Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg
Cymeradwywyd Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg (y Cynllun) Cyngor Abertawe gan gyfarfod o Gabinet y cyngor ar 20 Ionawr 2022 ac mae ar hyn o bryd gyda Gweinidog y Gymraeg ac Addysg ar gyfer cymeradwyaeth ffurfiol.
Mae'r Cynllun yn cynnwys ein cynigion ar sut y byddwn yn cyflwani ein swyddogaethau addysg i wella cynllunio darpariaeth addysg drwy gyfrwng y Gymraeg, gwella safonau addysg cyfrwng Cymraeg ac addysgu'r Gymraeg, ein targedau ar gyfer gwella cynllunio'r ddapariaeth addysg cyfrwng Cymraeg ac ar gyfer gwella safonau'r addysg honno ac addysgu'r Gymraeg.