Toglo gwelededd dewislen symudol

Anifeiliaid perfformio

Os ydych yn arddangos, yn defnyddio neu'n hyfforddi anifeiliaid perfformio, bydd rhaid i chi gofrestru gyda ni. Mae hyn yn cynnwys defnyddio anifeiliaid mewn perfformiadau llwyfan, mewn syrcas ac fel rhan o arddangosfa.

Nid yw Deddf (Rheoli) Anifeiliaid Perfformio 1925 yn ymwneud â hyfforddi ac arddangos anifeiliaid at ddibenion milwrol, heddlu, amaethyddol neu chwaraeon dilys.

Mae gan swyddogion yr heddlu a'r awdurdod lleol gan gynnwys milfeddyg, y pŵer i fynd i mewn i eiddo lle mae anifeiliaid yn cael eu hyfforddi a'u harddangos. Os deuir o hyd i greulondeb ac esgeulustod, gall llys yr ynadon wahardd neu gyfyngu ar hyfforddiant neu arddangos yr anifeiliaid ac atal neu ganslo'r cofrestriad a roddir o dan y Ddeddf.

In partnership with EUGO logo
Sut mae gwneud cais

Cyflwyno cais am drwydded i hyfforddi ac arddangos anifeiliaid sy'n perfformio Cyflwyno cais am drwydded i hyfforddi ac arddangos anifeiliaid sy'n perfformio

Mae'n rhaid i chi lenwi pob rhan o'r ffurflen gais. Bydd angen i chi dalu ffi'r cais pan gyflwynwch eich ffurflen. Bydd ffi i dalu am ymweliad y milfeddyg yn dilyn yr ymweliad hwnnw.

Ffïoedd

Ffioedd am drwyddedau anifeiliaid Ffioedd am drwyddedau anifeiliaid

Rhaid i chi gyflwyno'ch ffi gyda'r cais.  Bydd gofyn i chi dalu ffi bellach ar gyfer ymweliad y milfeddyg yn dilyn yr ymweliad hwnnw.

Os gwnewch gais trwy'r post, dylech wneud sieciau'n daladwy i 'Dinas a Sir Abertawe' a'u hanfon gyda'ch ffurflen wedi'i llenwi.

 

Caniatâd Dealledig

Er budd y cyhoedd mae'n rhaid i'r awdurdod brosesu eich cais cyn iddo gael ei ganiatáu. Os nad ydych wedi clywed gennym o fewn cyfnod rhesymol, cysylltwch â'r tîm Trwyddedu.

 

Os oes gennych unrhyw broblemau gyda'ch cais, neu os oes angen mwy o wybodaeth arnoch, ffoniwch ni ar 01792 635600 neu e-bostiwch trwyddedu.iya@abertawe.gov.uk.

Cyflwyno cais am drwydded i hyfforddi ac arddangos anifeiliaid sy'n perfformio

Defnyddiwch ein ffurflen ar-lein i wneud cais am drwydded i hyfforddi ac arddangos anifeiliaid sy'n perfformio.