Toglo gwelededd dewislen symudol

CSGA - Gweledigaeth deng mlynedd Medi 2022 - Awst 2032

Gwneir y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg hwn o dan Adran 84 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 ac mae'r cynnwys yn cydymffurfio â Rheoliadau Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (Cymru) 2019. Rydym wedi rhoi sylw dyledus i'r canllawiau statudol a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru wrth osod ein targedau.

Ein gweledigaeth deng mlynedd ar gyfer cynyddu a gwella cynllunio'r ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg yn ein hardal

Y flwyddyn 2050: Mae'r iaith Gymraeg yn ffynnu, mae nifer y siaradwyr wedi cynyddu i filiwn a chaiff ei defnyddio ym mhob agwedd ar fywyd. Ymhlith y rheini nad ydynt yn ei siarad mae yna ewyllys da tuag ati ac ymdeimlad o berchnogaeth ohoni. Mae yna werthfawrogiad hefyd o'i chyfraniad i ddiwylliant, cymdeithas ac economi Cymru ... Ein gweledigaeth ym mhob rhan o'r wlad yw creu amodau ffafriol sy'n cefnogi'r broses o gaffael yr iaith a'r arfer o ddefnyddio sgiliau Cymraeg. Rydym am weld cynnydd yn yr arfer o drosglwyddo'r iaith o fewn y teulu, yr arfer o gyflwyno'r Gymraeg yn gynnar i bob plentyn, system addysg sy'n rhoi sgiliau Cymraeg i bawb ...

Cymraeg 2050 - Miliwn o siaradwyr (Llywodraeth Cymru, 2017)

 

Ers troad y ganrif mae Abertawe wedi gweld cynnydd amlwg yn nifer y disgyblion sy'n cyrchu addysg cyfrwng Cymraeg. Cefnogwyd y cynnydd hwn yn y galw drwy agor tair ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg arall ac un ysgol gyfun cyfrwng Cymraeg arall. Yn ogystal, mae Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru wedi cefnogi'r Cyngor i wneud buddsoddiad enfawr ar draws stoc ysgolion cyfrwng Cymraeg.

Yn 2022 byddwn yn gweld mwy o leoedd cyfrwng Cymraeg yn cael eu creu gydag agoriad yr adeiladau a'r cyfleusterau newydd a gwell ar gyfer YGG Tan-y-lan ac YGG Tirdeunaw. Dilynir hyn gan ofod ystafell ddosbarth ychwanegol yn YGG Bryn y Môr ac YGG Y Login Fach. I ategu'r ddarpariaeth hon rydym hefyd yn darparu darpariaeth wedi'i chyfoethogi yn ein hysgolion cyfun cyfrwng Cymraeg, Ysgol Gyfun Gŵyr ac Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe sy'n cynnwys gwella'r amgylcheddau dysgu yn fewnol ac yn allanol. Mae hyn yn darparu sylfaen gadarn ar gyfer ein taith tuag at 2050.

Gyda chreu'r lleoedd ychwanegol hyn, ein nod yw gweithio gyda'n holl bartneriaid i hyrwyddo buddion dwyieithrwydd i sicrhau y gall pob rhiant a theulu wneud penderfyniad hyddysg cyn gynted â phosibl ym mywyd eu plentyn. Rydym hefyd yn cydnabod ei bod yn anoddach mewn rhai rhannau o'r ddinas a'r sir i gael mynediad at ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg o oedran ifanc. Byddwn yn ceisio cynyddu cyfleoedd i gael mynediad at ddarpariaeth Blynyddoedd Cynnar fel bod gan fwy o rieni ddewis gwirioneddol wrth ddewis addysg sydd orau ganddyn nhw i'w plant. Wrth i'r lleoedd ychwanegol yn ein stoc ysgolion cyfredol gael eu llenwi byddwn yn adolygu lle mae angen lleoedd pellach yn Abertawe i wireddu hyd eithaf targed Abertawe. Bydd hyn yn cynnwys nodi meysydd lle mae addysg cyfrwng Cymraeg yn llai hygyrch.

Mae datblygu ac ehangu addysg cyfrwng Cymraeg yn parhau i fod yn weledigaeth inni ac rydym yn cydnabod pwysigrwydd creu cyfleoedd i holl ddisgyblion Abertawe ddod yn ddwyieithog/amlieithog fel eu bod yn dod allan o'n system addysg, yn falch o'u hunaniaeth ac yn hyderus i ddefnyddio'r holl ieithoedd y maent wedi'u caffael.

Wrth i Abertawe ddatblygu ei Strategaeth Hybu'r Gymraeg nesaf 2022-2027 byddwn yn gweithio ar draws y Cyngor a thu hwnt i sicrhau bod y CSCA yn cael ei gefnogi a'i gryfhau gan benderfyniadau a chyfleoedd trwy gydol oes y Strategaeth.

Wrth hyrwyddo dwyieithrwydd, rydym yn rhoi cyfle i'n holl blant ffynnu yn yr iaith o'u dewis, cynyddu eu cyfleoedd bywyd a thrwy ddysgu mwy nag un iaith, hwyluso dysgu ieithoedd eraill.

Er mwyn gwireddu ein gweledigaeth, mae'n hanfodol ein bod hefyd yn cydnabod pwysigrwydd defnyddio'r Gymraeg y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth. Byddwn, trwy Strategaeth Iaith Gymraeg y Cyngor a thrwy weithio gyda'n holl bartneriaid yn parhau i wneud y mwyaf o gyfleoedd i holl ddysgwyr Abertawe ddefnyddio'r Gymraeg ym mhob agwedd ar fywyd bob dydd.

Gan ystyried hyn i gyd, mae ein gweledigaeth ar gyfer y deng mlynedd nesaf fel a ganlyn:

  1. Rhoi cyfle cyfartal i bob dysgwr ddysgu Cymraeg a siarad yr iaith yn hyderus a hyrwyddo buddion dwyieithrwydd.
  2. Cynyddu canran y disgyblion sy'n dewis addysg cyfrwng Cymraeg ac i sicrhau ei fod ar gael ac yn hygyrch i bob dysgwr, o fewn pellter teithio rhesymol i'w cartrefi. Cynyddu canran y disgyblion sy'n dewis addysg cyfrwng Cymraeg, i rhwng 23% a 27% o ddisgyblion Blwyddyn 1 erbyn diwedd y Cynllun, a chymhwyso egwyddorion y cymdogaethau 15 munud i sicrhau fod gan bob dysgwr fynediad i addysg cyfrwng Cymraeg o fewn pellter rhesymol o'u cartrefi.
  3. Bydd dysgwyr sydd wedi mynychu lleoliad cyfrwng Cymraeg yn y cyfnod cynradd yn cael eu hannog a i barhau â hyn wrth drosglwyddo i gyfnodau allweddol dilynol yn y cyfnod uwchradd a disgwylir iddyn nhw wneud hynny.
  4. Sicrhau twf sylweddol mewn addysg cyfrwng Cymraeg, cynyddu nifer y bobl o bob oed sy'n dod yn rhugl yn y Gymraeg, Saesneg ac ieithoedd eraill ac sy'n gallu defnyddio eu hieithoedd yn hyderus gyda'u teuluoedd, ffrindiau, cymdogion ac yn y gweithle.
  5. Rhoi cyfle ieithyddol cyfartal i ddysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY).
  6. Rhoi cyfle ieithyddol cyfartal i ddysgwyr sydd â'r Gymraeg neu'r Saesneg fel ieithoedd ychwanegol.
  7. Dyheu, trwy'r cynllun hwn, bod Abertawe'n cyfrannu'n sylweddol at y nod cenedlaethol o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Mae'r ddogfen hon yn ei hanfod yn nodi cynllun strategol a fydd yn cael ei ategu gan gynlluniau gweithredu priodol i droi'r weledigaeth yn realiti. Mae angen i'r cynllun strategol a'r cynlluniau gweithredu cysylltiedig fod yn ddogfennau 'byw' a fydd yn cael eu hadolygu fel y bo'n briodol trwy gydol y blynyddoedd i ddod. Yn ôl eu natur, dim ond ar ôl cwblhau a chymeradwyo'r cynllun strategol hwn yn ffurfiol y gellir datblygu'r cynlluniau gweithredu yn llawn.

 

CSGA - Targed deng mlynedd CSGA - Targed deng mlynedd

Close Dewis iaith