Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Cynllun Bathodynnau Glas

Mae Cynllun y Bathodyn Glas yn darparu amrywiaeth cenedlaethol o gonsesiynau parcio ar gyfer y rhai sydd â nam sylweddol ar y golwg neu nam corfforol parhaol er mwyn eu helpu i deithio'n annibynnol.

Gall deiliaid bathodyn deithio naill ai fel gyrrwr neu deithiwr, a chaniateir iddynt barcio'n agos i'w cyrchfan. Llywodraeth Cymru sy'n pennu'r rheolau ar gyfer rhoi bathodynnau.

Oes gennych hawl i dderbyn Bathodyn Glas?

Canfod a ydych yn gymwys i dderbyn Bathodyn Glas.

Gwneud cais am Fathodyn Glas neu ei adnewyddu

Mae'n rhaid gwneud cais am Fathodynnau Glas a'u hadnewyddu trwy'r system ar-lein ar y wefan gov.uk.

Defnyddio'ch Bathodyn Glas

Pan fyddwch yn derbyn eich Bathodyn Glas byddwch hefyd yn derbyn copi o'r llyfryn 'Y Cynllun Bathodyn Glas: Hawliau a Chyfrifoldebau yng Nghymru'.

Bathodynnau Glas sydd ar goll, wedi'u dwyn, wedi'u difrodi neu wedi colli eu lliw

Os bydd eich Bathodyn Glas yn mynd ar goll, yn cael ei ddwyn, yn colli lliw neu'n cael ei difrodi, bydd angen i chi gysylltu â ni i gael bathodyn newydd.

Twyll neu Gamddefnyddio Bathodyn Glas

Os ydych yn amau bod bathodyn glas yn cael ei gamddefnyddio, gallwch roi gwybod i ni.

Bathodynnau Glas ar gyfer sefydliadau

Os yw'r sefydliad yn defnyddio cerbyd i gludo pobl anabl a fyddai fel arfer yn derbyn bathodyn eu hunain, mae'n bosib y gallant hawlio Bathodyn Glas ar gyfer y sefydliad.
Close Dewis iaith