Dirwyon a thocynnau parcio
Y term swyddogol am docyn neu ddirwy parcio yw 'hysbysiad o dâl cosb' neu 'PCN' yn fyr. Rhoddir PCN ar gyfer parcio'n anghyfreithlon.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu gwestiynau am hysbysiadau o dâl cosb, e-bostiwch meysydd.parcio@abertawe.gov.uk. Ni chaiff hwn ei drin fel apêl.
Wedi newid cyfeiriad?
Os ydych wedi newid cyfeiriad yn ddiweddar, bydd angen i chi ddiweddaru'r cyfeiriad yn eich llyfr cofnodion. Gallwch newid eich cyfeiriad yn llyfr cofnodion eich cerbyd (V5C) (Yn agor ffenestr newydd) ar wefan GOV.UK.
Rhoddwyd gwybod i Gyngor Abertawe am weithred twyllodrus sy'n cynnwys negeseuon testun twyllodrus sy'n honni bod yn Hysbysiad o Dâl Cosb (PCN) oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau (DVSA). Sylwer nad yw Cyngor Abertawe'n anfon negeseuon testun ynghylch PCN; gwneir pob gohebiaeth swyddogol trwy lythyrau. Rydym yn derbyn manylion ceidwad cofrestredig oddi wrth y DVLA ac nid oes gennym fynediad at ddata personol arall.
Mae rhai pobl a dderbyniodd y neges dwyllodrus wedi clicio'r ddolen a oedd wedi'i chynnwys i wirio a oedd ganddynt PCN, ond mae hyn yn eu cyfeirio i wefan ffug y Llywodraeth. Mae'n bwysig nodi nad oes unrhyw gronfa ddata PCN. Cedwir unrhyw PCN a roddir gan Gyngor Abertawe ar ein system, nid ar system y DVLA neu'r DVSA.
Os ydych yn derbyn neges debyg ac rydych am sicrhau nad oes gennych PCN, defnyddiwch ein gwasanaeth ar-lein yn - Gwneud cais am gopi o'ch rhif PCN - neu drwy e-bostio'r Gwasanaethau Parcio am gymorth yn Meysydd.Parcio@abertawe.gov.uk.