
Talu dirwy barcio
Gallwch dalu Hysbysiad o Dâl Cosb (PCN) ar-lein ar y wefan hon, yn bersonol yn y Ganolfan Ddinesig, drwy'r post neu dros y ffôn.
Talu Ar-lein
I dalu ar-lein, cliciwch ar y ddolen i'n system daliadauYn agor mewn ffenest newydd. Bydd angen i chi roi eich Rhif PCN neu Gyfeirnod Dâl Ychwanegol sydd ar frig y tocyn yn y blwch Cyfeirnod.
Mae gwybodaeth am ddiogelwch a'n system dalu ar-lein ar gael ar waelod y dudalen hon.
Talu'n Bersonol
Gellir talu yn Ganolfan Gyswllt yn y Ganolfan Ddinesig. Gallwch dalu â cherdyn, siec neu arian parod. Dewch â'ch PCN neu Rybudd o Dâl Ychwanegol gyda chi.
Trosglwyddiad banc
Ni ellir gwneud trosglwyddiad banc os yw'ch achos/achosion yn nwylo asiant gorfodi. Bydd costau ychwanegol yn berthnasol ac mae angen i chi ymdrin â hwy'n uniongyrchol.
Gallwch dalu'ch bil yn uniongyrchol i gyfrif banc y cyngor. Cofiwch ddyfynnu'ch rhif cyfrif neu ni fyddwn yn gallu talu'r arian i'ch cyfrif.
Lloyds Bank PLC, 802 Stryd Rhydychen, Abertawe, SA1 3AF.
Côd didoli 30-00-00
Rhif y cyfrif 00283290
Talu Drwy'r Post
Gwnewch eich siec neu'ch archeb bost yn daladwy i 'Dinas a Sir Abertawe', ysgrifennwch rif eich Hysbysiad o Dâl Cosb (gweler uchod) a'ch cyfeiriad ar y cefn, yna ei hanfon i'r: Adran Derbynyddion Arian, Dinas a Sir Abertawe, Ystafell 1.7.7, Canolfan Ddinesig, Abertawe SA1 3SN.
Talu dros y Ffôn
Mae gwasanaeth ffôn awtomatig yn weithredol 24 awr y dydd, 7 niwrnod yr wythnos, a chodir tâl ar y gyfradd leol. I dalu dros y ffôn, ffoniwch 0300 456 2765 (Saesneg) neu 0300 456 2775 (Cymraeg). Bydd angen i chi nodi eich rhif PCN neu Gyfeirnod Tâl Ychwanegol, a manylion eich cerdyn debyd neu gredyd.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu sylwadau am faterion parcio, cysylltwch â ni drwy e-bostio car.parks@abertawe.gov.uk neu drwy'r post i Gwasanaethau Parcio, Blwch Post 588, Abertawe SA1 9GD.