Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Beth ddigwyddodd nesaf: cynllunio stâd ardd-ddinas

Trawsnewid ffermdir gwyntog yn stâd dai fodern

What happened next
Digwyddodd llawer o bethau wedi'r arddangosfa. Yn gyntaf, penodwyd Pensaer y Fwrdeistref ym 1911, gan alluogi'r cyngor i gyflawni'r gwaith dylunio yn fewnol. Yna, ym 1912, bu Syr Raymond Unwin a George Bell, Syrfëwr y Fwrdeistref, yn gweithio ar gynllun ar gyfer stâd dai uchelgeisiol a fyddai'n gorchuddio tir o eiddo'r cyngor yn Townhill a Mayhill.

Cyflwynwyd cynlluniau a oedd yn gynyddol fawreddog i ddatblygu hyd at 500 o dai. Cafwyd trafodaethau ynghylch sut i gyflawni hyn a faint o dai y dylid eu hadeiladu gyda'i gilydd mewn bloc. Ym 1914 cwblhawyd rhes arbrofol o chwe th? ger cylch yr arddangosfa. Yn wreiddiol fe'u gelwid yn fythynnod Sampl Mayhill, a heddiw dyma eilrifau 2 i 12 Heol Islwyn.

Rhoddwyd y gorau i'r cynlluniau fwy neu lai oherwydd y Rhyfel Byd Cyntaf, a pharhâi'r clwstwr o dai a adeiladwyd ym Mayhill dan yr enw poblogaidd Mayhill Garden City (Gardd-ddinas Mayhill). Pan ailgychwynnwyd ar yr adeiladu, roedd yn rhaid diystyru llawer o'r cynlluniau gwreiddiol oherwydd canllawiau newydd.

Ar ôl y rhyfel, roedd hi'n argyfwng ar y sefyllfa dai ar draws y wlad i gyd. Pasiwyd Deddf Tai 1919, a orchmynnai pob awdurdod lleol i gyflwyno cynllun tai. Am fod Abertawe wedi gwneud cymaint o'r gwaith paratoi'n barod, roedd yn gallu cyflwyno cynllun bron ar unwaith, ac o fewn misoedd o basio'r Ddeddf, dechreuwyd ar gam cyntaf yr adeiladu yn Townhill.

Wrth i'r gwaith ar y stâd fynd rhagddo, felly dechreuwyd ar y gwaith o glirio'r slymiau'n raddol. Erbyn 1940:-

  • dynodwyd 227 o safleoedd yn anaddas i fyw ynddynt
  • dymchwelwyd 1245 o dai
  • roedd 1621 o deuluoedd a 6034 o bobl wedi'u hailgartrefu

Am ddarllen mwy?

Mae'r Gwasanaeth Archifau'n gwerthu llyfr o'r enw "Homes for Heroes" am ddatblygiad Townhill a stadau tai cyngor eraill yn Abertawe. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.

Close Dewis iaith