Toglo gwelededd dewislen symudol

Cynnig i gyfuno ysgolion cynradd Blaenymaes a Portmead - Cwestiynau Cyffredin wedi'u Diweddaru

 

Ar y dudalen hon

Nid oes unrhyw benawdau ar y dudalen hon i lywio iddynt.

Pam mae'r cynnig hwn yn cael ei wneud?

Mae'r cynnig hwn yn rhan o gynllun strategol ehangach ar gyfer ysgolion yn Abertawe yn gyffredinol ac ardal Penderi yn benodol.

Bydd cyfuno Ysgol Gynradd Blaenymaes ac Ysgol Gynradd Portmead ar y safleoedd presennol yn galluogi datblygu ysgol newydd yn y dyfodol i gynnwys yr holl ddisgyblion o'r cymunedau presennol ar un safle.

Y cynllun felly yw adeiladu ysgol newydd sbon o'r radd flaenaf ar gyfer yr ysgol gynradd wedi'i chyfuno ar dir yn ardal bresennol Ysgol Gynradd Blaenymaes. Er nad yw'r adeilad ysgol newydd yn rhan o'r cynnig hwn, cyfuno'r ddwy ysgol yw'r cam cyntaf tuag at wireddu'r cynllun hwnnw.

Pryd bydd hyn yn digwydd?

Yn dilyn yr ymgynghoriad, rydym bellach yn cynnig cyfuno'r ddwy ysgol ym mis Medi 2030 ar safleoedd presennol. Y cynllun tymor hwy yw agor yr adeilad newydd yn 2031.

A fydd Ysgol Gynradd Blaenymaes ac Yschol Gynradd Portmead yn parhau i fod ar agor nes bod yr ysgol newydd yn cael ei hadeiladu?

Bydd y ddwy ysgol ar agor o hyd ac yn gweithredu i raddau helaeth fel y maent ar hyn o bryd, gan wasanaethu eu cymunedau. Ychydig iawn o newid y bydd i'r rhieni a'r disgyblion. Bydd disgyblion yn parhau i gael eu haddysgu ar safleoedd eu hysgolion presennol tan 2031. Fodd bynnag, os cytunir ar y cynnig, bydd y ddwy ysgol yn dod yn un ysgol yn ffurfiol, gydag un corff llywodraethu ac un pennaeth yn gweithredu ar draws y ddau safle o fis Medi 2030.

Ble bydd y safle arfaethedig newydd?

Yn ystod yr ymgynghoriad, nodwyd bod lleoliad arfaethedig yr adeilad ysgol newydd yn rhywbeth yr hoffai'r gymuned gael eglurhad arno. Er bod yr ymgynghoriad hwn yn ymwneud yn bennaf â chyfuno'r ddwy ysgol, rydym wedi bod yn glir mai cam nesaf y cynllun fyddai adeiladu ysgol newydd a chyfleusterau cymunedol cysylltiedig megis campws cymunedol, yn agos at safle presennol Ysgol Gynradd Blaenymaes.

Mae llawer o adeiladau a gwasanaethau cymunedol yng nghanol y gymdogaeth ar hyd Broughton Avenue, a'r weledigaeth yw i'r ardal hon gael ei hailgynllunio, ei hailddatblygu ac/neu ei gwella i greu grŵp o gyfleusterau cymunedol gwell yng nghanol y ward.

Mae'r map isod yn dangos y lleoliad sydd wedi'i nodi fel y lle mwyaf addas ar gyfer hyn. Fodd bynnag, dylid nodi nad yw'r cynllun hwn yn derfynol ac mae'n destun proses gwmpasu a chynllunio fwy trylwyr, ac felly gall fod yn destun newid. Bydd safle presennol Ysgol Gynradd Blaenymaes yn parhau i fod yn weithredol yn ystod y gwaith adeiladu.

Safle Campws Cymunedol Arfaethedig (PDF, 2 MB)

A fydd gan yr ysgol newydd ddarpariaeth Dechrau'n Deg, dosbarth meithrin rhan-amser a Chyfleuster Addysgu Arbenigol?

Bydd.

Sut bydd yr ysgol newydd o fudd i ddisgyblion?

Bydd yr ysgolion sydd wedi'u cyfuno yn darparu'r buddion canlynol i ddisgyblion:

  • Mynediad i ddisgyblion i gyfleusterau ar y ddau safle.
  • Darparu tîm staff mwy a all ddarparu mwy o hyblygrwydd o ran cwmpasu'r cwricwlwm cyfan. Gall roi mwy o gyfleoedd i staff ddatblygu eu sgiliau wrth iddynt rannu arfer gorau o'r ddwy ysgol bresennol, a gall eu galluogi i wneud y defnydd gorau o arbenigedd staff.
  • Darparu ystod ehangach o weithgareddau addysgol ac allgyrsiol.

Bydd y cynllun tymor hwy ar gyfer ysgol newydd yn darparu cyfleusterau ysgol modern ar gyfer yr 21ain ganrif sydd wedi'u dylunio'n arbennig i ddiwallu anghenion plant. Bydd gwell amgylcheddau dysgu dan do ac yn yr awyr agored. Bydd yr holl staff a disgyblion yn cael y cyfle i helpu i lywio dyluniad adeilad newydd yr ysgol.

Pa gefnogaeth fydd yn cael ei rhoi i ddisgyblion i'w paratoi ar gyfer pontio i'r ysgol newydd?

Bydd cefnogaeth yn cael ei rhoi i ddisgyblion i'w helpu i baratoi ar gyfer symud i'w hadeilad ysgol newydd a bydd hyn yn cynnwys sesiynau dan arweiniad athrawon, diwrnodau pontio ac ymweliadau â'r safle newydd. Ymgynghorir â disgyblion drwy'r holl broses a gofynnir iddynt am eu syniadau ynghylch dyluniad yr ysgol.

A fydd gwisg ysgol newydd?

Y corff llywodraethu dros dro fydd yn penderfynu ar hyn, a bydd yn ystyried barn a syniadau'r disgyblion ynghylch hyn. Cynghorir y corff llywodraethu i ystyried canllawiau Llywodraeth Cymru ar wisg ysgol a chaniatáu cyfnod pontio / cyflwyno ar gyfer unrhyw wisg ysgol newydd. Gall disgyblion cymwys gael cyllid grant drwy Grant Hanfodion Ysgol (Grant Gwisg Ysgol - PDG - Mynediad yn flaenorol) Llywodraeth Cymru.

Beth fydd enw'r ysgol newydd?

Y corff llywodraethu dros dro fydd yn penderfynu ar hyn, a bydd yn ystyried barn a syniadau'r disgyblion ynghylch hyn.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 09 Medi 2025