Toglo gwelededd dewislen symudol

Dirwyon a thocynnau parcio

Y term swyddogol am docyn neu ddirwy parcio yw 'hysbysiad o dâl cosb' neu 'PCN' yn fyr. Rhoddir PCN ar gyfer parcio'n anghyfreithlon.

Rydym wedi cael gwybod am negeseuon testun twyllodrus sy'n cael eu hanfon at aelodau o'r cyhoedd yn awgrymu bod gan y derbynnydd ddirwy parcio nas talwyd ac yna'n gofyn am daliad ar gyfer yr Hysbysiad o Dâl Cosb.

Nid ydym yn anfon negeseuon testun at y cyhoedd mewn perthynas â Hysbysiadau o Dâl Cosb ac rydym yn annog unrhyw un sy'n derbyn neges destun o'r fath i'w hanwybyddu, i beidio â chlicio ar unrhyw ddolen yn y neges destun ac i drin y neges fel sgam. Anfonir yr holl ohebiaeth swyddogol mewn perthynas â Hysbysiadau o Dâl Cosb drwy e-bost neu lythyr.

Byddwch yn wyliadwrus.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu gwestiynau am hysbysiadau o dâl cosb, e-bostiwch meysydd.parcio@abertawe.gov.uk. Ni chaiff hwn ei drin fel apêl.

Wedi newid cyfeiriad?

Os ydych wedi newid cyfeiriad yn ddiweddar, bydd angen i chi ddiweddaru'r cyfeiriad yn eich llyfr cofnodion. Gallwch newid eich cyfeiriad yn llyfr cofnodion eich cerbyd (V5C) (Yn agor ffenestr newydd) ar wefan GOV.UK.

Rwyf wedi derbyn PCN (Hysbysiad o Dâl Cosb) - beth ddylwn i ei wneud nesaf?

Os ydych wedi cael PCN mae hyn oherwydd nad ydych wedi ufuddhau i gyfyngiad parcio. Bydd yr union reswm ar y PCN, ynghyd â rhif unigryw y bydd ei angen arnoch pan fyddwch yn talu neu'n apelio.

Talu PCN / dirwy barcio

Os ydych wedi derbyn Hysbysiad o Dâl Cosb, gallwch dalu'ch dirwy ar-lein, dros y ffôn neu drwy'r post.

Herio PCN

Gallwch apelio yn erbyn PCN os ydych chi'n meddwl eich bod wedi cael un yn anghywir.

Gwneud cais am gopi o'ch rhif PCN

Os ydych chi wedi derbyn dirwy parcio ond wedi colli'ch tocyn, gallwch wneud cais am gopi o'ch rhif PCN.

Mae fy nhâl parcio wedi cael ei drosglwyddo i feili - beth sy'n digwydd nesaf?

Mae opsiynau ar gael i chi o hyd, hyd yn oed pan fo'ch achos tâl am barcio wedi'i drosglwyddo i feili.

Canllaw i PCNau

Bydd y canllaw hwn yn rhoi mwy o fanylion i chi am y gwahanol daliadau a p'un a allwch herio'ch PCN.

Gorfodi parcio sifil

Rydym yn gyfrifol am fonitro a gorfodi rheoliadau parcio i sicrhau diogelwch preswylwyr ac ymwelwyr. Byddwn yn rhoi dirwyon (hysbysiadau o dâl cosb) ar gyfer unrhyw gerbydau nad ydynt wedi'u parcio'n gyfreithlon neu'n ddiogel.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 21 Awst 2025