Toglo gwelededd dewislen symudol

Herio PCN

Gallwch apelio yn erbyn PCN os ydych chi'n meddwl eich bod wedi cael un yn anghywir.

Cyn i chi gyflwyno her - ydych chi wedi gwirio'ch holl opsiynau?

Mae gennych ddau gyfle i herio Hysbysiad o Dâl Cosb (PCN), gan ddibynnu ar ba gam y mae hyn:

Cyflwyno her anffurfiol

I'w wneud cyn cyflwyno 'hysbysiad i'r perchennog'.

Os ydych yn cyflwyno'ch her o fewn 14 diwrnod i'r dyddiad y rhoddwyd y PCN ac mae eich her yn cael ei gwrthod, ailosodir y cyfnod gostyngiad am gyfnod pellach o 14 diwrnod o ddyddiad y llythyr gwrthod.

Dechrau her anffurfiol nawr Dechrau her anffurfiol nawr

Gwneud sylwadau ffurfiol

I'w wneud ar ôl cyflwyno 'hysbysiad i'r perchennog'.

Os nad ymatebir i'r PCN o fewn 28 niwrnod i'r dyddiad y'i rhoddwyd, anfonir hysbysiad i'r perchennog. Dewiswch yr opsiwn hwn os ydych wedi derbyn hysbysiad i'r perchennog ac yn dymuno gwneud sylw yn ei erbyn.

Gwneud sylwadau ffurfiol nawr Cyflwyno sylwadau ffurfiol i'r cyngor

Close Dewis iaith