Toglo gwelededd dewislen symudol

Amddiffyn plant - ydych chi'n pryderu am gam-drin posib?

Beth ddylech ei wneud os ydych chi'n pryderu bod plentyn mewn perygl o gael ei niweidio.

Os ydych yn gofidio bod plentyn mewn peryg, cysylltwch â'r Gwasanaethau Cymdeithasol.

I roi gwybod am eich pryderon, cysylltwch â'r Gwasanaethau Cymdeithasol Un pwynt cyswllt (UPC)

Mewn argyfwng, cysylltwch â'r heddlu ar 101 neu ffoniwch 999.

 

Beth yw cam-drin plant?

Mae rhai plant sy'n byw gyda'u teuluoedd neu yn y gymuned yn wynebu ymddygiad amhriodol sy'n gallu cael effaith andwyol ar les plentyn yn awr ac yn y dyfodol. Gall rywun gam-drin neu esgeuluso plentyn drwy ei niweidio, neu fethu â gweithredu er mwyn ei atal rhag cael ei niweidio. Yn ogystal â phlant sy'n cael eu cam-drin o fewn eu teuluoedd neu yn y gymuned, gall rhai plant hefyd gael eu cam-drin mewn lleoliad sefydliadol gan rywun sy'n hysbys iddynt, neu'n, fwy prin, gan ddieithryn. 

Gall cam-drin fod ar sawl ffordd gan gynnwys:

  • Cam-drin corfforol
  • Cam-drin emosiynol
  • Cam-drin rhywiol
  • Cam-drin ariannol
  • Esgeulustod.

A all ddigwydd ym mhob gr?p cymdeithasol. Mae'n gyfrifoldeb ar bob oedolyn i amddiffyn plant.  

Mae Deddf Plant 1989 yn gosod rhwymedigaeth gyfreithiol ar y Gwasanaethau Cymdeithasol i weithredu pan ceir gwybodaeth i ddweud bod plentyn mewn perygl o gael ei niweidio neu ei esgeuluso.

Beth dylwun i ei wneud os yw plentyn yn cael ei gam-drin?

Cysylltwch â'r Tîm Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth i Blant a Theuluoedd Un pwynt cyswllt (UPC)

Peidiwch â cheisio ymchwilio i'ch drwgdybiaeth eich hun. 

Mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob tro.

Pa wybodaeth y mae angen i mi ei darparu?

Y fwyaf o wybodaeth rydych yn gallu ei darparu, hawsaf y bydd hi i staff y Gwasanaethau Cymdeithasol olrhain unrhyw gofnodion presennol am y plentyn. Enw llawn y plentyn, ei gyfeiriad a'i ddyddiad geni yw'r wybodaeth fwyaf defnyddiol. Os nad ydych yn gwybod pob un o'r rhain, gallai gwybodaeth arall fel enwau'r rhieni neu frodyr a chwiorydd neu'r ysgol y mae'r plentyn yn ei mynychu fod o gymorth. Bydd rhaid i chi esbonio pam rydych yn gofidio am y plentyn, gan roi cymaint o fanylion â phosib.

Gallwch roi'r wybodaeth yn ddienw os ydych yn dymuno, er y gall fod yn ddefnyddiol cael eich manylion rhag ofn y bydd angen ei hegluro yn ystod yr ymholiadau. Fel aelod o'r cyhoedd, cedwir eich hunaniaeth yn gyfrinachol gan y tîm/timau sy'n ymchwilio i'ch adroddiad.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Rhaid cynnal ymholiadau i ddod o hyd i'r ffeithiau ac i benderfynu a yw plentyn yn cael ei niweidio'n gorfforol neu'n emosiynol ai peidio. Yn amodol ar natur y wybodaeth a dderbyniwyd, gall fod yn angenrheidiol cynnwys asiantaethau eraill, fel yr Heddlu.

Bydd staff a hyfforddwyd yn broffesiynol yn siarad â'r teulu am eu pryderon ac yn gwrando ar eu barn ynghylch y mater.  Byddant hefyd yn ymweld ac yn siarad â'r plentyn/plant dan sylw ac unrhyw bobl eraill mae ganddynt wybodaeth berthnasol. 

Beth fydd yn digwydd o ganlyniad i'r ymholiadau hyn?

  • Efallai gall y Gwasanaethau Cymdeithasol ddarparu cefnogaeth neu gyngor i'r teulu, neu eu cyfeirio at asiantaeth arall a all helpu gyda'u problemau.
  • Mewn rhai achosion, gall fod yn angenrheidiol trefnu Cynhadledd Amddiffyn Plant lle bydd staff proffesiynol o sawl asiantaeth yn cwrdd i drafod y pryderon ynghylch y plentyn a chytuno ar y ffordd orau i amddiffyn y plentyn a chefnogi'r teulu.
  • Lle bynnag y bo'n bosib, bydd y Gwasanaethau Cymdeithasol yn cadw'r teulu ynghyd wrth i ni weithio gyda nhw i ddatrys yr anawsterau maent yn eu hwynebu. 
  • Mewn achosion eithriadol, fodd bynnag, efallai bydd y gweithwyr proffesiynol yn meddwl bod plentyn mewn perygl o gael ei niweidio neu fod y risg o niwed i'r plentyn mor ddrwg fel ni ddylent fyw gyda pherson neu bobl benodol. Mewn achosion o'r fath, bydd y plentyn/plant fel arfer yn derbyn gofal gan yr Awdurdod Lleol er y byddem yn darganfod yn gyntaf a oedd unrhyw ffrindiau neu berthnasau a allai helpu.  Yn aml, mae'n bosib i'r plentyn ddychwelyd adref pan fydd y problemau wedi cael eu datrys.

Beth os wyf wedi gwneud camsyniad ac nid oes tystiolaeth o gam-drin?

Weithiau, nid yw ymholiadau'n dangos unrhyw bryder arwyddocaol am y plentyn ac nid oes angen unrhyw weithredu pellach. Serch hynny, mae'n well gwirio sefyllfa a darganfod fod popeth yn iawn yn hytrach nag anwybyddu arwyddion rhybuddio posib a pheryglu'r plentyn.

Close Dewis iaith