Beth sy'n digwydd ar ôl i chi dderbyn tocyn parcio?
Os ydych wedi derbyn tocyn parcio (PCN) mae hyn am eich bod wedi mynd yn groes i gyfyngiad parcio.Gallwch ddod o hyd i esboniad am pam rydych wedi derbyn y PCN ar eich tocyn.
Mae gan bob PCN rif unigryw. Bydd angen y rhif hwn i:
- Dalu'r tocyn (os ydych yn talu'n gyflym, byddwch yn arbed 50%), neu
- Herio'r tocyn.
Y peth gwaethaf y gallwch ei wneud yw anwybyddu PCN - NI fydd yn diflannu a BYDD YN costio mwy i chi.
- Os nad ydych yn talu neu'n herio'n affurfiol o fewn 14 diwrnod, bydd angen i chi dalu tâl llawn y PCN (£70 neu £50).
- Os nad ydych yn talu'r tâl llawn (£70 neu £50) o fewn 28 niwrnod o dderbyn y PCN, anfonir Hysbysiad i'r Perchennog at y ceidwad cofrestredig a gofrestrir gyda'r DVLA.
- Ar ôl 28 niwrnod o'r dyddiad rydych yn derbyn yr Hysbysiad i'r Perchennog, os nad ydych wedi talu'r tâl o hyd neu gyflwyno sylwadau anfonir Tystysgrif Tâl atoch a bydd y tâl cosb yn codi 50%. Os ydych yn derbyn Tystysgrif Tâl mae'n rhaid i chi dalu'r tâl o fewn 14 diwrnod. Nid oes hawl herio ar y cam hwn.
- Os nad ydych yn talu'r tal o hyd, gellir ei gofrestru fel dyled yn y Llys Sirol ac eir ati i gasglu'r ddyled gan ddefnyddio beilïod.
Faint yw cost yr hysbysiad o dâl cosb?
Y tâl cosb yw £70 neu £50 - gweler eich PCN.
Byddwch yn gymwys am ostyngiad o 50% os derbynnir y tâl ar gyfer y PCN o fewn 14 diwrnod o'r dyddiad cyflwyno. Wedi i chi dalu'r PCN, rydych wedi derbyn atebolrwydd am y tâl cosb ac ni allwch herio'r PCN mwyach.
Pam fo dau dâl gwahanol?
Tramgwyddau mwy difrifol = £70 (wedi'i ostwng i £35 os caiff ei dalu o fewn 14 diwrnod)
Ceir hyn fel arfer pan ystyrier nad ydyw gyrrwr y cerbyd wedi cymryd unrhyw gamau i barcio'n gywir. Er enghraifft, lle mae'r cerbyd wedi'i barcio ar linellau melyn, mewn cilfan i'r anabl heb y drwydded sy'n ofynnol neu mewn safle bws.
Tramgwyddau llai difrifol = £50 (wedi'i ostwng i £25 os caiff ei dalu o fewn 14 diwrnod)
Ceir hyn pan fydd gyrrwr y cerbyd wedi gwneud ymgais i barcio'n gywir. Er enghraifft, lle mae'n arddangos tocyn talu a pharcio sydd wedi dod i ben am y dyddiad dan sylw.
Mae'r taliadau wedi'u pennu gan yr Adran Drafnidiaeth ac fe'u nodir gan y côd tramgwydd sy'n berthnasol i'r tâl cosb a roddwyd.Nid oes disgresiwn gan swyddogion gorfodi sifil wrth roi hysbysiad o gosb benodol i ddweud ai'r tâl uwch neu is fydd yn berthnasol.
Beth yw'r rhesymau dros gael tocyn parcio?
Mae parcio'n groes i'r cyfyngiadau parcio'n achosi tagfeydd ac anghyfleustra i gerddwyr, beicwyr, pobl anabl, cerbydau dosbarthu, y gwasanaethau brys a rhwydweithiau trafnidiaeth lleol. Gall hefyd fod yn beryglus. Os yw'ch car yn peri perygl diogelwch, yn creu tagfa neu rwystr, gall yr heddlu ei symud.Dangosir pob cyfyngiad parcio gan arwyddion a marciau ar y ffordd.
Mae côd tramgwydd yn ymddangos ar y PCN a roddwyd ar eich cerbyd. Mae'r côd hwn yn dweud wrth y gyrrwr neu'r perchennog pam y cyflwynwyd y tocyn. Mae ein tudalennau Arweiniad i'r Hysbysiad o Dâl Cosb (PCN) yn egluro ystyr pob côd a pham y rhoddwyd hysbysiad parcio. Yma hefyd ceir arweiniad ar sut i apelio yn erbyn PCN.