Toglo gwelededd dewislen symudol

Gorfodi parcio sifil

Mae'r cyngor yn gyfrifol am orfodi llinellau melyn a chilfannau parcio. Bydd Swyddogion Gorfodi Sifil yn rhoi PCN i gerbydau sy'n torri'r cyfyngiadau parcio ar y stryd ac oddi ar y stryd, gan gynnwys meysydd parcio.

Y tâl cosb cyfredol yw £70 am dramgwydd uwch neu £50 am dramgwydd is. Gellir talu hanner y gosb os gwneir hynny o fewn 14 diwrnod, ond bydd y gosb yn dyblu os na chaiff ei thalu o fewn 28 niwrnod.

Talu dirwy barcio Talu dirwy barcio

Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu gwestiynau ynghylch Hysbysiad o Dâl Cosb (tocyn parcio), e-bostiwch Meysydd.Parcio@abertawe.gov.ukNi chaiff yr ohebiaeth hon ei thrin fel apêl. Gallwch gyflwyno apêl ar-lein trwy gwblhau'r ffurflen ar y dudalen Apelio yn erbyn Hysbysiad o Dâl Cosb (PCN) ar y wefan hon. Os ydych chi o'r farn y cyflwynwyd eich hysbysiad o dâl cosb ar gam, gallwch ei herio. Mae'n rhaid i chi wneud hyn ar-lein neu'n ysgrifenedig o fewn 21 diwrnod i'w dderbyn. Ni allwch apelio dros y ffôn.

Mae ein tudalennau Arweiniad ar gyfer hysbysiad tâl cosb (PCN) yn esbonio pam rydych chi wedi derbyn PCN.

Mae Dinas a Sir Abertawe yn gyfrifol am orfodi:

  • llinellau melyn
  • cilfannau parcio i breswylwyr
  • arosfannau bysus a chlirffyrdd
  • cilfannau parcio i bobl anabl
  • cilfannau talu ac arddangos
  • meysydd parcio'r cyngor
  • rhengoedd tacsis
  • croesfannau cerddwyr a marciau igam-ogam
  • ardaloedd parcio a reolir
  • cyrbau isel (croesfannau cerbydau)

Mae'r Heddlu'n gyfrifol am:

  • rhwystrau ar y briffordd
  • cyrbau isel (croesfannau cerbydau) a lle ceir rhwystrau
  • parcio ar y palmant
  • troseddau traffig sy'n symud

Sut i osgoi tâl cosb

Dylech:

  • barcio'n ddiogel
  • parcio yn y mannau a ddarperir
  • edrychwch ar yr arwyddion am gyfyngiadau amser, gall y rhain amrywio. Sylwer, nid yw'r arwyddion bob amser yn agos os yw'r ardal yn rhan o Barth Parcio a Reolir  
  • gadael o fewn y cyfyngiad amser
  • defnyddio ac arddangos eich bathodyn person anabl fel y nodir yn y llyfryn bathodyn glas
  • llwytho a dadlwytho mor gyflym â phosib
  • edrych ar y marciau ffordd cyn parcio
  • darllen rheolau'r ffordd fawr i'ch atgoffa o ystyr y marciau
  • bod yn ymwybodol o'r cyfyngiadau sy'n gymwys ar gyfer y briffordd gyfan, gan gynnwys ymylon a phalmentydd
  • arddangos y tocyn talu ac arddangos yn gywir

Ni ddylech:

  • barcio ar linellau melyn
  • achosi rhwystr
  • parcio mewn safle bws neu ar glirffyrdd, hyd yn oed i ollwng pobl
  • parcio ar linellau igam-ogam
  • parcio neu aros mewn rhengoedd tacsis. Mae parthau halio ymaith yn gymwys ym mhob rheng dacsis.

Gorchmynion Rheoleiddio Traffig

Mae'n rhaid sicrhau bod Gorchymyn Rheoleiddio Traffig (TRO) dilys ar waith er mwyn i'r cyngor allu gorfodi cyfyngiad parcio. Gallwch weld y Gorchmynion Rheoleiddio Traffig yn y Llyfrgell Gorchmynion Rheoleiddio Traffig ar wefan y Tribiwnlys Cosbau Traffig. Sylwer y gallai gorchmynion a gyflwynwyd yn ddiweddar gymryd ychydig o amser i ymddangos yn y llyfrgell. 

Wedi symud cyfeiriad?

Os ydych wedi newid cyfeiriad yn ddiweddar, bydd angen i chi ddiweddaru'r cyfeiriad yn eich llyfr cofnodion. Gallwch newid eich cyfeiriad ar lyfr cofnodi eich cerbyd (V5C) (Yn agor ffenestr newydd) ar wefan gov.uk.

Beth sy'n digwydd ar ôl i chi dderbyn tocyn parcio?

Os ydych wedi derbyn tocyn parcio (PCN) mae hyn am eich bod wedi mynd yn groes i gyfyngiad parcio.Gallwch ddod o hyd i esboniad am pam rydych wedi derbyn y PCN ar eich tocyn.

Arweiniad ar gyfer hysbysiad tâl cosb (PCN)

Os ydych wedi derbyn hysbysiad tâl cosb ac yn ansicr pam y rhoddwyd dirwy i chi, bydd yr arweiniad hwn yn esbonio'r cod tramgwyddo.

Apelio yn erbyn Hysbysiad o Dâl Cosb (PCN)

Gallwch herio'ch tâl cosb am barcio os ydych yn teimlo y rhoddwyd hwn ar gam.

Achosion sydd wedi'u trosglwyddo i feilïod (asiantiaid gorfodi)

Mae opsiynau ar gael i chi o hyd, hyd yn oed pan fo'ch achos tâl am barcio wedi'i drosglwyddo i feili.

Fan camera

Defnyddir fan camera gorfodi parcio i helpu i leihau parcio anghyfreithlon yn Abertawe.

Cwestiynau cyffredin am ddirwyon parcio

Cwestiynau cyffredin am Hysbysiadau o Dâl Cosb (PCN).
Close Dewis iaith