Amrywio goruchwyliwr mangre dynodedig
Dim ond deiliad y drwydded mangre all wneud cais i amrywio'r Goruchwyliwr Mangre Dynodedig. Os bydd Goruchwyliwr Mangre Dynodedig yn gadael y tŷ trwyddedig yna rhaid gwneud amrywiad ar unwaith. Ni fyddwch yn cael eich awdurdodi i werthu alcohol nes bod y cais cywir wedi'i wneud.Bydd angen i chi gael caniatâd gan y Goruchwyliwr Mangre Dynodedig newydd.
Rhaid i'r Goruchwyliwr Mangre Dynodedig lenwi'r ffurflen Consent of individual to being specified as premises supervisor (PDF, 43 KB). Bydd rhaid lanlwytho'r caniatâd hwn i'r ffurflen ar-lein felly bydd rhaid i chi sicrhau ei fod gennych cyn i chi gwblhau'r cais i amrywio goruchwyliwr mangre dynodedig.
Mae'n rhaid i chi hefyd ddarparu'r drwydded mangre bresennol neu reswm pam na ellir ei darparu.
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, e-bostiwch Trwyddedu.IyA@abertawe.gov.uk.