y Cod Trefniadaeth Ysgolion https://www.gov.wales/school-organisation-code drwy lythyr / e-bost gyda dolen at y ddogfen ymgynghori ar wefan Cyngor Abertawe: Cynnig i gyfuno ysgolion cynradd Blaen-y-maes a Phortmead. Roedd y cyfnod ymgynghori rhwng 31 Mawrth a 15 Mai 2025.

 

Cynhaliwyd cyfarfodydd ymgynghori yn y drefn ganlynol:

Cyfarfod ar gyfer:

Lleoliad

Dyddiad

Amser

Presenoldeb

Cyngor Disgyblion Ysgol Gynradd Portmead

 

Ysgol Gynradd Portmead

 

02/04/25

1.30pm

10

Llywodraethwyr Ysgol Gynradd Portmead 

2.30pm

5

Staff Ysgol Gynradd Portmead

3.15pm

34

Rhieni Ysgol Gynradd Portmead

4.30pm

9 rhiant

2 lywodraethwr

4 aelod o staff

Llywodraethwyr Ysgolion Cynradd Blaen-y-maes 

 

Ysgol Gynradd Blaen-y-maes

 

10/04/25

12.00pm

4

Cyngor Disgyblion Ysgol Gynradd Blaen-y-maes

1.00pm

13

Rhieni Ysgol Gynradd Blaen-y-maes

2.00pm

6

Staff Ysgol Gynradd Blaen-y-maes

3.15pm

32 o aelodau staff

2 gynrychiolydd undeb

Cyfarfod i'r holl bartïon sydd â diddordeb

Microsoft  Teams

08/04/25

12.00pm

1

Mae cyhoeddi dogfen ymgynghori yn ganolog i broses ymgynghori ragnodedig Llywodraeth Cymru ar gyfer ad-drefnu ysgolion. Mae'r ddogfen ymgynghori yn amlinellu'r newidiadau dan ystyriaeth, y rhesymwaith dros y rhain, manylion y broses ymgynghori ac yn cynnwys ffurflen ymateb. Cynghorwyd ymgyngoreion ar argaeledd fersiwn ar-lein o'r ffurflen ymateb a chyfeiriadau cyswllt i anfon sylwadau trwy lythyr neu'r e-bost.

Mae'r holl ymatebion a dderbyniwyd wedi'u hystyried yn ofalus gan uwch swyddogion addysg, gan gynnwys y Pennaeth Gwasanaeth Cynllunio ac Adnoddau Addysg, y Pennaeth Gwasanaeth ar gyfer Gwasanaeth Cyflawniad a Phartneriaeth a'r Cyfarwyddwr Addysg.  Mae'r canlyniadau wedi'u cynnwys yn yr adroddiad hwn ac maent ar gael i Gabinet y Cyngor er mwyn iddynt allu gwneud penderfyniad gwybodus ynghylch a ddylid bwrw ymlaen. 

3. Ymgynghori â phlant a phobl ifanc

Roedd sicrhau y casglwyd ac yr ystyriwyd barn dysgwyr yn ofalus yn flaenoriaeth trwy gydol y broses ymgynghori. Lluniwyd 'papur ymgynghori disgyblion' pwrpasol, hawdd ei ddarllen, a threfnwyd bod arolwg ar-lein i ddisgyblion ar gael i ddysgwyr hefyd.

Cynhaliwyd cyfarfod â'r Cyngor disgyblion ym mhob ysgol.  Roedd dysgwyr wedi cael y cynnig wedi'i esbonio iddynt ac roeddent yn gallu holi cwestiynau. Cymerwyd nodiadau yn ystod y sesiynau hyn, a gellir dod o hyd i'r rhain yn Atodiad 3 (Word doc, 97 KB).

Adborth gan ddysgwyr yn Ysgol Gynradd Blaen-y-maes

Rhoddwyd cyfle i bob dosbarth ym Mlaen-y-maes drafod papur ymgynghori disgyblion ac adborth yn eu lleoliadau ystafell ddosbarth. Trefnwyd a hwyluswyd hyn gan staff yr ysgol, a throsglwyddwyd yr adborth yn ystod y cyfarfodydd ymgynghori i'w ystyried a'i gynnwys yn yr adroddiad ymateb i'r ymgynghoriad. Bu amrywiaeth o fformatau ar gyfer gwneud hyn, a rhai dosbarthiadau hefyd yn cynnal 'pleidlais.'  

Dyma grynodeb o'r adborth a ddaeth i law

Cefnogi'r Cynnig / Hapus

53

Yn Erbyn y Cynnig / Anhapus

53

Ddim yn gwybod

28

Adborth gan ddysgwyr yn Ysgol Gynradd Portmead

Llenwodd disgyblion o'r cyngor ysgol ffurflenni adborth ar ddiwedd y cyfarfod ymgynghori.

Dyma grynodeb o'r adborth a ddaeth i law

Cefnogi'r Cynnig / Hapus

1

Yn Erbyn y Cynnig / Anhapus

7

Ddim yn gwybod

2

Roedd y prif ymatebion cadarnhaol gan ddysgwyr a gafwyd trwy'r arolwg / pleidleisiau dosbarth ac of fewn y cyfarfodydd, yn fras, yn ymwneud â'r canlynol:

  • gwneud ffrindiau newydd;
  • cael ysgol, cyfleusterau ac offer newydd;
  • hapus i gael ysgol fwy o faint;
  • rhagor o athrawon; a
  • pethau newydd i'w dysgu.

Rhai o brif bryderon y disgyblion oedd:

  • bod yr ysgol yn rhy fawr;
  • nad yw'r ddwy gymuned ysgol wahanol yn dod ymlaen â'i gilydd;
  • byddai'n rhaid i ddisgyblion o Ysgol Gynradd Portmead deithio ymhellach;
  • colled bosibl i gymuned a hunaniaeth Portmead a Blaen-y-maes;
  • yn poeni am sut y gallai'r newid effeithio ar ddisgyblion y Cyfleuster Addysgu Arbenigol (STF);
  • pryderon y byddai ysgol fwy yn rhy brysur a swnllyd;
  • ni fyddai athrawon newydd yn adnabod y disgyblion;
  • cael pennaeth newydd a cholli staff;
  • Bwlio;
  • cynnydd mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol ar yr ystadau;
  • coli masgot Ysgol Gynradd Blaen-y-maes - Rhodri; a
  • chost yr ysgol newydd.

Nododd tua 20% o ddisgyblion hefyd eu bod yn ansicr.

Gellir dod o hyd i grynodeb manwl o holl ymatebion y dysgwyr, gan gynnwys y cwestiynau a godwyd ac ymatebion ALI yn Atodiad 1 (Word doc, 35 KB).

4. Ymgynghori â rhieni / gofalwyr, staff, a chyrff llywodraethu'r ysgolion

Yn ystod y cyfnod ymgynghori derbyniwyd 79 o ymatebion.

Rhoddir crynodeb o'r adborth yn y drefn ganlynol:

 

Nifer yr ymatebwyr

% o'r ymatebwyr

Cefnogi'r Cynnig / Hapus

12

15%

Yn Erbyn y Cynnig / Anhapus

67

85%

Ymatebion gan:

 

 

Disgybl

0

0%

Rhiant / Gofalwr

47

59%

Aelod o Staff

18

23%

Llywodraethwr

3

4%

Aelod o'r Gymuned

6

8%

Arall

5

6%

 Dyma'r prif sylwadau cadarnhaol a ddaeth i law:

  • cydnabyddiaeth bod y plant a'r gymuned yn haeddu ysgol newydd.
  • cydnabyddiaeth o gyflwr gwael / diffyg addasrwydd adeiladau presennol yr ysgol.
  • bydd ysgol newydd sydd â chyfleusterau cymunedol a diogelwch / teledu cylch cyfyng cysylltiedig yn amddiffyn rhag fandaliaeth.
  • bydd yn darparu'r potensial ar gyfer rhyngweithio cymunedol.

Y prif bryderon a godwyd oedd:

  • effaith cael un pennaeth yn goruchwylio dau safle a'r pryderon ymarferol sy'n gysylltiedig â hyn, yn ogystal â morâl a llesiant staff.
  • effaith negyddol ganfyddedig ar ddisgyblion.
  • y ffaith fod gan y ddwy ysgol eu heriau unigryw eu hunain - lefelau uchel o amddifadedd cymdeithasol a disgyblion sydd ag anghenion ychwanegol.
  • yr anawsterau ynghylch cyfuno / creu cwricwlwm newydd.
  • effaith bosibl ar ganlyniadau addysgol.
  • yr effaith ar lesiant ac ymddygiad disbylion.
  • colli'r rhieni a disgyblion presennol - y berthynas ag athrawon ac ymddiriedaeth.
  • effaith ar ddisgyblion STF.
  • colli'r amgylchedd meithringar a ddarperir yn yr ysgolion presennol.
  • yr effaith o ddod â dwy gymuned wahanol iawn at ei gilydd sydd â thensiynau hanesyddol.
  • colli hunaniaeth / cymuned i'r ddwy gymuned.
  • lleoliad yr adeilad newydd arfaethedig yn agos at Flaen-y-maes yn hytrach na mewn rhywle canolog.
  • yr ysgolion presennol yn cael eu gadael yn wag a'r ymddygiad gwrthgymdeithasol cysylltiedig a allai ddilyn.
  • cynnydd mewn nifer yr ymwelwyr / traffig o amgylch Blaen-y-maes.
  • parcio.
  • potensial ar gyfer cynnydd mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Mae crynodeb manwl o'r holl faterion a godwyd, ac ymateb yr awdurdod lleol wedi'i atodi yn Atodiad 2 (Word doc, 60 KB).

Mae copi llawn o gofnodion yr holl gyfarfodydd ymgynghori â disgyblion, rhieni / gofalwyr, staff a chyrff llywodraethu i'w weld yn Atodiad 4 (Word doc, 97 KB).

Yn rhan o'r broses ymgynghori, gofynnwyd i'r ymgyngoreion a oedd ganddynt unrhyw opsiynau amgen i'r cynnig, ac mae manylion y rhain yn Atodiad 4 (Word doc, 27 KB).

Darparwyd adborth gan Gadeirydd y Llywodraethwyr ar ran y Corff Llywodraethu yn Ysgol Gynradd Portmead drwy'r arolwg ar-lein. Cafwyd ymateb gan Gadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Gynradd Blaen-y-maes, ond roedd hyn mewn rhinwedd bersonol yn hytrach nag ar ran y corff llywodraethu llawn.  Mae'r pwyntiau allweddol a godwyd wedi'u crynhoi ac ymatebwyd iddynt yn y crynodeb adborth yn Atodiad 2 (Word doc, 60 KB), fodd bynnag, mae'r ymatebion manwl ac ystyriol wedi'u cynnwys yn llawn yn Atodiad 5 (Word doc, 31 KB) er cyflawnder.

Mae copi o'r holl ymatebion i'r ymgynghoriad a dderbyniwyd yn ystod yr ymgynghoriad ar gael yn llawn i holl Aelodau'r Cabinet.

5. Ymateb Estyn

Derbyniwyd ymateb gan Estyn (arolygiaeth addysg a gyfforddiant Cymru) ac fe'i rhoddir yn llawn yn Atodiad 6 (Word doc, 30 KB). I grynhoi, maent wedi dod i'r casgliad bod yn cynnig yn debygol o 'gynnal safon y ddarpariaeth addysg yn yr ardal.'

Ymateb Awdurdodau Lleol i Estyn

Mae'r Awdurdod Lleol yn cydnabod bod Estyn wedi dod i'r casgliad y bydd y cynnig yn debygol o 'gynnal safon addysg yn yr ardal' wrth nodi barn yr Awdurdod Lleol y bydd y cynnig yn gwella safon addysg. Mae'r Awdurdod Lleol yn falch bod Estyn wedi cydnabod bod gan y cynnig resymwaith addas, ei fod yn adlewyrchu dealltwriaeth o anghenion y gymuned a'r heriau ysgol cyfredol. Mae'n nodi bod yr Awdurdod Lleol wedi sefydlu trefniadau interim addas ar gyfer llywodraethu ac wedi ystyried opsiynau amgen yn ofalus. Mae wedi rhoi ystyriaeth briodol i agweddau megis safonau, llesiant, agweddau at ddysgu, ansawdd addysgu, cymorth gofal ac arweiniad a rhai agweddau ar arweinyddiaeth a rheolaeth.

Mewn ymateb i'r meysydd y nododd Estyn fod angen eglurhad ychwanegol arnynt, hoffem ddarparu'r ymateb/eglurhad canlynol:

Pwynt a godwyd gan Estyn

Ymateb yr ALl

Mae'r cynigydd yn nodi ychydig o risgiau mewn perthynas â'r cynnig hwn. Mae'r risgiau hyn yn gysylltiedig ag aflonyddwch, goblygiadau staffio, a dibyniaeth ar ganiatâd adeiladu ysgol newydd. Fodd bynnag, nid yw'r cynnig yn nodi goblygiadau yn ddigon clir i staff, ac eithrio i'r pennaeth a'r dirprwy bennaeth.

Nodwyd.  Mae hon yn effaith anodd i'w nodi yn y ddogfen oherwydd y byddai'r strwythur staff ehangach yn cael ei bennu gan y pennaeth a'r corff llywodraethu dros dro sydd newydd ei benodi.

Yn bennaf, ymddengys fod effaith y cynnig ar drefniadau teithio disgyblion wedi cael sylw priodol. Fodd bynnag, nid yw'r cynnig yn nodi a fydd disgyblion yn parhau i gael eu haddysgu ar yr un safle ag y maent ar hyn o bryd. Mae'r asesiad effaith gymunedol yn nodi mai mater i'r pennaeth a'r corff llywodraethu newydd fyddai'r penderfyniad terfynol ar gyfer hyn. Mae gan hyn y potensial i effeithio ar drefniadau teithio oherwydd gallai rhai disgyblion deithio yn bellach i'r ysgol. Hefyd, efallai y bydd yn rhaid i rai rhieni fynd â phlant i ddau safle gwahanol. Nid yw'r cynnig yn mynd i'r afael â'r materion posibl hyn.

 

Er eglurhad, er y byddai'r ysgolion yn cael eu cyfuno ar safleoedd ar wahân, byddai disgyblion yn parhau i fynychu eu safleoedd ysgol presennol a byddai derbyniadau yn parhau yn unol â dwy ffin y dalgylchoedd presennol.  Efallai y bydd yr ysgol yn dymuno cynnal gweithgareddau gwaith ar y cyd i ddisgyblion, ar y safle arall, ond y staff fyddai'n trefnu ac yn cyflawni'r teithio yn ôl ac ymlaen yn ystod y diwrnod ysgol. Ni fyddai'n rhaid i rieni deithio i safle ysgol wahanol ar gyfer gollwng/ casglu.

Mae'r awdurdod lleol yn ystyried effaith y cynnig ar grwpiau agored i niwed yn briodol. Bydd y cyfleuster addysgu arbenigol yn parhau'n weithredol, a bydd darpariaeth ADY bresennol yn cael ei chynnal. Fodd bynnag, nid yw'r cynnig yn glir a fydd staffio yn aros yr un fath yn yr uned arbenigol.

Nid yw'r cynnig hwn yn dymuno gwneud unrhyw newidiadau i staffio yn yr STF yn Ysgol Gynradd Portmead ond mae'n cydnabod mai mater i'r pennaeth newydd a'r corff llywodraethu dros dro ei ystyried yn rhan o'r strwythur staff cyffredinol fydd hyn.

Er nad yw'n rhan ffurfiol o'r ymgynghoriad hwn, mae'r cynnig yn cydnabod y bydd symud disgyblion i safle newydd, yn anorfod, yn creu rhywfaint o aflonyddwch ac ansicrwydd. Nid yw'r aflonyddwch nac unrhyw liniaru wedi eu harchwilio'n fanwl yn y cynnig hwn. Fodd bynnag, bydd angen i'r awdurdod lleol ystyried yn ofalus yr aflonyddwch ar ddisgyblion, gan gynnwys y rhai yn yr STF, a fydd yn cael ei achosi gan waith adeiladu sylweddol, a'r symud i adeilad newydd

Cytunwyd.  Mae hyn yn rhywbeth a gaiff ei ystyried a'i gynllunio'n ofalus pe bai'r cynnig yn mynd yn ei flaen.

6. Adborth mewn perthynas â'r effaith ar y Gymraeg

Cyn yr ymgynghoriad, cynhaliodd yr awdurdod lleol Asesiad o'r Effaith ar y Gymraeg.  Yn ogystal â hyn, yn rhan o'r ymgynghoriad, gofynnwyd y cwestiynau canlynol i ymatebwyr:

  • Oes gennych chi unrhyw bryderon neu dystiolaeth i awgrymu bod y Cyngor yn trin/defnyddio'r Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg mewn perthynas â'r cynnig a restrir yn yr arolwg hwn? (Oes/Nac oes)
  • Os 'Oes' oedd eich ateb i'r cwestiwn blaenorol, rhowch fanylion a nodwch sut y bydd y cynnig a awgrymwyd yn yr arolwg hwn yn effeithio ar gyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg yn eich barn chi?

Ymatebodd tri pherson 'Oes' i'r cwestiwn hwn a rhoddir y manylion, gan gynnwys ymateb yr awdurdod lleol isod:

Pryderon a godwyd ynglŷn â'r Gymraeg.  Pa newidiadau (os o gwbl) ydych chi'n meddwl y gellid eu gwneud er mwyn cael mwy o effaith gadarnhaol ar y Gymraeg?

Ymateb yr Awdurdod Lleol

Yn fy amser i, cawsom ein dysgu trwy gyfrwng y Saesneg yn unig, roedd gwersi Cymraeg, ond doedden nhw ddim yn orfodol. Rwy'n flin iawn am hynny a hoffwn i weld adfywiad yn y Gymraeg ar y cwricwlwm.

Mae Cwricwlwm Cymru yn gosod y Gymraeg wrth wraidd dysgu, ac mae'n ofynnol i bob ysgol ddatblygu sgiliau Cymraeg dysgwyr ar draws y cwricwlwm. Mae hyn yn sicrhau bod pob disgybl, ni waeth beth fo'u cefndir, yn cael cyfleoedd ystyrlon i ddysgu a defnyddio'r Gymraeg bob dydd

Rhagor o staff sy'n siarad Cymraeg.

Mae Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg 2022-2032 yr awdurdod lleol yn cynnwys camau gweithredu i gynyddu nifer y staff sy'n siarad Cymraeg drwy recriwtio, hyfforddiant a chymorth ymdrochol wedi'i dargedu. Mae hyn yn sicrhau bod dysgwyr yn cael eu cefnogi gan siaradwyr Cymraeg hyderus ar bob cam o'u haddysg.

Diwrnod neu ddau o Gymraeg a dysgu hwyl yr wythnos.

Drwy fframwaith yr Siarter Iaith, mae ysgolion yn cael eu hannog i greu cyfleoedd hwyliog, diddorol i ddefnyddio'r Gymraeg y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth. Mae llawer o ysgolion eisoes yn cynnal diwrnodau a chlybiau Cymraeg ar thema, a chaiff yr ysgol gyfunol gefnogaeth i ymgorffori'r arferion hyn yn rhan o'i strategaeth hyrwyddo iaith

Mae copi o'r Asesiad Effaith Cyfrwng Cymraeg ar gael yn Atodiad 8 (Word doc, 323 KB).

7. Ymatebion a ddaeth i law ynghylch a fyddai unrhyw un o'r cynigion yn effeithio'n negyddol ar blant ar said oedran, anabledd, rhyw, hunaniaeth rhywedd, hil, crefydd / cred neu gyfeiriadedd rhywiol

Atebodd cyfanswm o 19 o ymgyngoreion 'Ydw' i'r cwestiwn 'Ydych chi'n meddwl y byddai unrhyw un o'r cynigion yn effeithio'n negyddol arnoch chi/eich plentyn ar sail oedran, anabledd, rhyw, hunaniaeth rhywedd, hil, crefydd/cred neu gyfeiriadedd rhywiol?'

Roedd yr adborth o'r ymatebion hyn yn ymwneud i raddau helaeth â'r effaith ganfyddedig ar anabledd oherwydd bod yr ysgol newydd arfaethedig ymhellach i ffwrdd o safle presennol Portmead, yr effaith ar iechyd emosiynol a lles disgyblion a theuluoedd oherwydd newid o'r nail ysgol i'r llall, yn enwedig mewn perthynas ag effaith ar ddisbylion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r effaith ar y gymuned.

Mae'r adborth hwn wedi'i ystyried yn ofalus ac mae ymateb ALI i'r pwyntiau a godwyd isod:

Ydych chi'n meddwl y byddai unrhyw un o'r cynigion yn effeithio'n negyddol arnoch chi/eich plentyn ar sail oedran, anabledd, rhyw, hunaniaeth rhywedd, hil, crefydd/cred neu gyfeiriadedd rhywiol?

Ymateb yr Awdurdod Lleol

Amser teithio pellach a'i effaith ar bobl ag anableddau.

Mae'r ALl yn cydnabod y bydd y ffaith fod yr ysgol newydd wedi ei lleoli yn agos at safle presennol ysgol Blaen-y-maes yn golygu amser hwy i gyrraedd yr ysgol.  Fodd bynnag, byddai'r holl ddysgwyr sy'n byw o fewn dalgylchoedd yr ysgolion presennol yn byw o fewn 2 filltir i'r ysgol newydd.  Mae hyn yn unol â'n polisi trafnidiaeth presennol o'r cartref i'r ysgol.

Effaith ar iechyd emosiynol a llesiant disgyblion a theuluoedd oherwydd  newid o'r naill ysgol i'r llall, yn enwedig mewn perthynas ag effaith ar ddisgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol

Mae gan yr ALl ddigon o brofiad o gefnogi disgyblion ag ADY trwy newid, er enghraifft, mae ein hysgolion arbennig ar hyn o bryd yn paratoi ar gyfer uno o Fedi 25 ymlaen.  Bydd y profiad diweddar a pharhaus yn ystod y broses hon yn helpu i lywio ein dull a'n cefnogaeth i ddysgwyr ag ADY trwy gydol y broses hon pe bai'r cynnig yn mynd rhagddo.

Os bydd y cynnig yn mynd yn ei flaen, bydd dyluniad yr STF yn cael ei ystyried yn ofalus gyda mewnbwn gan staff, dysgwyr a chymuned ehangach yr ysgol.  Bydd y dyluniad yn ystyried y wybodaeth a'r ymchwil ddiweddaraf ynghylch sut i greu mannau i ddisgyblion ag Awtistiaeth a chyflyrau niwroamrywiol eraill, gan gynnwys mannau addysgu, ystafelloedd ymneilltuo/synhwyraidd ac ystyriaethau acwstig. 

Bydd anghenion y disgyblion hyn hefyd yn cael eu hystyried ar gyfer yr adeilad yn ei gyfanrwydd er mwyn sicrhau bod disgyblion yn cael y profiad gorau ar yr  adegau y byddant yn integreiddio â disgyblion prif ffrwd. 

Effaith ar ddisgyblion a theuluoedd sy'n uniaethu â chymuned ar hyn o bryd, ond y gall eu plant uniaethu â chymuned wahanol oherwydd eu bod yn mynychu ysgol wahanol.

Barn yr ALl yw y byddai'r ysgol gyfunol yn cefnogi rhyngweithio cymunedol ac yn y pen draw yn gwella cydlyniant cymunedol. Mae'r nod tymor hwy yn cynnwys gwella cyfleusterau yn yr ardal a fydd o fudd i'r gymuned ehangach ac yn ategu Strategaeth Adfywio Penderi. 

8. Effaith ar y Gymuned

Mae Asesiad o'r Effaith ar y Gymuned wedi'i ddiweddaru, wedi'i gynnal i adlewyrchu'r sylwadau a godwyd ynglŷn â'r effaith ar y gymuned a gelllir ei weld yn Atodiad 7 (Word doc, 88 KB).

9. Argymhellion yn dilyn y cyfnod ymgynghori

Ar ôl ystyried yn ofalus yr adborth a ddaeth i law yn ystod y cyfnod ymgynghori, mae'r Awdurdod Lleol yn dymuno bwrw ymlaen â'r cynnig, gyda dyddiad uno diwygiedig o 2030 ymlaen. Gan fod y ddwy ysgol wedi dangos parodrwydd i weithio ar y cyd, byddai hyn yn caniatáu i'r ysgolion weithio ar y cyd i baratoi ar gyfer uno ffurfiol, wrth gadw eu pennaeth a'u corff llywodraethu eu hunain yn y cyfamser.

Awgrymwyd y newid hwn am y rhesymau allweddol canlynol:

  • I ganiatáu i bob ysgol gael ei phennaeth neilltuol ei hun tan 2030, gan leihau'r pwysau ar un pennaeth sy'n gweithredu ysgol ar draws dau safle. Hwn yw un o'r prif bryderon a godwyd yn ystod yr ymgynghoriad, adborth a chyfarfodydd, yn enwedig gan staff, gan gydnabod bod gan y ddwy ysgol heriau unigryw y gallai cyfnod hir o weithredu ar safle rhanedig eu gwneud yn waeth.
  • Caniatáu amser i staff a chyrff llywodraethu ysgolion weithio ar y cyd i baratoi ar gyfer uno ffurfiol, yn nes at yr amser y bwriadwyd meddiannu'r adeilad newydd. Byddai hyn yn caniatáu rhagor o amser i ystyried aliniad a dyluniad y cwricwlwm, yn ogystal ag alinio diwrnodau INSET, hyfforddiant staff a rhannu arfer da/polisïau. Bydd y dull hwn yn caniatáu pontio mwy naturiol rhwng yr ysgolion presennol a chwricwlwm a pholisïau'r ysgol sydd newydd gyfuno. 
  • ·        Bydd yn caniatáu i ragor o waith gael ei wneud o fewn y cymunedau priodol i wella cysylltiadau cymunedol, meithrin mwy o ddealltwriaeth a chydlyniant cyn yr uno ffurfiol.  Roedd llawer o ymgyngoreion yn pryderu am y gwahaniaethau a'r tensiwn posibl rhwng cymunedau Blaen-y-maes a Portmead, a gobeithio y bydd yn galluogi'r ALl i barhau i weithio gyda Pobl a phartneriaid eraill mewn perthynas â hyn. 

Atodiaddau

Atodiad 1 – Crynodeb o'r Ymatebion i Ymgynghoriad Disgyblion (Word)

Atodiad 1 – Crynodeb o'r Ymatebion i Ymgynghoriad Disgyblion.

Atodiad 2 – Crynodeb o'r Ymatebion i'r Ymgynghoriad (Word)

Atodiad 2 – Crynodeb o'r Ymatebion i'r Ymgynghoriad.

Atodiad 3 – Cofnodion Cyfarfodydd Ymgynghori (Word)

Atodiad 3 – Cofnodion Cyfarfodydd Ymgynghori.

Atodiad 4 – Opsiynau Eraill a Awgrymwyd gan Ymgyngoreion (Word)

Atodiad 4 – Opsiynau Eraill a Awgrymwyd gan Ymgyngoreion.

Atodiad 5 – Ymatebion a ddaeth i law gan Gadeirydd y Llywodraethw (Word)

Atodiad 5 – Ymatebion a ddaeth i law gan Gadeirydd y Llywodraethw.

Atodiad 6 – Ymateb Estyn (Word)

Atodiad 6 – Ymateb Estyn.

Atodiad 7 - Asesiad o'r Effaith ar y Gymuned wedi'i ddiweddaru (Word)

Atodiad 7 - Asesiad o'r Effaith ar y Gymuned wedi'i ddiweddaru.

Atodiad 8 - Asesiad o'r Effaith ar y Gymuned wedi'i ddiweddaru (Word)

Atodiad 8 - Asesiad o'r Effaith ar y Gymuned wedi'i ddiweddaru.

Adroddiad Asesiad Effaith Integredig (IIA) diweddarwyd yn dilyn y cyfnod ymgynghori (Word)

Adroddiad Asesiad Effaith Integredig (IIA) diweddarwyd yn dilyn y cyfnod ymgynghori.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 09 Medi 2025