Toglo gwelededd dewislen symudol

Llwybrau teithio llesol wedi'u cwblhau

Mae'r llwybrau newydd neu well hyn wedi'u cwblhau ac maent ar agor i bawb eu mwynhau.

Small group of walkers - Pontarddulais to Grovesend.

Cyswllt Pontarddulais

Mae'r cynllun hwn a gyflwynwyd yn ystod blwyddyn ariannol 2022/23 yn darparu llwybr defnydd a rennir 2.4km o hyd oddi ar y ffordd, heb draffig. Mae'r rhan hon yn parhau o'r llwybr teithio llesol presennol sy'n diweddu yn Station Road, Pengelli, ac yn parhau tua'r gogledd hyd at ddechrau'r eiddo preswyl yn Pentre Road/mynedfa maes y sioe ym Mhontarddulais. Mae gwybodaeth am dreftadaeth leol, seddi a byrddau picnic hygyrch ar gael ar hyd y llwybr.

Clasemont Road

Mae'r rhan 900m hon o lwybr defnydd a rennir oddi ar y ffordd rhwng cysylltiad yr A48 â chyffordd Long View Road (DVLA), wedi arwain at adeiladu rhan arall o lwybr strategol gogledd Abertawe a oedd ar goll. Mae'r llwybr yn cynnig darpariaeth beicio oddi ar y ffordd ddynodedig i'r DVLA, canolfan gyflogaeth fawr yng ngogledd Abertawe. Roedd darparu llwybr ar Clasemont Road hefyd yn bwysig iawn er mwyn sicrhau y gellir darparu llwybr yn y dyfodol rhwng Clasemont Road ac Ysbyty Treforys, gan arwain at gysylltedd ehangach â'r nifer o drefi mawr a safleoedd cyflogaeth i'r dwyrain, a mynediad i ganol y ddinas.

Tre-gŵyr i Bontybrenin

Mae cyflwyno llwybr beicio Pontybrenin wedi darparu llwybr cyswllt 1.4km oddi ar y ffordd rhwng Tre-gŵyr a Phontybrenin ar gyfer cymunedau Pontybrenin, Gorseinon a Phengelli. Oherwydd y llwybr cyswllt hwn, mae poblogaeth sylweddol o Abertawe bellach wedi'i chysylltu â manteision Llwybr 4 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol presennol.

Cyffordd Dyfaty

Mae llwybr defnydd a rennir newydd a adeiladwyd ger Dyfatty Street, i'r gorllewin o gyffordd Dyfaty, wedi llwyddo i gysylltu llwybrau teithio llesol i'r gogledd â chanol y ddinas, ac mae'n cysylltu â llwybr defnydd a rennir Orchard Street a gwblhawyd yn ddiweddar.

Llwybr Cyswllt de Treforys

Mae'r gwelliannau hyn i'r llwybr wedi gwella cysylltedd ar gyfer cymuned Treforys. Mae llwybrau cyswllt lleol gwell yn darparu dull oddi ar y ffordd o gael mynediad i lan ddwyreiniol afon Tawe. Mae hyd cyfan y llwybrau cyswllt gwell (1.8 km) wedi cael ei ehangu i fodloni'r safonau teithio llesol.

Sylwer: caiff y rhan yng nghanol y llwybr (wedi'i marcio'n ddu ar y map) ei chyflwyno yn 2022-23.

Camlas Tawe

Roedd y prosiect hwn yn canolbwyntio ar wella llwybr presennol llwybr y gamlas ger Camlas Tawe yn ardal Clydach. Mae'r gwelliannau hyn wedi darparu llwybr defnydd a rennir newydd oddi ar y ffordd, sydd wedi gwella'r isadeiledd ar y rhwydwaith yn fawr. Ymhlith y gwelliannau mae lledu ac ail-wynebu'r llwybr i ddarparu arwyneb sy'n addas ar gyfer teithio llesol wrth gadw cymeriad y llwybr halio.

Llwybr Cyswllt Mayals Road

Mae'r cyswllt hwn yn darparu llwybr 1.6km o hyd sy'n darparu cysylltedd a mynediad i'r rheini sy'n byw ym Mayals a West Cross. Bydd y llwybr, sydd wedi creu isadeiledd ar gyfer beicio ar hyd y cyswllt dosbarthu, yn hwyluso llwybr strategol ehangach i dde Gŵyr yn y blynyddoedd nesaf. Bydd y gwelliannau ar ffurf trac beicio hybrid ar y ffordd sydd wedi'i wahanu oddi wrth cerbydau a cherddwyr.

Cyswllt Olchfa

Mae'r cyswllt 2.5km hwn yn darparu mynediad oddi ar y ffordd i ardal fawr o Gilâ i lu o gyrchfannau trwy gysylltu â Llwybr 4 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol. Mae'r llwybr defnydd a rennir yn cynnig llwybr amgen i gerddwyr a beicwyr, gan gadw nhw i ffwrdd o goridor prysur Gŵyr. Fe'i defnyddir hefyd fel llwybr cerdded amgen i'r ysgol i ddisgyblion sy'n mynychu Ysgol Gyfun yr Olchfa.

Llwybrau Cyswllt Parc Sgeti

Mae'r prosiect hwn wedi cynnwys adeiladu 2km o lwybrau defnydd a rennir ger Sketty Park Road, Sketty Park Drive a Park Way. Mae'r llwybr cyswllt hwn yn darparu cysylltedd gwell i'r rhwydweithiau teithio llesol sy'n gwasanaethu'r ddinas.

Llwybr Cyswllt San Helen

Mae'r rhan fach hon o lwybr a rennir sy'n 0.59km o hyd yn darparu cyswllt allweddol o'r llwybr teithio llesol presennol ar hyd y blaendraeth (Llwybr 4 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol) i Neuadd y Ddinas, canolfan gyflogaeth bwysig a Llys y Goron.

Y Ceunant, Townhill

Mae'r llwybr 1.46km hwn a gyflwynwyd yn 2021/22 yn cynnig llwybr pwysig sy'n cysylltu cymuned Townhill â Carmarthen Road, sy'n gwasanaethu fel un o'r prif lwybrau i ganol y ddinas. Mae cyfran fawr o'r llwybr hwn yn cynnig mynediad i'r cymunedau ar bwynt uchaf Townhill, gan ddarparu isadeiledd cerdded a beicio o safon. Mae'r rhannau llechweddog a grëwyd trwy ran ganol y llwybr hwn yn lliniaru'r llethr serth, sy'n darparu llwybr hygyrch i gerddwyr a beicwyr.

Townhill Road

Mae'r llwybr 1.2km hwn yn cynnig cyswllt pwysig rhwng 'Y Ceunant' a Chyfnewidfa Broadway, gan alluogi teithio llesol drwy ganol Townhill. Mae'r llwybr cyswllt hwn yn darparu ar gyfer teithiau tua'r gogledd a'r de yn ogystal â darparu mynediad gwell a dewisiadau teithio llesol ar gyfer y rheini sy'n teithio i'r ysgol gynradd leol, Ysgol Gymunedol Townhill, a mwynderau lleol.

Craig-cefn-parc

Mae llwybr defnydd a rennir 1.4km o hyd yn darparu cysylltiadau lleol pwysig â chymunedau cyfagos Clydach, Pontardawe a Threforys. Mae'r cyswllt hwn yn datblygu cysylltedd gogledd-ddwyrain Abertawe ymhellach ac yn darparu llwybr hamdden gydag arwyneb sy'n addas ar gyfer teithio llesol.

Cyswllt Jersey Road

Mae'r cyswllt hwn ar hyd Jersey Road yn cysylltu llwybrau cerdded a beicio presennol â'r Trallwn yn y dwyrain a Pharth Menter Abertawe i'r gorllewin. Mae llwybr defnydd a rennir newydd ar hyd ochr orllewinol Jersey Road yn darparu mynediad lleol i gyflogaeth, addysg, siopau, gwasanaethau ac amwynderau, a chysylltedd strategol ehangach â'r rhwydwaith di-draffig presennol.